Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Taliadau gan y llywodraeth yw credydau treth. Os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc, efallai eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Plant. Os ydych yn gweithio, ond eich bod ar incwm isel, efallai eich bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith. Yn aml gallwch gael y ddau fath o gredydau treth. Nid ydynt yn drethadwy.
Os oes gennych blant mae’n bosib y gallwch gael credydau treth, ond nid oes bod gennych blant i wneud cais. Gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych yn gweithio ac ar incwm isel.
Gallwch gael un o'r canlynol - neu'r ddau.
Mae Credyd Treth Gwaith yn seiliedig ar yr oriau rydych yn eu gweithio ac rydych yn cael eu talu amdanynt, neu'n disgwyl cael eich talu amdanynt. Gallwch hawlio p'un a ydych yn gyflogai neu'n hunangyflogedig. Ond nid yw gwaith di-dâl yn cyfrif ar gyfer Credyd Treth Gwaith
Credyd Treth Plant
Telir Credyd Treth Plant i chi os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi. Nid oes rhaid i chi fod yn gweithio i hawlio Credyd Treth Plant.
Bydd faint o gredydau treth a gewch yn dibynnu ar bethau fel:
Mae eich taliadau hefyd yn dibynnu ar eich incwm. Y lleiaf yw eich incwm, y mwyaf o gredyd treth y gallwch ei gael.
Mae a fyddwch yn gymwys i gael credydau treth, a faint y gallwch ei gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi eich hun.
Fel canllaw bras, os nad yw eich incwm blynyddol yn fwy nag un o'r 'terfynau' canlynol, mae'n debyg y gallwch gael credydau treth:
Dyma'r terfynau ar gyfer cael credydau treth yn y flwyddyn dreth bresennol - yn dod i ben ar 5 Ebrill 2013.
Nid ydych yn debygol o gael unrhyw beth os yw eich incwm yn fwy na'r symiau hyn. Ond mae'n bwysig gwybod y canlynol:
Fyddwch chi'n gymwys yn seiliedig ar eich incwm?
I gael syniad gwell o ran p'un a ydych yn debygol o fod yn gymwys i gael credydau treth yn seiliedig ar eich incwm, gallwch ddefnyddio'r canlynol:
Dim ond canllaw bras yw'r tablau hawliadau ar faint y gallech ei gael am y flwyddyn dreth bresennol - yn dod i ben ar 5 Ebrill 2013. Cânt eu diweddaru gyda'r symiau ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf ar 6 Ebrill 2013.
Beth sy'n cyfrif fel incwm?
Ystyrir eich incwm cyn treth ac Yswiriant Gwladol. Pan fyddwch yn gwneud cais am gredydau treth am y tro cyntaf, defnyddir eich incwm o'r flwyddyn a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2012. Os ydych mewn cwpl, defnyddir eich incwm ar y cyd.
Mae enillion o waith a rhai o fudd-daliadau'r wladwriaeth yn cyfrif fel incwm. Mae incwm 'arall' hefyd yn cyfrif. Gall hyn gynnwys llog ar gynilion, pensiynau neu incwm o eiddo - ond dim ond os oedd y cyfanswm yn fwy na £300 ar gyfer y flwyddyn. Nid yw swm gwirioneddol unrhyw gynilion a allai fod gennych yn effeithio ar gredydau treth.
Fel arfer bydd angen i chi wneud cais ar y cyd am gredydau treth os ydych:
Fel arfer dim ond un cais y gallwch ei wneud os na fyddwch yn perthyn i un o'r grwpiau hyn.
Telir credydau treth yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol os yw'n derbyn Taliad Uniongyrchol. Caiff taliadau eu gwneud bob wythnos neu bob pedair wythnos.
Pwy fydd yn cael y taliadau credydau treth?
Os yw'r ddau ohonoch yn gweithio a bod y ddau ohonoch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, gallwch benderfynu pa un ohonoch fydd yn cael y taliadau.
Bydd angen i gyplau sy'n hawlio Credyd Treth Plant benderfynu pwy yw prif ofalwr y plentyn. Os mai chi yw'r prif ofalwr, yna caiff yr arian ei dalu i chi.
Sut mae taliadau credydau treth yn gweithio
Os byddwch yn gwneud cais newydd, fel arfer cewch eich taliadau o ddyddiad eich cais i ddiwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais ar 10 Tachwedd 2012, caiff eich taliadau eu cyfrifo o'r dyddiad hwnnw hyd at 5 Ebrill 2013. Fel arfer gellir ôl-ddyddio hawliadau hyd at un mis - weithiau'n hwy - o'r dyddiad y cafodd y Swyddfa Credyd Treth eich ffurflen gais.
Ni chaiff taliadau credydau treth eu cyfrif yn incwm trethadwy.
Bob blwyddyn yn ystod mis Ebrill, Mai neu Fehefin bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ysgrifennu atoch er mwyn gofyn i chi:
Gelwir hyn yn 'adnewyddu' eich cais am gredydau treth. Y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu fel arfer yw 31 Gorffennaf.
Bydd angen i chi adnewyddu er mwyn sicrhau bod y taliadau a gawsoch yn gywir. Mae hefyd yn galluogi'r Swyddfa Credyd Treth i bennu eich taliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar yr incwm cywir.
Weithiau bydd y Swyddfa Credyd Treth wedi talu gormod neu ddim digon i chi. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Swyddfa yn gwneud addasiad i sicrhau bod eich taliadau'n gywir. Bydd unrhyw daliadau a wneir o 6 Ebrill 2013 i'r dyddiad y byddwch yn adnewyddu eich cais yn daliadau dros dro. Os na fyddwch yn adnewyddu, efallai y gofynnir i chi eu talu'n ôl.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid ar unrhyw adeg, gall hyn effeithio ar faint o arian y dylech ei gael. Gall pethau fel dechrau swydd newydd, gwahanu â phartner neu gael babi i gyd wneud gwahaniaeth i'ch credydau treth.
Cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl i ddweud wrthi am unrhyw newidiadau. Er mwyn gwneud hyn, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth, neu ysgrifennu i'r Swyddfa Credyd Treth. Ond ni allwch roi gwybod am newidiadau ar-lein ar gyfer credydau treth.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs