Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut y gall gordaliadau credydau treth ddigwydd

Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo faint i'w dalu i chi o'r hyn yr ydych yn ei ddweud wrthynt am eich incwm a'ch amgylchiadau teuluol. Weithiau byddant yn talu gormod o arian i chi, sef gordaliad. Gall hyn ddigwydd am amrywiaeth o resymau.

Pam y cawsoch ordaliad?

Gallech fod wedi cronni gordaliad:

  • os na wnaethoch ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid i'ch amgylchiadau sy'n effeithio ar eich taliadau - fel plentyn yn symud i fyw gyda rhywun arall
  • os oedd eich taliadau'n seiliedig ar wybodaeth anghywir am eich sefyllfa bersonol
  • os na wnaethoch adnewyddu eich credydau treth mewn pryd
  • os gwnaeth y Swyddfa Credyd Treth gamgymeriad wrth gofnodi'r wybodaeth a roesoch iddynt
  • os na weithredodd y Swyddfa Credyd Treth ar yr wybodaeth a roesoch iddynt

Os ydych wedi cael gordaliad, bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich hysbysiad dyfarniad.

Ni roesoch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth am newid mewn amgylchiadau

Mae peidio â dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newid mewn amgylchiadau yn un o'r prif resymau pam fod pobl yn cael gormod o gredydau treth ac yn gorfod talu'r arian yn ôl.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am newid yn eich amgylchiadau, rhaid iddynt ail-gyfrifo'r swm a gewch. Efallai y caiff eich swm ei ail-gyfrifo ar gyfer:

  • y flwyddyn dreth gyfan - sy'n mynd o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol
  • y cyfnod o pan wnaethoch chi'r hawliad hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth
  • y cyfnod o pan roesoch wybod iddynt am y newid hyd at ddiwedd y flwyddyn

Yna, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch sy'n dweud wrthych pryd y bydd eich taliad newydd yn dechrau.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai ni fyddant yn gwybod am y peth nes y gofynnir i chi adnewyddu eich credydau treth ar ddiwedd y flwyddyn. Bryd hyn bydd y Swyddfa Credyd Treth yn edrych i weld a yw'r arian a gawsoch yn cyfateb i'ch incwm a'ch amgylchiadau.

Os ydych chi wedi cael gormod o arian, gelwir hynny'n ordaliad.

Roesoch fanylion anghywir i’r Swyddfa Credyd Treth

Mae eich credydau treth yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol. Dyma bethau fel:

  • p'un a ydych yn sengl neu'n rhan o gwpl
  • faint o blant sydd gennych
  • faint o oriau yr wythnos yr ydych yn eu gweithio
  • os oes gennych anabledd penodol a'ch bod wedi bod yn cael budd-daliadau anabledd neu fudd-daliadau salwch

Felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r manylion cywir am eich amgylchiadau ar eich ffurflen hawlio i'r Swyddfa Credyd Treth.

Ni wnaethoch adnewyddu eich credydau treth mewn pryd

Os ydych yn cael credydau treth, bydd y Swyddfa Credyd Treth fel arfer yn anfon pecyn adnewyddu atoch rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn. Byddwch yn defnyddio hwn i ddweud wrthynt os yw eich amgylchiadau neu'ch incwm wedi newid. Yna gall y Swyddfa Credyd Treth gyfrifo:

  • a wnaethant dalu'r swm cywir o gredydau treth i chi yn y flwyddyn dreth ddiwethaf ai peidio
  • faint dylai’ch taliadau fod ar gyfer y flwyddyn nesaf

Dangosir y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb i'r adolygiad blynyddol ar eich ffurflen Adolygiad Blynyddol - 31 Gorffennaf fydd hwn fel arfer.

Gorau po gyntaf y byddwch yn gwirio eich manylion ac yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau, gan y gall y Swyddfa Credyd Treth sicrhau mewn pryd eich bod yn cael yr arian yr ydych yn gymwys i'w gael.

Os na fyddwch yn adnewyddu eich credydau treth:

  • bydd eich taliadau’n dod i ben
  • bydd angen i chi dalu yn ôl unrhyw arian o’r flwyddyn dreth ddiwethaf nad oedd gennych hawl iddo
  • bydd angen i chi dalu yn ôl unrhyw arian a dalwyd i chi ers dechrau’r flwyddyn dreth newydd

Gwnaeth y Swyddfa Credyd Treth gamgymeriad ar eich hysbysiad dyfarniad

Pan fyddwch yn gwneud cais am gredydau treth am y tro cyntaf, neu'n rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau, byddant yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch. Nhw sy'n gyfrifol am roi'r wybodaeth gywir ar eich hysbysiad dyfarniad ar sail yr wybodaeth a roesoch iddynt.

Mae'n bwysig eich bod yn edrych ar yr hysbysiad dyfarniad yn ofalus gan ddefnyddio'r rhestr wirio sy'n dod gydag ef. Os bydd yna gamgymeriad gallai olygu:

  • nad ydych yn cael yr holl arian sy'n ddyledus i chi
  • eich bod yn cronni gordaliad

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, yna byddant yn cywiro'r camgymeriad ac yn anfon hysbysiad dyfarniad newydd atoch. Os bydd hyn yn digwydd, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu eich gordaliad i gyd yn ôl.

Os oes unrhyw beth ar eich hysbysiad dyfarniad nad ydych yn ei ddeall, neu os nad ydych yn siŵr a oes camgymeriad, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Ni weithredodd y Swyddfa Credyd Treth ar yr wybodaeth a roesoch iddynt

Pan fyddwch yn cysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth i ddweud wrthynt am unrhyw newid mewn amgylchiadau, nhw sy'n gyfrifol am:

  • gofnodi'r wybodaeth
  • anfon hysbysiad dyfarniad atoch o fewn 30 diwrnod

Os na chewch hysbysiad dyfarniad o fewn 30 diwrnod, dylech roi gwybod iddynt ar unwaith. Os bydd hyn yn digwydd, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu eich gordaliad i gyd yn ôl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU