Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Benthyciadau i gwmnïau, awdurdodau lleol neu'r llywodraeth yw bondiau. Fel arfer maent yn talu llog ar gyfradd sefydlog bob blwyddyn a'r nod yw talu'r cyfalaf yn ôl ar ddiwedd cyfnod y bond. Masnachir bondiau corfforaethol a bondiau'r llywodraeth ar y farchnad stoc, ac felly gall eu gwerth godi neu ostwng.
Gall buddsoddiadau bondiau gynnwys:
Cyhoeddir bondiau corfforaethol gan gwmnïau fel ffordd o godi arian i fuddsoddi yn eu busnes. Mae ganddynt 'werth nominal' (£100 fel arfer), sef y swm a fydd yn cael ei ddychwelyd i'r buddsoddwr ar ddyddiad datganedig yn y dyfodol ('y dyddiad ad-dalu'). Maent hefyd yn talu cyfradd llog ddatganedig bob blwyddyn - sefydlog fel arfer. Prynir a gwerthir bondiau corfforaethol ar y farchnad stoc a gall eu pris godi neu ostwng.
Bondiau a gyhoeddir gan y llywodraeth yw giltiau (neu 'stociau ymyl aur') sy'n talu cyfradd llog sefydlog ddwywaith y flwyddyn. Fe'u hystyrir yn fuddsoddiadau diogel gan nad yw'r llywodraeth yn debygol o fynd i'r wal neu beidio â thalu'r taliadau llog.
Fodd bynnag, does dim sicrwydd y cewch eich holl gyfalaf yn ôl bob tro. Mae giltiau, fel bondiau corfforaethol, yn cael eu prynu a'u gwerthu ar y farchnad stoc lle gall eu pris godi neu ostwng.
Gellir prynu a gwerthu giltiau drwy froceriaid, banciau'r stryd fawr neu drwy Swyddfa Rheoli Dyledion y llywodraeth (DMO) sy'n cyhoeddi canllaw i brynu giltiau.
Mae cronfeydd bond yn buddsoddi mewn sawl bond (yn cynnwys bondiau corfforaethol a bondiau'r llywodraeth) gyda gwahanol gyfraddau llog a dyddiadau ad-dalu gwahanol. Mae hyn yn lleihau'r risg i'ch cyfalaf. Ond oherwydd y cymysgedd o fuddsoddiadau, nid yw cronfeydd bond yn gallu addo elw sefydlog; maent, yn hytrach, yn anelu am 'elw targed'.
I gael rhagor o wybodaeth am fondiau ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.