Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi wedi anghofio rhoi gwybod am newid, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag sy'n bosib. Os byddwch chi'n aros efallai na fyddwch yn cael yr holl arian y mae gennych yr hawl i'w gael. Neu efallai eich bod yn cronni gordaliadau y bydd yn rhaid i chi eu talu'n ôl.
Chi sy'n gyfrifol am roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar eich credydau treth. Er enghraifft, os ydych chi'n gwahanu oddi wrth eich partner.
Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn defnyddio'r wybodaeth am eich newid i ailgyfrifo eich taliad ac anfon hysbysiad dyfarniad diwygiedig atoch chi.
Os na fyddwch chi'n rhoi gwybod am newid sy'n effeithio ar eich taliadau credyd treth, efallai:
Os na fyddwch yn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newid, ni fyddant yn gwybod am y peth nes iddynt ofyn i chi gadarnhau eich amgylchiadau go iawn. Gall hwn fod er enghraifft pan fyddant yn anfon pecyn adnewyddu i chi ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Ar yr adeg hon, byddant yn gwneud yn siŵr a ydych wedi cael yr holl arian roedd gennych chi hawl iddo.
Efallai na fyddwch wedi cael yr holl arian y dylech fod wedi'i gael. Neu os byddwch wedi cael gormod o arian, bydd eich taliadau credydau treth presennol - os ydych yn gymwys o hyd - fel arfer yn cael eu lleihau er mwyn ad-dalu'r arian.
Os ydych chi'n sylweddoli nad ydych chi wedi rhoi gwybod am newid mewn da bryd, dylech roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Peidiwch â disgwyl nes y bydd yn rhaid i chi adnewyddu eich hawliad credydau treth.
Os bydd eich newid yn golygu bod eich taliadau yn disgyn, er enghraifft os bydd eich plentyn yn gadael addysg amser llawn a oedd yn gymwys ar gyfer credydau treth, efallai eich bod yn cael gormod o arian. Bydd eich gostyngiad mewn taliadau'n cael ei ôl-ddyddio i ddyddiad y newid. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd.
Os bydd eich newid yn golygu y bydd eich taliadau credyd treth yn codi, megis cael babi, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Y rheswm am hyn yw oherwydd dim ond am un mis mae modd ôl-ddyddio unrhyw gynnydd i'ch taliadau credyd treth. Er enghraifft os cawsoch chi fabi ar 12 Mehefin ond nad oeddech chi wedi rhoi gwybod am hyn tan 12 Hydref, dim ond o 12 Medi ymlaen y byddwch chi’n cael y cynnydd. Byddech yn colli taliad ychwanegol tri mis.
Gallwch roi gwybod am newid drwy ffonio’r Llinell Gymorth neu ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth.
Ni allwch anfon e-bost neu roi gwybod am newidiadau ar-lein ar gyfer credydau treth.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs