Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pryd y gallwch ddisgwyl eich taliad credydau treth cyntaf?

Bydd pa mor gyflym y cewch daliad yn dibynnu a yw’r Swyddfa Credydau Treth yn gallu gwneud penderfyniad sy’n seiliedig ar eich ffurflen gais ai peidio. Os nad ydych wedi rhoi’r holl wybodaeth y mae ei hangen ar y Swyddfa Credydau Treth efallai y bydd yn rhaid iddynt gysylltu â chi, a gall hyn achosi oedi.

Beth sy’n digwydd ar ôl i’ch cais gael ei brosesu?

Ar ôl i rywun delio â’ch cais, byddwch naill ai’n cael llythyr sy’n esbonio pam nad ydych yn gymwys i gael credydau treth, neu hysbysiad dyfarnu. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth ynghylch eich hawl i apelio.

Bydd eich hysbysiad dyfarnu yn dweud wrthych:

  • eich bod chi’n gymwys i gael credydau treth
  • a fyddwch chi’n cael Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith neu’r ddau ohonynt
  • faint o arian a gewch
  • pa wybodaeth y mae’r Swyddfa Credydau Treth wedi’i defnyddio i gyfrifo'ch dyfarniad
  • pryd a sut y dylech gysylltu â’r Swyddfa Credydau Treth os bydd eich amgylchiadau’n newid

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich hysbysiad dyfarnu credydau treth mewn lle diogel.

Am ba hyd y bydd yn rhaid i chi aros?

Mae’r Swyddfa Credydau Treth yn ceisio rhoi gwybod i chi am eich cais o fewn tair wythnos o’i dderbyn.

Os byddwch chi’n gymwys i gael credydau treth, bydd eich hysbysiad dyfarnu yn dweud wrthych beth fydd dyddiad eich taliad cyntaf ac a fyddwch yn cael taliadau pellach.

Efallai y cewch eich taliad cyntaf cyn y cewch eich hysbysiad dyfarnu. Mae’n rhaid i chi edrych ar eich hysbysiad dyfarnu pan fyddwch yn ei gael, a rhoi gwybod i’r Swyddfa Credydau Treth ar unwaith os bydd unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu’n anghyflawn. Gallwch wneud hyn drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credydau Treth.

Os byddwch yn gwneud unrhyw gamgymeriadau neu’n gadael bylchau mawr yn eich ffurflen gais, efallai y bydd yn rhaid i’r Swyddfa Credydau Treth gysylltu â chi neu wneud ymholiadau pellach. Gall hyn achosi oedi a gallai olygu y bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod hwy am eich taliad cyntaf.

Mae gennych anawsterau ariannol ac nid ydych wedi cael eich taliad

Os nad ydych wedi clywed dim byd o fewn tair wythnos, ac na allwch dalu eich costau byw hanfodol megis biliau rhent, nwy neu drydan, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credydau Treth.

Gallant roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich cais ac a ydynt yn aros am unrhyw wybodaeth.

Newidiadau i’ch cais

Os, ar ôl i chi anfon eich ffurflen gais, bydd angen i chi wneud unrhyw newidiadau, dylech roi gwybod i’r Swyddfa Credydau Treth ar unwaith. Er enghraifft os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi gwneud camgymeriad, rydych wedi anghofio rhoi gwybod am rywbeth neu mae eich amgylchiadau wedi newid,

Os bydd yn bosibl, bydd y Swyddfa Credydau Treth yn trin y wybodaeth a roddwch fel rhan o’ch cais gwreiddiol.

Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Credydau Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credydau Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU