Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ad-dalu credydau treth a ordalwyd

Os byddwch wedi cael gormod o gredydau treth - 'gordaliad' - mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian ychwanegol. Mae help ar gael os na fyddwch yn gallu fforddio talu.

Sut i ad-dalu eich gordaliad

Bydd y Swyddfa Credyd Treth naill ai'n lleihau'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi, neu bydd yn gofyn i chi wneud taliad uniongyrchol. Bydd hyn yn dibynnu ar ba un a ydych yn cael credydau treth o hyd ai peidio.

Os ydych yn cael credydau treth o hyd

Os ydych yn cael credydau treth o hyd, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn lleihau'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi er mwyn adennill y swm a ordalwyd. Ond os ydych wedi gwneud cais newydd ar ôl gwahanu oddi wrth bartner neu gael partner newydd, bydd yn gofyn i chi wneud taliad uniongyrchol. Taliad untro am y swm llawn yw'r taliad hwn.

Os nad ydych yn cael credydau treth mwyach

Os nad ydych yn cael credydau treth mwyach, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn am daliad uniongyrchol - sef taliad untro am y swm llawn.

Lleihau'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth wedi talu gormod i chi yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol, neu flwyddyn flaenorol, bydd yn awtomatig yn lleihau'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi. Bydd yn gwneud hyn hyd nes y byddwch wedi ad-dalu'r arian a ordalwyd.

Bydd y swm y bydd yn lleihau eich taliadau yn dibynnu ar ba un a ydych yn cael credydau treth yn llawn, neu ar gyfradd ostyngol. Rydych yn cael credydau treth ar gyfradd ostyngol os yw eich incwm yn rhy uchel i gael yr uchafswm.

Edrychwch ar eich hysbysiad dyfarnu i weld a ydych yn cael credydau treth ar gyfradd ostyngol. Os ydych, fe'i dangosir fel 'gostyngiad oherwydd eich incwm' yn rhan 2 - Sut rydym yn cyfrifo eich credydau treth.

Os na ddangosir unrhyw ostyngiad, oherwydd eich incwm isel, ni chymerir mwy na 10 y cant o'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi.

Os mai dim ond elfen deuluol Credyd Treth Plant rydych yn ei chael, cymerir hyd at 100 y cant o'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi.

I bawb arall, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cymryd hyd at 25 y cant o'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi.

Os bydd y taliadau gostyngol yn achosi anawsterau ariannol i chi

Os na fyddwch yn gallu talu treuliau byw hanfodol fel rhent, biliau nwy neu filiau trydan, mae'n bosibl y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn caniatáu i chi ad-dalu'r swm dros gyfnod hirach. Ond os bydd yn gwneud hyn, bydd yn cymryd yn hirach i chi ad-dalu'r gordaliad.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth i gael gwybod yr opsiynau.

Lleihau'r taliadau sy'n parhau i gael eu talu i chi - enghreifftiau

Enghraifft un

Rydych yn cael yr uchafswm credydau treth ar hyn o bryd heb unrhyw ostyngiad oherwydd incwm. Eich taliadau credyd treth oedd £2,613 y flwyddyn, neu £50 yr wythnos. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn lleihau eich taliadau 10 y cant. Felly, byddwch yn cael 90 y cant o'ch arian o hyd. Eich taliadau newydd fydd £2,352 y flwyddyn, neu £45 yr wythnos.

Enghraifft dau

Rydych ond yn cael elfen deuluol Credyd Treth Plant ar hyn o bryd, gyda gostyngiad oherwydd eich incwm. Eich taliadau credyd treth oedd £545 y flwyddyn, neu £10.50 yr wythnos. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn lleihau eich taliadau 100 y cant, felly ni fyddwch yn cael rhagor o arian hyd nes y bydd y gordaliad wedi'i ad-dalu.

Enghraifft tri

Rydych yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith ar hyn o bryd gyda gostyngiad oherwydd eich incwm. Eich taliadau credyd treth oedd £1,046 y flwyddyn, neu £20 yr wythnos. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn lleihau eich taliadau 25 y cant. Felly, byddwch yn cael 75 y cant o'ch arian o hyd. Eich taliadau newydd fydd £784.50 y flwyddyn, neu £15 yr wythnos.

Os oes angen help arnoch i ddeall sut y caiff eich taliadau eu lleihau, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Gallwch wneud taliadau ychwanegol os byddwch am ad-dalu eich gordaliad yn gyflymach. Er mwyn gwneud hyn, ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Credyd Treth ar 0845 302 1429.

Taliad uniongyrchol

Os nad ydych yn cael credydau treth mwyach, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn am daliad uniongyrchol. Taliad untro am y swm llawn yw'r taliad hwn. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu drwy daliad uniongyrchol o hyd os ydych wedi gwneud cais newydd ers hynny oherwydd bod amgylchiadau eich cartref wedi newid. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi gwahanu oddi wrth eich partner neu wedi cael partner newydd.

Gwneud taliad uniongyrchol

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon Datganiad Cyfrif atoch yn rhoi manylion y gordaliad. Byddwch hefyd yn cael Hysbysiad i Dalu sy’n dweud wrthych sut i ad-dalu, ac sy’n cynnwys slip talu. Bydd angen i chi dalu o fewn 30 diwrnod.

Beth os na fyddwch yn gallu talu o fewn 30 diwrnod?

Os na fyddwch yn gallu talu o fewn 30 diwrnod, gallwch drefnu ad-dalu'r arian dros gyfnod o 12 mis.

Os bydd angen mwy o amser arnoch i dalu o hyd, cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth i drafod eich opsiynau. Efallai y bydd yn gallu:

  • lledaenu'r ad-daliad dros gyfnod hwy
  • gohirio'r dyddiad y bydd yn dechrau casglu'r arian sy'n ddyledus gennych

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Credyd Treth ar 0845 302 1429 cyn gynted â phosibl. Bydd yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Mae arnoch lai na £3,000 ac rydych yn cael eich trethu drwy drefniadau Talu Wrth Ennill (TWE)

Gall Cyllid a Thollau EM (CThEM) leihau eich cod treth TWE er mwyn casglu eich gordaliad. Bydd hyn yn golygu y byddwch yn ad-dalu'r swm cyfan sy'n ddyledus gennych drwy dalu mwy o dreth yn ystod y flwyddyn dreth nesaf. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf.

Dim ond os na fyddwch wedi cysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth ynghylch ad-dalu eich gordaliad, a bod pob un o'r canlynol yn berthnasol, y bydd hyn yn digwydd:

  • gofynnwyd i chi wneud taliad uniongyrchol
  • rydych yn gweithio i gyflogwr, neu'n cael pensiwn yn y DU
  • mae eich gordaliad yn llai na £3,000

Ni allwch ddewis ad-dalu eich gordaliad drwy eich cod treth o'ch gwirfodd.

Bydd CThEM yn ysgrifennu atoch os bydd yn penderfynu casglu eich gordaliad drwy leihau eich cod treth. Os nad ydych am i'ch cod treth gael ei newid, cysylltwch ar unwaith i gytuno ar ffordd arall o dalu. Bydd rhif ffôn cyswllt wedi'i nodi yn y llythyr.

Os ydych yn fodlon am i'ch gordaliad gael ei gasglu yn unol â'r trefniadau hyn, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth. Yna cyn y flwyddyn dreth newydd, bydd CThEM yn anfon 'Hysbysiad Cod TWE' atoch yn eich hysbysu o'ch cod treth newydd. Nodir y swm i'w gasglu gennych ar yr hysbysiad fel 'Dyled sy'n weddill'.

Os ydych yn ad-dalu mwy nag un gordaliad ar yr un pryd

Gall rhai o'ch ad-daliadau gael eu hatal dros dro, ar yr amod bod y ddau bwynt isod yn berthnasol:

  • rydych yn ad-dalu un gordaliad drwy daliad uniongyrchol, neu drwy leihad yn eich cod treth TWE ar hyn o bryd
  • rydych hefyd yn ad-dalu gordaliad arall o'r taliadau credyd treth sy'n parhau i gael eu talu i chi - ond dim ond os gostyngwyd eich taliadau 10 y cant neu 25 y cant

Os bydd hyn yn berthnasol i chi, gallwch ofyn am i'r taliad uniongyrchol, neu'r lleihad yn eich cod treth TWE, gael ei atal dros dro. Gwneir hyn hyd nes y byddwch wedi ad-dalu'r gordaliad o'r taliadau credyd treth sy'n parhau i gael eu talu i chi. Cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth.

Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, ac na allwch dalu treuliau byw hanfodol fel rhent, biliau nwy neu filiau trydan, cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth. Gall drafod eich opsiynau gyda chi.

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Rydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner - pwy sy'n gyfrifol am ad-dalu gordaliad?

Os ydych yn byw gyda phartner, rhaid i chi wneud cais ar y cyd am gredydau treth, sy'n golygu bod y ddau ohonoch yn gyfrifol am ad-dalu unrhyw ordaliad. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ysgrifennu at y ddau ohonoch i'ch hysbysu am y gordaliad.

Os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner, gallwch geisio cytuno rhyngoch chi'ch hunain faint y dylai'r ddau ohonoch ei ad-dalu. Os na allwch ddod i gytundeb, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i'r ddau ohonoch dalu hanner y swm yr un.

Mae help ar gael os na allwch fforddio ad-dalu'r arian.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU