Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gorddrafftiau a benthyciadau - y gwahaniaeth

Gall gorddrafftiau eich galluogi i gael benthyg arian mewn modd hyblyg er mwyn diwallu anghenion tymor byr. Gyda benthyciadau personol cewch fenthyg symiau penodol o arian ac maent yn fwyaf addas ar gyfer benthyg symiau mwy dros gyfnod hirach. Os ydych yn ystyried cael benthyg arian, sicrhewch y gallwch fforddio'r ad-daliadau.

Gorddrafftiau

Mae gorddrafftiau'n debyg i 'rwyd ddiogelwch' ar eich cyfrif cyfredol; byddant yn caniatáu i chi gael benthyg arian hyd at swm penodol pan nad oes arian yn eich cyfrif a gallant fod yn ddefnyddiol i ymdrin â phroblemau llif arian tymor byr.

Ceir gorddrafft yn awtomatig gyda rhai cyfrifon banc, a hynny am ddim. Os nad yw hyn yn wir am eich un chi, bydd rhaid i chi ofyn i'ch banc am orddrafft wedi'i awdurdodi. Bydd eu penderfyniad yn seiliedig ar eich cofnod banc ac efallai y bydd gofyn i chi dalu ffi i'w sefydlu. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r gorddrafft wedi'i awdurdodi, ond fe fydd yno os bydd arnoch ei angen ac ni fydd angen i chi dalu costau ychwanegol am ordynnu arian yn ddamweiniol.

Mae'n rhaid i chi ad-dalu eich gorddrafft a'r llog ar ei ben. Bydd cyfraddau llog yn amrywio o fanc i fanc a gallant fod naill ai'n sefydlog neu'n amrywiol. Mae'n bosib y bydd ffi i'w thalu am drefnu'r gorddrafft yn ogystal â chostau misol.

Gorddrafftiau heb eu hawdurdodi

Os byddwch yn gordynnu heb awdurdod eich banc, mae'n debygol y bydd y costau'n uchel. Efallai y bydd eich banc hefyd yn peri i sieciau y byddwch yn eu hysgrifennu 'fownsio' (gwrthod eu talu) neu gall wrthod talu debydau uniongyrchol - a chodi tâl am bob un o'r trafodion sy'n cael eu gwrthod. Mae'n bosib y byddant hefyd yn gofyn am ffioedd gweinyddol ychwanegol.

Benthyciadau personol

Gyda benthyciad personol gallwch gael benthyg swm y cytunir arno a'i ad-dalu gyda llog dros gyfnod penodol o amser (rhwng un a phum mlynedd fel rheol). Gall cyfraddau llog fod yn sefydlog neu'n amrywiol. Fel arfer, bydd rhaid i chi gadw at gynllun talu. Gall benthyciadau personol fod yn ddefnyddiol ar gyfer cwrdd â chostau mawr fel prynu car neu gyfarpar.

Golyga benthyciad 'heb ei warantu' fod y benthyciwr yn dibynnu ar eich addewid i dalu'r arian yn ôl. Maent yn cymryd mwy o risg na gyda benthyciad 'wedi'i warantu', lle gallant feddiannu unrhyw beth yr ydych chi wedi gwarantu'r benthyciad arno (megis eiddo) os na fyddwch yn ad-dalu. Felly tuedda cyfraddau llog ar gyfer benthyciadau heb eu gwarantu fod yn uwch.

Beth mae APR yn ei olygu?

Y 'gyfradd ganrannol flynyddol' yw'r APR ('annual percentage rate'). Mae'n dangos i chi beth yw gwir gost y benthyciad, fel cyfradd llog blynyddol. Mae'n cynnwys y costau a'r ffioedd yn ogystal â'r gyfradd llog er mwyn eich cynorthwyo i gymharu benthyciadau yn deg, ochr yn ochr â'i gilydd.

O blaid ac yn erbyn benthyciadau personol

Y manteision:

  • yn gyffredinol, gallwch gael benthyg symiau mwy o arian na gyda gorddrafft
  • mae gennych yr hawl i edrych o gwmpas - does dim angen cyfrif banc arnoch yn y sefydliad
  • bydd cyfraddau llog a chostau fel arfer yn llai na gyda gorddrafft
  • byddwch yn gwybod yn iawn pryd fydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu

Yr anfanteision:

  • nid yw benthyciadau mor hyblyg â gorddrafftiau
  • efallai y ceir cosb am dalu benthyciad yn rhy fuan
  • ni chewch fethu ad-daliad fel rheol

Pwyntiau i gadw llygad arnynt

  • peidiwch â chael eich perswadio i gael benthyg mwy o arian na allwch chi ei fforddio
  • os yw'r gyfradd llog yn amrywio, sicrhewch eich bod yn cyllidebu rhag ofn iddi godi yn y dyfodol
  • bydd rhai benthycwyr yn pwyso arnoch i brynu yswiriant i ofalu am ad-daliadau os byddwch yn mynd yn wael neu'n colli eich swydd

Edrych o gwmpas am fenthyciadau

Mae dewis helaeth o fenthyciadau ar gael, felly edrychwch o gwmpas er mwyn cael y fargen orau. Cymharwch gyfraddau llog, APR, termau (fel costau a chosbau am ad-dalu benthyciad yn rhy fuan) a pha mor hir y cewch fenthyg yr arian. Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein y Gwasanaeth Cyngor am Arian er mwyn cyfrifo'r ad-daliadau misol.

Allwch chi fforddio i gael benthyg arian?

Boed chi'n benthyg arian gan ddefnyddio gorddrafft neu fenthyciad, sicrhewch eich bod yn medru fforddio'r ad-daliadau. Os na allwch, gall eich dyledion fynd yn drech na chi yn sydyn iawn.

Mae’n bosib nad oes gennych gyfrif banc, bod gennych gofnod credyd gwael (neu ddim hanes credyd o gwbl) ac eich bod yn teimlo na fyddwch yn gallu cael y credyd cost isel normal sydd ar gael o fanciau neu gymdeithasau adeiladu.

Mae’r tabl isod yn darparu manylion benthycwyr gwahanol a’u cyfraddau tebygol, gan ddangos yr arbedion gallwch wneud.

Benthycwyr/Cyfraddau

Benthycwyr anghyfreithlon

Darparwr credyd cost uchel

Benthycwyr carreg drws

Undeb Credyd

Cyfanswm y benthyciad

£300

£300

£300

£300

APR tebygol

1000%

246.50%

117%

26.8%

Termau’r benthyciad (wythnosau)

52

52

52

52

Ad-daliadau wythnosol

£55.50

£17

£9

£6.55

Cyfanswm sy’n ad-daladwy

£3000.32

£884

£495

£340.44

Cyfanswm y llog

£2700.32

£495

£195

£40.44



Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i Undeb Credyd yn agos i chi neu drwy edrych yn y Yellow Pages o dan ‘Undebau Credyd’.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Banciau tramor

Os bydd banc yn methu, mae cynlluniau iawndal yn diogelu’ch cynilion. Ond efallai y mae banciau tramor yn cael eu diogelu mewn ffyrdd gwahanol

Allweddumynediad llywodraeth y DU