Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau ynghylch gofal plant – yr effaith ar Gredyd Treth Gwaith

Os ydych chi’n cael hawlio cymorth i’ch helpu gyda chostau gofal plant, rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich trefniadau gofal plant. Er enghraifft, os byddwch chi’n cael darparwr gofal plant gwahanol, os bydd costau’n cynyddu neu'n lleihau, os byddwch chi’n cael talebau gan eich cyflogwr neu help gyda'ch costau gan yr awdurdod lleol.

Os na fydd eich darparwr gofal plant yn ddarparwr cymeradwy neu gofrestredig mwyach

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i'ch darparwr gofal plant:

  • mae wedi colli ei gofrestriad neu ei gymeradwyaeth
  • mae wedi penderfynu peidio ag adnewyddu ei gofrestriad neu ei gymeradwyaeth
  • mae cyfnod ei gofrestriad neu ei gymeradwyaeth wedi dod i ben – rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth hyd yn oed os yw wedi gwneud cais i adnewyddu ei gofrestriad

Gofynnwch i'ch darparwr gofal plant sut gallwch chi fod yn ymwybodol o'r newidiadau hyn. Er enghraifft, efallai fod angen i'ch darparwr adnewyddu ei gofrestriad ag Ofsted neu ei gymeradwyaeth dan Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn rheolaidd.

Holwch pryd y daw i ben a gofyn am gael gweld prawf newydd o'i gymeradwyaeth neu ei gofrestriad.

Mae'n bwysig dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am y newidiadau hyn cyn pen mis. Os na fyddwch chi'n gwneud hynny, efallai byddwch chi'n cael gormod o arian a bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi hefyd dalu dirwy o hyd at £300.

Os byddwch chi'n newid eich darparwr gofal plant

Os byddwch chi'n newid eich darparwr gofal plant am un arall nad yw wedi cofrestru nac wedi cael ei gymeradwyo

Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os nad yw eich darparwr gofal plant wedi cofrestru nac wedi cael ei gymeradwyo at ddibenion credydau treth. Er enghraifft, os byddwch chi’n dechrau defnyddio perthynas ar gyfer gofal plant, fel rheol ni fydd yn cyfrif at ddibenion credydau treth – hyd yn oed os ydynt wedi’u cofrestru.

Bydd rhaid i chi roi gwybod am y newid o leiaf cyn pen mis. Os na fyddwch yn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth mewn da bryd, gallech gronni gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl o bosib. Hefyd gellid codi dirwy arnoch chi.

Os byddwch chi'n newid eich darparwr gofal plant am un cofrestredig neu gymeradwy arall

Dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os ydych chi'n newid eich darparwr gofal plant am un cofrestredig neu gymeradwy arall. Bydd angen iddynt wybod rhif cofrestru neu rif cymeradwyo eich darparwr newydd.

Fel rheol ni fydd faint o gredydau treth a gewch chi yn cael ei effeithio os bydd eich holl amgylchiadau eraill yn aros yr un fath.

Efallai y bydd angen i'r Swyddfa Credyd Treth gysylltu â'ch darparwr gofal plant o bryd i'w gilydd i wneud archwiliadau. Os na fyddant yn gallu cysylltu â'ch darparwr, mae'n bosib y bydd yn rhoi'r gorau i dalu'r Credyd Treth Gwaith ychwanegol i chi ar gyfer eich costau gofal plant.

Newidiadau yn eich costau gofal plant

Os bydd eich costau gofal plant yn lleihau neu’n dod i ben

Rhaid i chi gyfrifo eich costau gofal plant wythnosol newydd ar gyfartaledd yn yr un ffordd â phan wnaethoch eich hawliad gwreiddiol.

I gael cymorth wrth gyfrifo eich costau gofal plant wythnosol ar gyfartaledd, gallwch ddilyn y ddolen isod neu ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn pen mis:

  • os ydych fel rheol yn talu costau gofal plant wythnosol sefydlog a bod eich costau go iawn yn lleihau £10 yr wythnos neu ragor – a bod y newid yn berthnasol i bob wythnos am bedair wythnos yn olynol
  • os ydych chi'n talu'r un faint bob mis neu symiau gwahanol ar gyfer gofal plant ar adegau gwahanol, er enghraifft, rydych chi'n talu mwy yn ystod gwyliau'r ysgol nag ydych chi yn ystod y tymor, a bod eich costau wythnosol newydd ar gyfartaledd yn lleihau £10 neu ragor
  • os byddwch chi'n rhoi'r gorau i dalu costau gofal plant

Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich taliadau credyd treth yn debygol o leihau os yw eich holl amgylchiadau eraill yn aros yr un fath.

Os na fyddwch chi'n rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn pen mis, gallech gronni gordaliad y bydd rhaid i chi ei dalu'n ôl. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £300 hefyd.

Os bydd eich costau gofal plant yn cynyddu

Rhaid i chi gyfrifo eich costau gofal plant wythnosol newydd ar gyfartaledd yn yr un ffordd â phan wnaethoch eich hawliad gwreiddiol.

I gael cymorth wrth gyfrifo eich costau gofal plant wythnosol ar gyfartaledd, gallwch ddilyn y ddolen isod neu ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith:

  • os ydych fel rheol yn talu costau gofal plant wythnosol sefydlog a bod eich costau go iawn yn cynyddu £10 yr wythnos neu ragor – a bod y newid yn berthnasol i bob wythnos am bedair wythnos yn olynol
  • os ydych yn talu'r un swm bob mis neu symiau gwahanol ar adegau gwahanol a bod eich costau gofal plant wythnosol newydd ar gyfartaledd o leiaf £10 yn fwy na'ch costau ar hyn o bryd

Os ydych chi’n talu swm wythnosol sefydlog am ofal plant, ac mae'r swm ar fin newid, does dim rhaid i chi aros. Gallwch ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar ddechrau wythnos gyntaf y newid. Ond gwnewch yn siŵr y bydd yn para am o leiaf y pedair wythnos nesaf.

Os bydd eich costau gofal plant yn cynyddu a bod eich holl amgylchiadau eraill yn aros yr un fath, efallai y byddwch chi'n gallu cael rhagor o arian. Bydd eich taliadau yn cynyddu o wythnos gyntaf y newid cyn belled â’ch bod yn rhoi gwybod am y newid cyn pen un mis ar ôl iddo ddigwydd. Y rheswm am hyn yw mai dim ond am un mis y mae modd ôl-ddyddio unrhyw gynnydd i'r taliadau a gewch.

Rydych chi'n cael help tuag at eich costau gofal plant gan rywun arall

Dylech roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith – ac o leiaf cyn pen mis – os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich cyflogwr yn rhoi arian neu dalebau gofal plant i chi tuag at gost eich gofal plant
  • rydych chi’n cael llai o gyflog yn gyfnewid am dalebau gofal plant gan eich cyflogwr – gelwir hyn yn ‘aberthu cyflog’
  • mae eich cyflogwr yn darparu lle mewn meithrinfa am ddim neu le gyda chymhorthdal
  • mae eich awdurdod lleol neu eich awdurdod addysg yn talu unrhyw ran o'ch costau gofal plant, er enghraifft addysg blynyddoedd cynnar neu feithrinfa os yw eich plentyn dan bump oed
  • rydych chi'n cael cymorth drwy grantiau gofal plant i fyfyrwyr
  • rydych chi’n cael unrhyw gyllid arall gan y llywodraeth tuag at eich costau gofal plant, er enghraifft, os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau'n talu unrhyw ran o'ch costau er mwyn eich helpu i ddechrau gweithio

Os bydd hyn yn digwydd, mae’n debyg y bydd eich credydau treth yn lleihau os bydd eich holl amgylchiadau eraill yn aros yr un fath.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am y newid, efallai y caiff gormod o gredydau treth eu talu i chi, a bydd yn rhaid i chi eu talu’n ôl. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi hefyd dalu dirwy o hyd at £300 os gwnaethoch chi oedi cyn rhoi gwybod am y newid.

Sut mae rhoi gwybod am newidiadau ynghylch gofal plant

Gallwch roi gwybod am newidiadau yn eich trefniadau gofal plant drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth neu drwy ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth.

Ni allwch anfon e-bost neu roi gwybod am newidiadau ar-lein ar gyfer credydau treth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU