Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y prif ffyrdd o gynilo neu fuddsoddi eich arian

Os oes gennych chi arian dros ben, gallwch ei gynilo a/neu ei fuddsoddi. Wrth gynilo rydych yn rhoi eich arian o'r neilltu heb risg, fel arfer gyda chyfle i gael llog. Wrth fuddsoddi, mae'n bosibl y bydd eich arian yn cynyddu, ond nid oes sicrwydd y gwneir elw. At ei gilydd, mae buddsoddi'n fwy addas ar gyfer yr hirdymor.

Y prif fathau o gynnyrch cynilo

Cyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu

Gyda chyfrifon cynilo, byddwch bob amser yn cael yr arian a roesoch yn y cyfrif yn ôl - ynghyd â llog ar y gyfradd a hysbysebwyd. Mae amrywiaeth o gyfrifon ar gael, a'r prif wahaniaethau rhyngddynt yw pa mor gyflym y gallwch gael gafael ar eich arian, yr isafswm angenrheidiol ar gyfer cadw'r cyfrif ar agor a'r math o log a delir a'r gyfradd.

ISA Arian (Cyfrifon Cynilo Unigol)

Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu'n cynnig cyfrifon cynilo a buddsoddi di-dreth a elwir yn ISAs. Dim ond arian sydd mewn ISA Arian (un math o ISA), ac felly does dim risg i'ch arian.

Ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-2012, gallwch gynilo hyd at £5,340 mewn ISA Arian os ydych chi'n preswylio yn y DU ac yn 16 oed neu'n fwy.

Darllenwch fwy am ISAs ac ISAs i Bobl Iau yn yr adran ar gynnyrch buddsoddi isod.

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Cynnyrch cynilo a buddsoddi a gefnogir gan y llywodraeth yw Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I). O ganlyniad, mae unrhyw arian a fuddsoddir yn gwbl ddiogel. Mae NS&I yn cynnig cynnyrch di-dreth (yn cynnwys bondiau premiwm); cynnyrch sy'n cynnig elw sicr; cynnyrch ar gyfer cael incwm misol; cynnyrch cynilo i blant - a mwy.

Undebau Credyd

'Mudiadau ariannol cydfuddiannol' yw undebau credyd sy'n eiddo i'w haelodau ac a redir gan yr aelodau ar gyfer eu haelodau sy'n gallu cynilo gyda hwy. Unwaith y dangoswch eich bod yn gynilwr dibynadwy, byddant hefyd yn benthyca arian i chi - ond dim ond swm y gwyddant y gallwch fforddio ei ad-dalu. Mae gan aelodau 'fond cyffredin', megis byw yn yr un ardal, man gwaith cyffredin, aelodaeth o gymdeithas dai neu debyg.

Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i Undeb Credyd yn agos atoch chi neu drwy edrych yn y Yellow Pages dan 'Credit Unions'.

Y prif fathau o gynnyrch buddsoddi

Cyfranddaliadau

Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau rydych yn prynu daliad mewn cwmni. Os bydd y cwmni'n gwneud yn dda, gall gwerth y cyfranddaliadau godi ac efallai y gallwch eu gwerthu am elw. Efallai hefyd y byddwch yn cael cyfran o'r elw drwy daliadau incwm a elwir yn 'ddifidendau'. Os na fydd y cwmni'n gwneud yn dda, efallai na fyddwch yn cael unrhyw ddifidendau a gallai gwerth y cyfranddaliadau ddisgyn neu, mewn rhai achosion, golli'u gwerth yn gyfan gwbl.

Buddsoddiadau ar y cyd neu fuddsoddiadau cyfunol

Gyda buddsoddiadau ar y cyd neu gyfunol, mae nifer fawr o bobl yn gwneud cyfraniadau bychain i un gronfa fuddsoddi. Maent yn cynnwys:

  • Ymddiriedolaethau Buddsoddi-drwy-unedau (unit trusts)
  • Cwmnïau buddsoddi penagored (OEICS)
  • Ymddiriedolaethau Buddsoddi
  • Cronfeydd a Fasnachir ar Gyfnewidfa (Exchange Traded funds)
  • Aswiriant bywyd sy'n gysylltiedig ag unedau
  • ISAs (gweler yr adran nesaf)

I gael gwybod mwy am bob un o'r uchod, yn cynnwys manteision ac anfanteision buddsoddiadau cyfunol a'ch hawliau, dilynwch y dolenni isod.

Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)

Mae ISAs yn cynnig elw di-dreth. Gall ISAs gynnwys arian a/neu fuddsoddiadau yn y tymor hwy megis stociau a chyfranddaliadau neu yswiriant. Nid ydych yn talu treth ar y llog na'r difidendau (incwm buddsoddi) o ISA, ar wahân i'r 'credyd treth' o 10 y cant a ddidynnir o daliadau difidend cyn i chi eu derbyn. Dydych chi ddim ychwaith yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar enillion (elw) o fuddsoddiadau mewn ISA.

Mae terfynau ar faint y gallwch ei roi mewn ISA ymhob blwyddyn dreth.

O 1 Tachwedd 2011, mae ISAs i Bobl Iau ar gael yn arbennig i blant.

Bondiau

Benthyciadau i sefydliadau yw bondiau - i gwmni, awdurdod lleol neu'r llywodraeth. Maent yn talu llog penodedig ac fe'u masnachir ar y farchnad stoc, ac felly gall eu gwerth godi neu ddisgyn.

Additional links

ISAs i Bobl Iau

Mae cyfrifon cynilo di-dreth newydd i blant bellach ar gael

Canllaw ar-lein NS&I

Angen rhagor o wybodaeth ynghylch cynnyrch NS&I? Gall y canllaw hon helpu i ddod o hyd i’r gynnyrch gorau ar eich cyfer

Allweddumynediad llywodraeth y DU