Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen hawlio, rhaid i chi ei gywiro cyn gynted ag sy'n bosib. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn gallech gael gormod o gredydau treth – y bydd yn rhaid i chi eu had-dalu fel rheol – neu ni fyddwch yn cael digon.
Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag sy'n bosib os ydych chi wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen hawlio. Rhowch yr wybodaeth gywir iddynt er mwyn iddynt allu talu'r swm cywir o arian i chi.
Os yw'n bosib, ffoniwch yn hytrach nag ysgrifennu – mae'n gynt.
Mae beth fydd yn digwydd nesaf yn dibynnu ar pryd roeddech chi wedi sylwi ar y camgymeriad. Efallai eich bod wedi sylwi arno pan roeddech chi'n dal i ddisgwyl clywed am eich hawliad. Neu efallai eich bod wedi sylwi arno ar ôl i chi ddechrau cael taliadau credyd treth.
Os nad yw’r Swyddfa Credyd Treth wedi cyfrifo faint fyddwch chi'n ei gael eto, bydd yn ystyried yr wybodaeth newydd. Bydd yn ei defnyddio i benderfynu a allwch gael unrhyw gredydau treth ac os felly faint.
Pan fyddwch yn cael eich hysbysiad dyfarniad credyd treth, bydd yn dweud wrthych chi faint mae gennych chi hawl iddo, ar sail yr wybodaeth newydd rydych chi wedi'i rhoi.
Enghraifft
Mae gan Rose dri o blant. Roedd hi wedi llenwi ffurflen hawlio, ond anghofiodd gynnwys un o'i phlant ar y ffurflen.
Wythnos yn ddiweddarach mae hi'n sylwi ar ei chamgymeriad ac yn ffonio'r Swyddfa Credyd Treth i roi gwybod iddynt. Oherwydd nad oeddent eto wedi cyfrifo faint o gredydau treth y gallai Rose eu cael, roeddent yn gallu ystyried ei thrydydd plentyn.
Felly cafodd Rose y swm cywir o gredydau treth ar gyfer ei thri o blant o'r dyddiad pan wnaeth ei hawliad gyntaf.
Os oes gennych chi hawl i gael mwy o gredydau treth
Efallai byddwch chi'n cael mwy o gredydau treth oherwydd yr wybodaeth newydd rydych chi'n ei rhoi. Os felly, dim ond am un mis y gellir ôl-ddyddio'r taliadau ychwanegol, fel rheol o'r dyddiad roeddech chi wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am y newid. Felly mae'n bwysig dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag sy'n bosib er mwyn osgoi colli arian ychwanegol.
Os oes gennych chi hawl i gael llai o gredydau treth
Os dylech chi fod yn cael llai o gredydau treth oherwydd yr wybodaeth newydd rydych chi'n ei rhoi, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn mynd yn ôl i'r dyddiad pan roeddech chi wedi hawlio.
Bydd yn edrych ar faint sydd wedi cael ei dalu i chi ers y dyddiad hwnnw ac yn ei gymharu â faint ddylech chi fod wedi'i gael. Os byddwch wedi cael gormod, bydd yn rhaid i chi dalu'r swm ychwanegol yn ôl.
Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn edrych ar rai dyfarniadau i wneud yn siŵr eu bod yn gywir. Os byddwch yn dweud wrthynt am y camgymeriad cyn iddynt edrych ar eich dyfarniad, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Ond gall hyn ddibynnu ar a oeddech chi wedi cymryd 'gofal rhesymol' wrth lenwi eich ffurflen hawlio.
Mae’n rhaid eich bod chi wedi cymryd gofal rhesymol wrth lenwi eich ffurflen hawlio. Mae hyn yn golygu eich bod wedi:
Gall gofal rhesymol fod yn wahanol i bobl wahanol. Er mwyn eich helpu i benderfynu a wnaethoch chi gymryd gofal rhesymol gallech ystyried:
Enghraifft 1 – rhywun a gymerodd ofal rhesymol
Roedd Nihal wedi hawlio credydau treth am ei fab, Parveen. Ond roedd ei gyn-wraig, Lila, eisoes wedi gwneud hawliad am Parveen. Ymchwiliodd y Swyddfa Credyd Treth i hawliad Nihal oherwydd mai dyma oedd yr ail hawliad am yr un plentyn.
Gwelodd yr ymchwiliad fod Nihal a Lila yn rhannu'r cyfrifoldeb am Parveen. Mae'n treulio hanner ei amser yng nghartref ei fam a hanner ei amser yng nghartref ei dad. Ond nid oedd Nihal yn gwybod bod Lila eisoes wedi hawlio.
Penderfynon nhw mai Lila oedd prif ofalwr Parveen, felly dim ond hi allai hawlio credydau treth amdano. Ond er na allai Nihal gael credydau treth ar gyfer Parveen, nid oedd yn afresymol iddo feddwl y gallai wneud hynny. Roedd wedi cymryd gofal rhesymol wrth wneud ei hawliad.
Enghraifft 2 – rhywun na chymerodd ofal rhesymol
Pan lenwodd Liam ei ffurflen hawlio, ysgrifennodd ei incwm o'i swydd fel £6,850. Ond mewn camgymeriad ysgrifennodd y rhifau o chwith – dylai fod wedi bod yn £8,650.
Roedd Liam wedi gwneud camgymeriad ac nid oedd yn ceisio cael mwy o gredydau treth nag y dylai eu cael. Ond dylai fod wedi edrych dros ei ffurflen yn iawn cyn ei hanfon. Drwy wneud camgymeriad ac wedyn peidio â'i wirio'n iawn roedd yn ddiofal. Nid oedd wedi cymryd gofal rhesymol wrth hawlio.
Os byddwch chi'n rhoi gwybodaeth anghywir yn fwriadol ar eich ffurflen efallai byddwch chi:
Darparwyd gan HM Revenue and Customs