Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnewyddu eich hawliad credydau treth – gwybodaeth sylfaenol

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi ‘adnewyddu’ eich hawliad credydau treth unwaith y flwyddyn. Diben hyn yw gwneud yn siŵr bod yr arian cywir wedi’i dalu i chi – ac yn parhau i gael ei dalu i chi. Yma, cewch wybod pwy ddylai adnewyddu, beth yw’r ffurflenni angenrheidiol, sut mae adnewyddu a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn adnewyddu.

Pam ei bod yn bwysig adnewyddu eich credydau treth

Bydd angen i chi adnewyddu eich credydau treth er mwyn i’r Swyddfa Credyd Treth:

  • sicrhau bod ganddi’r wybodaeth gywir amdanoch
  • sicrhau ei bod yn cael gwybod a oes unrhyw beth wedi newid a allai effeithio ar y swm rydych chi’n cael eich talu
  • sicrhau y cewch eich talu’r swm cywir am yflwyddyn nesaf
  • sicrhau y talwyd yr arian cywir i chi dros y flwyddyn dreth ddiwethaf

Os telir mwy o gredydau treth i chi na’r hyn yr oedd gennych chi’r hawl i’w gael (‘gordaliad’), bydd rhaid i chi dalu’r arian yn ôl, fel rheol.

Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn wedyn.

Oes angen i chi adnewyddu?

Bydd angen i chi adnewyddu os anfonir ffurflen Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2) atoch ynghyd â hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R).

Ni fydd angen i chi adnewyddu os mai dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) a gawsoch, oherwydd bydd eich hawliad yn cael ei adnewyddu’n awtomatig.

Hyd yn oed os caiff eich hawliad ei adnewyddu yn awtomatig, bydd yn dal angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich amgylchiadau wedi newid
  • mae eich incwm yn wahanol i’r hyn a gaiff ei ddangos yn yr hysbysiad o Adolygiad Blynyddol
  • mae camgymeriadau yn yr hysbysiad, neu fanylion ar goll

Pwy fydd yn cael pecyn adnewyddu

Bydd pawb sy’n gwneud hawliad credydau treth yn ystod blwyddyn dreth yn cael pecyn adnewyddu. Bydd hyn yn berthnasol hefyd os:

  • gwnaethoch hawliad credydau treth ond ni chawsoch ddim gan fod eich incwm yn rhy uchel (dim dyfarniad)
  • cawsoch gredydau treth am ran o’r flwyddyn yn unig

Cewch becyn adnewyddu ar wahân ar gyfer pob hawliad a wnaethoch dros y flwyddyn.

Y ffurflenni yn eich pecyn

Mae’n bosib y bydd eich pecyn yn cynnwys y canlynol:

  • hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) yn unig – a gaiff ei anfon mewn amlen frown maint A5
  • hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) a ffurflen Datganiad Blynyddol TC603D (neu TC603D2) – a gaiff eu hanfon mewn un amlen wen maint A4

Dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol gewch chi os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • dim ond elfen Teulu Credyd Treth Plant rydych chi’n ei chael
  • gwnaethoch hawliad credydau treth ond ni chawsoch ddim gan fod eich incwm yn rhy uchel
  • cawsoch Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn am y flwyddyn dreth ddiwethaf yn ei chyfanrwydd

Bydd eich hysbysiad dyfarniad fwyaf diweddar yn rhoi manylion eich hawl i gael credydau treth.

Pryd gallwch chi ddisgwyl cael y pecyn adnewyddu

Gallwch ddisgwyl i’ch pecyn gyrraedd rhwng 17 Ebrill a 30 Mehefin. Nid yw’r Swyddfa Credyd Treth yn anfon yr holl becynnau yr un pryd, ac mae’n bosib na fydd eich un chi yn cyrraedd tan ddiwedd y cyfnod hwn.

Mae’r Swyddfa Credyd Treth yn anfon y pecynnau allan, yn fras fel a ganlyn:

  • bydd y ffurflenni Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2) ac Adolygiad Blynyddol (TC603R) fel arfer yn cael eu hanfon tua dechrau’r cyfnod hwn
  • bydd y ffurflenni Adolygiad Blynyddol (TC603R)yn unig fel arfer yn cael eu hanfon tuag at ddiwedd y cyfnod

Blwyddyn gyntaf eich hawliad credydau treth

Os gwnaethoch yr hawliad:

  • cyn mis Ebrill, gallwch ddisgwyl eich pecyn oddeutu diwedd mis Mehefin yr un flwyddyn
  • ar ôl 6 Ebrill, gallwch ddisgwyl eich pecyn rhwng mis Ebrill a 30 Mehefin y flwyddyn ganlynol

Beth i’w wneud os na chewch becyn adnewyddu

Os na chewch becyn adnewyddu erbyn 15 Gorffennaf 2012, dylech gysylltu â’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Bydd y Llinell Gymorth Credyd Treth yn anfon y ffurflenni adnewyddu angenrheidiol atoch. Yna, bydd gennych chi 30 diwrnod i adnewyddu neu i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Yn y cyfamser, bydd eich taliadau’n parhau.

Nid yw’r pecyn adnewyddu ar gael ar-lein.

Sut – a phryd – mae adnewyddu

Ni fyddwch yn gallu adnewyddu nes i chi gael eich pecyn adnewyddu, a nes i chi gael gwybod pa ffurflenni sydd wedi cael eu hanfon atoch.

Ar ôl i chi gael eich pecyn, dylech adnewyddu cyn gynted â phosib os oes angen i chi wneud hynny. Fel arfer, 31 Gorffennaf yw’r dyddiad terfynol ar gyfer adnewyddu, ond edrychwch rhag ofn bod dyddiad gwahanol yn eich pecyn.

Gallwch adnewyddu drwy un o’r ffyrdd canlynol:

  • llenwi’r ffurflen Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2) a’i dychwelyd i’r Swyddfa Credyd Treth yn yr amlen ymateb a ddarparwyd
  • ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth

Ni allwch adnewyddu ar-lein

Mae’n werth gwybod os ydych chi’n mynd i adnewyddu dros y ffôn, gall y llinell gymorth fod yn brysur o amgylch y dyddiad cau. Felly mae’n well adnewyddu mor gynted ag y gallwch unwaith i chi gael eich pecyn.

Os ydych yn adnewyddu drwy’r post ac wedi colli eich amlen ymateb, y cyfeiriad i chi ddychwelyd eich ffurflen yw:

HM Revenue & Customs Tax Credits
Comben House
Farriers Way
Netherton
L75 1WB

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch wrth adnewyddu gan ddefnyddio’r Llinell Gymorth

Pan fyddwch yn cysylltu â’r Llinell Gymorth, dylech gael y gwaith papur canlynol wrth law:

  • eich pecyn adnewyddu
  • manylion unrhyw newid yn eich amgylchiadau nad ydych chi wedi rhoi gwybod amdano eto
  • cyfanswm eich incwm (gan gynnwys incwm unrhyw bartner) ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf

Eich taliadau cyn i chi adnewyddu

Bydd eich taliadau:

  • yn parhau o ddechrau’r flwyddyn dreth newydd (6 Ebrill) hyd nes y dyddiad y byddwch yn adnewyddu eich hawliad, cyn belled â’ch bod yn adnewyddu erbyn y dyddiad cau – 31 Gorffennaf fel arfer
  • yn parhau am ychydig yn rhagor, o bosib, os dylech chi fod wedi cael pecyn adnewyddu, ond anfonwyd un yn hwyr
  • yn rhai ‘dros dro’ nes y byddwch yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i'r Swyddfa Credyd Treth

Os byddwch yn gohirio adnewyddu, mae’n bosib y bydd eich taliadau yn anghywir. Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliad.

Gall y taliadau yr ydych yn cael nes i chi adnewyddu fod yn seiliedig ar wybodaeth sydd wedi dyddio. Felly po gynharaf byddwch yn adnewyddu, y cynharaf y gall y Swyddfa Credyd Treth sicrhau eich bod yn cael yr arian iawn. Mae’n bosib y bydd angen i chi dalu unrhyw ordaliad.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn adnewyddu

Os anfonwyd Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2) atoch, a’ch bod yn peidio ag adnewyddu, bydd y canlynol yn digwydd:

  • bydd eich taliadau’n dod i ben
  • bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliad o’r flwyddyn dreth flaenorol ac o ddechrau’r flwyddyn dreth newydd
  • cewch ddatganiad gan y Swyddfa Credyd Treth ynglŷn â’ch taliadau credyd treth
  • bydd gennych chi 30 diwrnod arall i ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd i chi amdani
  • os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth o fewn 30 diwrnod, fel arfer, bydd rhaid i chi wneud hawliad credydau treth newydd

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi adnewyddu – neu roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Oni bai fod eich hawliad wedi’i adnewyddu’n awtomatig, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon y canlynol atoch:

  • hysbysiad dyfarniad gyda phenderfyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf – o fewn wyth wythnos fel arfer
  • hysbysiad dyfarniad ar wahân yn dangos beth fydd eich taliadau ar gyfer y flwyddyn dreth newydd, gan gynnwys unrhyw ordaliadau neu dandaliadau

Mae’n bosib y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ysgrifennu atoch i wneud yn siŵr eich bod wedi adnewyddu yn gywir, ac mae’n bosib y bydd yn gofyn i chi am dystiolaeth, er enghraifft o'ch incwm. Felly, dylech gadw unrhyw waith papur perthnasol yn ddiogel.

Os na chewch eich hysbysiad dyfarniad cyn pen wyth wythnos, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU