Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Costau gofal plant – sut mae eu cyfrifo ar gyfer eich hawliad credydau treth

Gallwch gael credydau treth ychwanegol i helpu gyda chostau gofal plant cofrestredig neu gymeradwy rydych chi'n talu amdanynt. Mae faint o gredydau treth a gewch chi'n dibynnu ar eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae cyfrifo eich costau.

Pam mae angen i chi gyfrifo eich costau gofal plant

Mae angen i chi gyfrifo eich costau wythnosol cyfartalog yn gywir os ydych:

  • yn hawlio help drwy gredydau treth ar gyfer eich costau gofal plant
  • eisoes yn cael credydau treth ac mae eich costau gofal plant yn newid – efallai y bydd angen i chi roi gwybod bod eich amgylchiadau wedi newid

Fel arall efallai y byddwch chi'n cael gormod – neu ddim digon – o gredydau treth.

Beth i beidio â'u cynnwys yn eich costau

Wrth gyfrifo eich costau wythnosol cyfartalog, rhowch y costau gofal plant rydych chi eich hun yn talu amdanynt yn unig.

Peidiwch â chynnwys costau mae unrhyw un o'r symiau canlynol yn talu amdanynt:

  • taliadau gofal plant gan eich cyflogwr – naill ai mewn arian neu dalebau
  • taliadau gofal plant am ostyngiad yn eich tâl – gelwir hwn yn gytundeb ‘aberthu cyflog’
  • taliadau neu grantiau gofal plant drwy un o Gynlluniau'r Llywodraeth, er enghraifft i'ch helpu chi i ddechrau gweithio neu oherwydd eich bod yn fyfyriwr
  • costau gofal plant mae eich darparwr addysg neu'ch awdurdod lleol yn talu amdanynt ar gyfer gofal plant meithrinfa eich plentyn

Rydych yn hawlio ac wedi bod yn defnyddio gofal plant ers llai na blwyddyn

Defnyddiwch y tabl hwn i’ch helpu i gyfrifo eich costau gofal plant.

Pa mor aml ydych chi'n talu eich darparwr/darparwyr gofal plant

Ydych chi bob amser yn talu'r un faint?

Sut mae cyfrifo beth yw eich cost wythnosol gyfartalog

Bob wythnos

Ydw

  • cymerwch y cyfanswm rydych chi'n ei dalu bob wythnos
  • talgrynnwch y swm hwn i fyny i'r bunt agosaf

Bob wythnos

Nac ydw

  • adiwch yr holl symiau rydych chi'n disgwyl eu talu i gyd dros y 52 wythnos nesaf – dechreuwch o'r dyddiad rydych chi'n gwneud y cyfrifiad
  • rhannwch y ffigur hwn gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Bob mis

Ydw

  • cymerwch y cyfanswm rydych chi'n ei dalu bob mis
  • lluoswch y swm hwn gyda 12
  • rhannwch y ffigur hwn gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Bob mis

Nac ydw

  • adiwch yr holl symiau rydych chi'n disgwyl eu talu i gyd dros y 12 mis nesaf – dechreuwch o'r dyddiad rydych chi'n gwneud y cyfrifiad
  • rhannwch y ffigur hwn gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Unrhyw gyfnod arall

Ydw neu nac ydw

Os nad ydych chi wedi dechrau talu am ofal plant eto, gofynnwch i'ch darparwr beth fydd y gost.

Rydych yn hawlio ac wedi bod yn defnyddio gofal plant ers blwyddyn neu ragor

Bydd eich dull o gyfrifo’ch costau’n dibynnu ar a ydych bob amser yn talu – neu'n disgwyl talu – yr un costau gofal plant drwy gydol y flwyddyn.

Rydych bob amser yn talu – neu’n disgwyl talu – yr un costau

Defnyddiwch y tabl hwn os ydych bob amser yn talu – neu'n disgwyl talu – yr un costau gofal plant drwy gydol y flwyddyn. ‘Symiau sefydlog’ yw'r enw ar y rhain.

Pa mor aml ydych chi'n talu eich darparwr/darparwyr gofal plant

Sut mae cyfrifo beth yw’r gost wythnosol gyfartalog

Bob wythnos

  • cymerwch y cyfanswm rydych chi'n ei dalu bob wythnos
  • talgrynnwch y swm hwn i fyny i'r bunt agosaf

Bob pedair wythnos

  • rhannwch y cyfanswm gyda phedwar
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Bob mis calendr

  • cymerwch y cyfanswm rydych chi'n ei dalu bob mis
  • lluoswch y swm hwnnw gyda 12
  • rhannwch y cyfanswm hwnnw gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Bob pythefnos

  • rhannwch gyfanswm eich taliad gyda dau
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Bob blwyddyn

  • rhannwch gyfanswm eich cost flynyddol gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Bob tymor

Cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth i gael help i gyfrifo eich costau.

Rydych yn talu – neu’n disgwyl talu – symiau gwahanol

Weithiau efallai eich bod yn talu – neu'n disgwyl talu – symiau gwahanol ar gyfer gofal plant (‘symiau amrywiol’ yw'r enw ar y rhain).

Er enghraifft, rydych yn defnyddio gofal plant yn rheolaidd ond byddwch yn talu mwy – neu lai – yn ystod gwyliau'r ysgol na fyddwch chi yn ystod y tymor. Efallai fod hyn yn digwydd oherwydd bod yr oriau rydych chi'n defnyddio gofal plant yn newid o un wythnos i'r llall neu o un mis i'r llall.

Cyfrifwch y costau fel a ganlyn:

  • adiwch faint rydych chi wedi'i wario gyda'i gilydd dros y 52 wythnos diwethaf (neu 12 mis os ydych chi'n talu bob mis neu fesul unrhyw gyfnod arall) – dechreuwch am yn ôl o'r dyddiad rydych chi'n gwneud y cyfrifiad
  • rhannwch y ffigur hwn gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf

Rydych yn hawlio a dim ond yn defnyddio gofal plant am gyfnodau byr yn achlysurol

Efallai nad ydych yn defnyddio gofal plant fel arfer, dim ond am gyfnodau penodol bob hyn a hyn. Mae ‘penodol’ yn golygu eich bod yn gwybod pryd y bydd y gofal plant yn cychwyn ac yn gorffen. Gallai hyn fod yn ystod gwyliau’r ysgol neu mewn argyfwng.

Does dim angen i chi gyfrifo’ch costau gofal plant wythnosol cyfartalog eich hun. Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth – byddan nhw’n gwneud hynny drosoch chi. Pan fyddwch yn eu ffonio, dylai'r wybodaeth ganlynol fod wrth law gennych:

  • dyddiad cychwyn a gorffen y gofal plant
  • eich costau gofal plant ar gyfer y cyfnod byr
  • manylion eich darparwr gofal plant – enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif cofrestru neu gymeradwyaeth gofal plant (bydd eich darparwr gofal plant yn gallu rhoi'r wybodaeth hon i chi)

Rydych eisoes yn cael credydau treth ar gyfer costau gofal plant – eich costau’n newid

Os yw eich costau gofal plant wedi newid neu ar fin newid, bydd angen i chi gyfrifo eich costau gofal plant wythnosol newydd. Defnyddiwch y dyddiad y newidiodd eich costau gofal plant fel eich man cychwyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am y newid sy’n berthnasol i chi er mwyn cael y taliadau credydau treth cywir.

Pa mor aml ydych chi'n talu eich darparwr/ darparwyr gofal plant Ydych chi bob amser yn talu'r un faint o gostau gofal plant? Sut mae cyfrifo os yw eich costau gofal plant wedi newid? Pryd i roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am y newid?

Bob wythnos

Ydw

  • cymerwch eich costau wythnosol newydd
  • talgrynnwch y swm hwn i fyny i'r bunt agosaf
  • cymharwch y swm newydd hwn â'r hen swm wythnosol cyfartalog a roddoch i'r Swyddfa Credyd Treth

Rhowch wybod am y newid os yw’r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • mae eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog newydd wedi newid £10 neu fwy yr wythnos
  • bydd y newid yn berthnasol bob wythnos am bedair wythnosol neu ragor yn olynol

Bob wythnos

Nac ydw

  • adiwch y symiau rydych chi'n disgwyl eu talu gyda'i gilydd ar gyfer y 52 wythnos nesaf
  • rhannwch gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf
  • cymharwch y swm newydd hwn â'r hwn swm wythnosol cyfartalog a roddoch i'r Swyddfa Credyd Treth

Rhowch wybod am y newid os yw eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog newydd wedi newid £10 neu fwy yr wythnos.

Bob mis

Ydw

  • cymerwch eich costau misol newydd
  • lluoswch y swm hwn gyda 12
  • rhannwch y ffigur hwn gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf
  • cymharwch y swm newydd hwn â'r hen swm wythnosol cyfartalog a roddoch i'r Swyddfa Credyd Treth

Rhowch wybod am y newid os yw eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog newydd wedi newid £10 neu fwy yr wythnos.

Bob mis

Nac ydw

  • adiwch y symiau rydych chi'n disgwyl eu talu gyda'i gilydd ar gyfer y 12 mis nesaf
  • rhannwch gyda 52
  • talgrynnwch eich ateb i fyny i'r bunt agosaf
  • cymharwch y swm newydd hwn â'r hen swm wythnosol cyfartalog a roddoch i'r Swyddfa Credyd Treth

Rhowch wybod am y newid os yw eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog newydd wedi newid £10 neu fwy yr wythnos.

Unrhyw gyfnod arall

Ydw neu nac ydw

Nid ydych yn gwybod beth oedd eich hen gostau wythnosol cyfartalog

Os nad ydych chi'n siŵr beth oedd eich hen gostau gofal plant wythnosol cyfartalog, gallwch wneud un o'r canlynol:

  • darllen eich hysbysiad adnewyddu neu ddyfarniad – bydd hwn yn dangos beth roedd y Swyddfa Credyd Treth yn ei ddefnyddio fel eich costau gofal plant wythnosol cyfartalog
  • rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am eich costau gofal plant cyfartalog newydd – byddant yn dweud wrthych a fydd y newid yn effeithio ar eich credydau treth

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU