Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut caiff Budd-dal Plant, credydau treth a Lwfans Gwarcheidwad eu talu

Os ydych yn cael Budd-dal Plant, credydau treth neu Lwfans Gwarcheidwad, fel rheol fe delir yr arian yn syth i gyfrif drwy ddefnyddio system Taliadau Uniongyrchol. Mae hon yn ffordd ddiogel o dalu’r arian i chi, ac mae’r mathau o gyfrifon y gallwch eu defnyddio wedi’u nodi isod.

Cyfrifon y gallwch eu defnyddio i gael taliadau

Bydd angen i'r cyfrif fod yn un o'r canlynol:

  • yn eich enw chi
  • yn enw eich partner
  • yn eich enw chi ac yn enw eich partner
  • yn enw rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan
  • ar y cyd yn eich enw chi ac yn enw rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan

Ar gyfer taliadau credydau treth yn unig, gallwch hefyd ddefnyddio cyfrif yn enw rhywun arall. Ond chi sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn cael yr arian gan yr unigolyn hwnnw neu honno.

Mae sawl math o gyfrif y gallwch ei ddefnyddio i gael taliadau.

Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu

Dyma'r cyfrifon mwyaf hyblyg. Gan ddibynnu ar y math o gyfrif, gallwch godi arian o beiriannau arian, defnyddio llyfrau siec, cardiau debyd neu dalu biliau drwy ddebyd uniongyrchol. Bydd rhai cyfrifon yn talu llog ac eraill yn gadael i chi godi arian dros y cownter yn Swyddfa'r Post®.

Cyfrifon Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

Neu, gallech agor Cyfrif Buddsoddi neu Gyfrif Cynilwr Uniongyrchol. Mae’r rhain yn union fel cyfrifon cynilo cyffredin mewn banc neu gymdeithas adeiladu, ac maent yn addas ar gyfer pob math o Daliadau Uniongyrchol.

Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post®

Dim ond budd-daliadau, Pensiwn y Wladwriaeth a thaliadau credyd treth y gellir eu talu i'r math hwn o gyfrif. Mae’n bosib y bydd y cyfrif hwn yn addas i chi os oes arnoch eisiau cyfrif syml nad yw'n gadael i chi ordynnu arian.

Agor cyfrif newydd

Cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu

I agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, gallwch naill ai ymweld â'r gangen, neu mewn rhai achosion, gallwch agor cyfrif ar-lein.

Fel rheol, bydd angen i chi ddangos rhywbeth i’r banc a’r gymdeithas adeiladu i brofi pwy ydych chi, megis pasbort, trwydded yrru neu fil Treth Cyngor. Y peth gorau yw holi'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i weld beth y mae arnyn nhw ei angen.

Cyfrifon Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Gallwch agor Cyfrif Buddsoddi drwy’r post. Gallwch gael ffurflen gais ar-lein gan wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.

Gallwch agor Cyfrif Cynilwr Uniongyrchol ar-lein, ar wefan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, neu dros y ffôn drwy ffonio 0500 500 000. Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.00 am a hanner nos, saith niwrnod yr wythnos.

Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post®

Os ydych yn llenwi eich ffurflen hawlio Budd-dal Plant a'ch bod am agor cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post®, ffoniwch y Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Os ydych yn llenwi eich ffurflen hawlio credydau treth a'ch bod am agor cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post®, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Cyfrifon na allwch eu defnyddio

Ceir rhai mathau o gyfrifon na allwch eu defnyddio ar gyfer Taliad Uniongyrchol. Dyma'r cyfrifon na allwch eu defnyddio:

  • cyfrifon plant
  • ambell gyfrif morgais
  • cyfrifon busnes a chymdeithas adeiladu sy'n defnyddio llyfr cyfrif
  • chyfrifon Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, ar wahân i'r Cyfrif Buddsoddi a’r Cyfrif Cynilwr Uniongyrchol

ISAs (Cyfrifon Cynilo Unigol)

Nid yw Cyllid a Thollau EM yn argymell i'ch Taliadau Uniongyrchol gael eu talu i gyfrif ISA. Mae hyn oherwydd bod terfyn ar y swm y gellir ei dalu i’r cyfrifon hyn, a bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn gwrthod y taliad os ewch chi dros y terfyn hwn.

A all eich taliadau fynd i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Ni ellir gwneud Taliadau Uniongyrchol i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU