Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin ar eich ffurflen hawlio credydau treth

Os byddwch chi'n gwneud camgymeriadau neu ddim yn ateb pob un o'r cwestiynau sy'n berthnasol i chi wrth lenwi eich ffurflen hawlio credydau treth, fe allai hyn achosi oedi. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi aros mwy am eich taliad cyntaf.

Llenwi'r ffurflen

Peiriant fydd yn darllen eich ffurflen hawlio felly mae’n bwysig eich bod:

  • yn defnyddio inc du
  • yn ysgrifennu y tu mewn i’r blychau – defnyddiwch un blwch ar gyfer pob llythyren a gadewch le gwag rhwng geiriau
  • yn defnyddio priflythrennau
  • yn gadael unrhyw flychau nad ydynt yn berthnasol i chi yn wag – peidiwch â rhoi llinell drwy'r blwch nac ysgrifennu 'amherthnasol'

Os byddwch chi'n gwneud camgymeriad, rhowch linell drwyddo – peidiwch â defnyddio hylif cywiro. Ysgrifennwch yr wybodaeth gywir o dan y blwch.

Os ydych chi'n gyfrifol am fwy na dau blentyn neu'n defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant, defnyddiwch y tudalennau ychwanegol sy'n dod gyda'ch ffurflen hawlio.

Os oes gennych chi fwy na phump o blant neu os ydych chi'n defnyddio mwy na thri darparwr gofal plant, gwnewch lungopi o'r tudalennau cyn eu llenwi.

Er mwyn osgoi oedi, gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r ffurflen i gyd, ond cofiwch beidio â rhoi llinell drwy ddim nad yw'n berthnasol i chi – dylech ei adael yn wag.

Osgoi camgymeriadau cyffredin

Bydd y pethau canlynol yn eich helpu i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.

Pryd i wneud hawl os ydych chi mewn cwpl

Os ydych chi mewn cwpl, mae'n rhaid i chi wneud hawliad ar y cyd – chewch chi ddim hawlio fel unigolyn sengl.

Mae gennych chi deulu dramor

Os oes gennych chi deulu dramor efallai y bydd angen i chi wneud hawliad sengl neu un ar y cyd, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol. Gallwch weld pa fath o hawliad y dylech ei wneud drwy ddilyn y ddolen isod.

Rydych chi eisoes yn cael credydau treth ond mae eich incwm bellach yn rhy uchel i chi gael unrhyw daliadau

Os ydych chi'n cael credydau treth yn barod, neu os yw'r Swyddfa Credyd Treth wedi ysgrifennu atoch yn egluro bod eich incwm yn rhy uchel ar hyn o bryd i chi gael unrhyw gredydau treth, peidiwch â gwneud hawliad arall. Os yw'ch amgylchiadau wedi newid, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Rydych chi a’ch partner yn gweithio

Os ydych chi a'ch partner yn gweithio – p'un ai a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig – gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi manylion incwm y ddau ohonoch yn rhan 5.

Os oes rhaid i chi amcangyfrif eich incwm

Yng nghwestiwn 5.7 sy'n ymwneud ag amcangyfrif eich incwm, dim ond un blwch ddylech chi ei farcio – ie neu na, nid y ddau. Os ydych chi wedi amcangyfrif unrhyw ran o'ch incwm dylech roi tic yn y blwch 'ie'.

Mae gennych anabledd, neu rydych chi'n meddwl bod gennych anabledd

Yng nghwestiwn 1.11 ynghylch anabledd, dim ond os ydych chi'n gweithio 16 awr neu ragor bob wythnos a bod y ddau bwynt canlynol yn wir y dylech chi roi tic yn y blwch:

  • mae gennych anabledd sy’n ei gwneud yn anodd i chi gael swydd
  • rydych chi'n cael budd-daliadau salwch neu anabledd penodol megis Lwfans Byw i'r Anabl neu Fudd-dal Analluogrwydd, neu wedi bod yn cael y rhain yn ddiweddar

Gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi'r manylion swyddogol yn gywir

Dyma restr wirio o wybodaeth fydd ei hangen arnoch o bosib, a gwybodaeth ynghylch lle i ddod o hyd iddi.

Yr wybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Sut mae’n edrych

Ble i ddod o hyd i'r wybodaeth

Eich rhif Yswiriant Gwladol

Ceir dwy lythyren, chwe rhif, yna un llythyren, fel hyn –
AB 12 45 89 C

Fe'i gwelwch yn y mannau canlynol:
• ar eich cerdyn-rhif Yswiriant Gwladol
• ar eich hysbysiad cod treth
• ar y Dystysgrif Diwedd Blwyddyn P60 a gewch gan eich cyflogwr
• unrhyw lythyr gan Gyllid a Thollau EM, yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu'r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
• ar eich slip talu

Rhif cyfeirnod eich Budd-dal Plant

Ceir wyth rhif, yna dwy lythyren, fel hyn – 23459876AB

Mae hwn i'w weld ar unrhyw lythyr Budd-dal Plant

Cyfeirnod TWE eich cyflogwr – os ydych chi'n gyflogedig

Ceir tri rhif, slaes, llythyren a thri rhif arall, fel hyn - 123/H345

Gellir gweld hwn ar eich slip talu diweddaraf, ar eich hysbysiad cod treth neu'ch P60. Holwch eich cyflogwr os nad ydych chi'n siŵr

Eich cyfeirnod treth - os ydych chi'n hunangyflogedig neu'n gweithio mewn partneriaeth

Ceir rhif deg digid fel hwn – 9876556789

Gellir gweld hwn ar dudalen gyntaf eich ffurflen dreth

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad wrth ysgrifennu unrhyw wybodaeth (er enghraifft, os nad yw'ch rhif Budd-dal Plant yn cyd-fynd ag enw'ch plentyn, neu os yw'r rhif a roddwyd gennych yn anghywir) bydd yn rhaid i'r Swyddfa Credyd Treth gysylltu â chi. Gallai hyn olygu oedi gyda'ch hawliad.

Edrych ar fanylion eich cyfrif banc

Ar gyfer cwestiynau 6.5 i 6.9 ar y ffurflen hawlio, gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar gyfer talu eich arian. Os na wnewch chi hyn, fe allai eich taliadau gael eu stopio ar ôl pedair wythnos.

Dim ond os ydych chi am i'r taliadau Credyd Treth Plant a'r taliadau Credyd Treth Gwaith gael eu talu i wahanol gyfrifon y mae angen i chi ddarparu dau gyfrif banc gwahanol.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ysgrifennu'r canlynol yn gywir yn y blychau a ddangosir:

  • enw(au) deilydd/deiliaid y cyfrif – sef eich enw chi neu enw eich partner fel arfer, ym mlwch 6.5
  • rhif y cyfrif ym mlwch 6.6
  • cod didol y gangen ym mlwch 6.7
  • cyfeirnod neu rif cyfres cyfrif y gymdeithas adeiladu ym mlwch 6.8

Gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi'r wybodaeth gywir

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi'r wybodaeth gywir ar eich ffurflen hawlio. Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo faint i'w dalu i chi o edrych ar yr hyn rydych yn ei ddweud wrthynt am eich incwm a'ch amgylchiadau teuluol.

Gwneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys yr wybodaeth gywir ynglŷn â'r canlynol:

  • eich incwm – cyfanswm yr arian yr ydych chi'n ei gael
  • y budd-daliadau rydych chi'n eu cael
  • eich trefniadau gofal plant
  • eich partner
  • eich plant
  • eich gwaith ac oriau

Os nad yw'r wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi yn gywir, mae'n bosib y byddwch yn cael gormod o arian ac y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl – efallai y cewch chi gosb ariannol hefyd.

Gwneud yn siŵr bod eich ffurflen yn gywir cyn ei hanfon

Cyn anfon eich ffurflen, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ateb pob cwestiwn sy'n berthnasol i chi – os oes gwybodaeth ar goll, fe allai hyn arwain at oedi gyda'ch hawliad.

Cofiwch beidio â rhoi llinell drwy ddim nad yw'n berthnasol i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys yr wybodaeth gywir. Os ydych chi wedi rhoi'r wybodaeth anghywir, fe allech wynebu cosb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi ac yn ysgrifennu'r dyddiad ar y ffurflen – os ydych chi mewn cwpl, mae'n rhaid i'r ddau ohonoch ei llofnodi. Defnyddiwch yr amlen a ddarparwyd a pheidiwch â phlygu'r ffurflen.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU