Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae dau fath o gyfrif banc ar gyfer rheoli arian o ddydd i ddydd: cyfrif banc sylfaenol a chyfrif cyfredol. Mae banciau hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfrifon sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cynilion yn y tymor canolig neu'r hirdymor. Mae cyfrifon cynilo neu gyfrifon 'tymor' fel arfer yn talu mwy o log na chyfrifon cyfredol.
Mae cyfrifon banc sylfaenol yn cynnig man cyfleus i gadw'r arian sydd ei angen arnoch o ddydd i ddydd. Gallwch drefnu i'ch cyflog, Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau neu gredydau treth gael eu talu i mewn i'r cyfrif. Gallwch hefyd dalu sieciau neu arian parod i mewn am ddim, a threfnu 'debydau uniongyrchol' sy'n talu biliau rheolaidd yn awtomatig o'ch cyfrif.
Gyda chyfrif banc sylfaenol byddwch yn cael cerdyn arian parod y gallwch ei ddefnyddio mewn peiriant banc i godi arian parod. Mae rhai'n cynnig 'cerdyn debyd' hefyd y gallwch ei ddefnyddio i dalu am eitemau a chael 'arian yn ôl'; ond gyda chyfrif sylfaenol, dim ond os bydd digon o arian yn eich cyfrif y bydd y rhain yn gweithio.
Ni fyddwch yn cael llyfr siec gyda chyfrif banc sylfaenol, ac ni allwch godi mwy o arian na'r hyn sydd yn y cyfrif. Am y rheswm hwn, mae cyfrifon banc sylfaenol yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n poeni am wario gormod.
Mae gan gyfrifon cyfredol fwy o nodweddion na chyfrifon banc sylfaenol. Er enghraifft, maent fel arfer yn cynnig:
Mae rhai cyfrifon cyfredol yn talu llog ar yr arian rydych yn ei adael yn y cyfrif, ond mae'r gyfradd yn isel fel arfer.
Mae banciau'n cynnig amrywiaeth eang o gyfrifon cynilo. Y prif wahaniaethau rhyngddynt yw pa mor gyflym y gallwch gael gafael ar eich arian, y swm gofynnol sydd ei angen i gadw'r cyfrif ar agor a'r math o log a'r gyfradd llog a delir.
Mae llawer o undebau credyd yn cynnig cyfrifon cynilo, lle gallwch dalu arian i mewn a chodi arian. Gallwch hefyd gael eich budd-daliadau neu'ch cyflog wedi'u talu'n syth i mewn i rai cyfrifon Undeb Credyd.
Mae rhai Undebau Credyd yn cynnig cyfrifon cyllidebu, lle byddwch yn talu swm penodol i mewn bob wythnos/mis ac yna byddant yn talu biliau cartref y cytunwyd arnynt pan fydd angen eu talu.
Mae rhai Undebau Credyd bellach yn cynnig cyfrifon cyfredol hefyd a gall y 'llinellau arian' eich helpu i agor cyfrif hefyd.
Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio'r ffordd y mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn gwneud busnes gyda chi. Gallwch gael copi o'i ganllaw 'Your bank account' o wefan yr FSA neu gan eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu.
Mae'r FSA hefyd yn sicrhau bod banciau a chymdeithasau adeiladu yn gadarn yn ariannol. Efallai y cewch eich diogelu drwy 'Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol' hyd at derfyn penodol os bydd eich banc yn mynd i'r wal.
Os hoffech wneud cwyn, mae'n rhaid i fanciau a chymdeithasau adeiladu helpu drwy gael gweithdrefnau mewnol a bod yn aelod o Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (gwasanaeth diduedd a all helpu i ddatrys anghydfodau).
Wrth ddewis pa gyfrif banc sy'n addas i chi, sicrhewch eich bod yn gwybod pa gwestiynau i'w gofyn.
Mae banciau fel arfer yn codi ffi arnoch os byddwch yn mynd i orddrafft heb drefnu gorddrafft yn gyntaf, neu os byddwch yn mynd y tu hwnt i'ch terfyn ar orddrafft y cytunwyd arno.
Gall y ffioedd hyn, mewn rhai achosion, fod yn gannoedd o bunnoedd. Er mwyn osgoi ffioedd mawr, dylech:
Ewch i wefan eich banc i weld faint mae'n ei godi am fynd i orddrafft.
Pan fyddwch yn dewis cyfrif cyfredol, dylech ystyried: