Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae osgoi cael gormod neu ddim digon o gredydau treth

Mae credydau treth yn hyblyg ac yn newid pan fydd eich bywyd yn newid. Os byddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid, bydd yn cyfrifo eich swm newydd o gredydau treth. Gallai eich taliadau newydd olygu eich bod wedi cael gormod o arian (gordaliad) neu ddim digon o arian (tandaliad).

Sicrhau bod yr wybodaeth ar eich ffurflen hawlio yn gywir

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn defnyddio'r manylion y byddwch yn eu rhoi ar eich ffurflen hawlio i gyfrifo eich taliadau credyd treth.

Dylech wneud yn siŵr bod yr holl fanylion ar y ffurflen yn gywir, yn gyflawn ac yn ddiweddar. Rhowch sylw arbennig i unrhyw ddyddiadau a manylion eich incwm.

Gwirio eich hysbysiad dyfarniad credydau treth

Pan fyddwch yn hawlio credydau treth am y tro cyntaf, neu'n rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid, bydd yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch. Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi faint o arian a gewch ar sail yr wybodaeth a roesoch i’r Swyddfa.

Mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich hysbysiad dyfarniad yn ofalus pan gewch un – defnyddiwch y rhestr wirio a ddaw gydag ef. Rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth cyn pen mis os oes rhywbeth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, neu os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall.

Os na wnewch, efallai y bydd yn golygu:

  • nad ydych yn cael yr holl arian mae gennych yr hawl i’w gael
  • y gallech fod yn cronni gordaliad

Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ceisio anfon hysbysiad dyfarniad newydd atoch cyn pen 30 diwrnod ar ôl i chi roi gwybod am unrhyw newid. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosib os nad ydych yn cael un o fewn 30 diwrnod.

Os mai dyma'r tro cyntaf i chi hawlio, ac mae eich taliadau’n dechrau ond nad ydych yn cael hysbysiad dyfarniad, rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosib.

Gwirio’r taliadau sy’n mynd i’ch cyfrif banc

Mae hefyd yn bwysig gwirio faint o arian sy'n mynd i'ch cyfrif banc. Bydd eich hysbysiad dyfarniad yn dangos eich taliad cyntaf, yn ogystal â'r swm a delir bob wythnos neu bob pedair wythnos.

Os na fydd eich taliad yn cyd-fynd â'r swm ar eich hysbysiad dyfarniad, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosib.

Rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, bydd yn ail-gyfrifo eich taliadau credyd treth.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Os na wnewch, efallai na fyddant yn gwybod amdano nes y byddwch yn adnewyddu eich credydau treth ar ôl diwedd y flwyddyn.

Bryd hyn, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn edrych i weld a yw'r arian a gawsoch yn cyfateb â'ch incwm a'ch amgylchiadau. Efallai na fyddwch wedi cael yr holl arian y dylech fod wedi'i gael – tandaliad. Neu efallai y byddwch wedi cael gormod o arian – gordaliad.

Newidiadau a allai olygu rhagor o gredydau treth

Rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth am y mathau hyn o newid cyn gynted â phosib – er enghraifft cael babi newydd. Mae’n well rhoi gwybod am newidiadau o’r fath ar unwaith, gan mai dim ond am hyd at un mis y gellir ôl-ddyddio unrhyw gynnydd yn eich taliadau.

Newidiadau a allai olygu llai o gredydau treth

Rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth am y mathau hyn o newid cyn pen mis – er enghraifft plentyn yn gadael addysg amser llawn. Os na wnewch, mae'n bosib y cewch ormod o arian (gordaliad) ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £300.

Sut mae rhoi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am unrhyw newidiadau drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth neu drwy ysgrifennu i’r Swyddfa Credyd Treth.

Ni allwch anfon e-bost, na rhoi gwybod am newidiadau ar-lein ar gyfer credydau treth.

Adnewyddu eich credydau treth ar amser

Bydd gofyn i chi adnewyddu eich credydau treth ar ôl diwedd pob blwyddyn dreth. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Bydd angen i chi adnewyddu i sicrhau:

  • eich bod wedi cael y swm cywir o gredydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • eich bod yn cael y swm cywir ar gyfer y flwyddyn nesaf

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon pecyn adnewyddu atoch rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Bydd y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu i’w weld yn eich pecyn, ond 31 Gorffennaf fydd y dyddiad fel arfer.

Os na fyddwch yn adnewyddu cyn y dyddiad cau:

  • bydd eich taliadau’n dod i ben
  • bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian o'r flwyddyn dreth ddiwethaf nad oedd gennych yr hawl i'w gael
  • bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian a dalwyd i chi ers dechrau’r flwyddyn dreth newydd

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU