Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae cyfranddaliadau, ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau ac ymddiriedolaethau buddsoddi i gyd yn fuddsoddiadau ar gyfer y tymor canolig neu'r hirdymor. Mae'r elw posibl yn fwy na'r hyn a geir gyda chynilion, ond nid yw hynny'n sicr. Mae'n syniad da gael cyngor cyn buddsoddi yn y mathau hyn o gynnyrch.
Daliadau bychain mewn cwmni yw cyfranddaliadau. Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau rydych yn dod yn gyd-berchennog ar y cwmni gyda'r holl gyfranddalwyr eraill. Fe allwch chi brynu:
At ei gilydd, mae gwerth cyfranddaliadau'n codi ac yn disgyn yn unol â pherfformiad busnes. Os bydd y cwmni'n gwneud yn dda efallai y gallwch wneud elw wrth werthu'ch cyfranddaliadau yn nes ymlaen. Os na fydd yn gwneud elw gallai gwerth eich cyfranddaliadau ddisgyn neu gallent golli eu gwerth yn gyfan gwbl.
Gall cwmni sy'n gwneud yn dda dalu difidendau i chi hefyd, sef incwm a gymerir o'i elw. Gall difidendau godi a gostwng yn unol â pherfformiad y cwmni, ond nid ydynt yn cael eu talu bob amser
Rydych fel arfer yn prynu cyfranddaliadau drwy frocer stoc. Gallwch ofyn i ymgynghorydd ariannol neu reolwr buddsoddiadau, ond byddant hwythau hefyd yn delio drwy frocer stoc.
Mae broceriaid stoc yn cynnig tri phrif fath o wasanaeth:
Gallwch ddelio gyda broceriaid stoc dros y ffôn, wyneb yn wyneb, dros y rhyngrwyd neu drwy'r post.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gyfranddaliadau, gan gynnwys sut i'w prynu a'u gwerthu a phwyntiau i'w hystyried cyn buddsoddi, ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).
Math o 'fuddsoddiad ar y cyd' yw ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau. Bydd rheolwr cronfeydd yn prynu cyfranddaliadau mewn amrywiaeth o wahanol gwmnïau ac yn eu cyfuno mewn cronfa; rydych wedyn yn prynu 'unedau' yn y gronfa. Oherwydd bod y gronfa'n cynnwys ystod o gyfranddaliadau, mae'r risg wedi'i gwasgaru. Mae'r gronfa'n 'benagored' - mae nifer yr unedau'n codi ac yn gostwng wrth i fuddsoddwyr brynu a gwerthu unedau.
Mae gan bob cronfa ar gyfer yr ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau strategaeth fuddsoddi ddatganedig, sy'n eich galluogi i fuddsoddi yn unol â'ch agwedd at risg. Er enghraifft, byddai cronfeydd sy'n buddsoddi mewn 'marchnadoedd newydd' neu gwmnïau llai yn cael eu hystyried yn gronfeydd gyda risgiau llawer uwch na chronfeydd sy'n buddsoddi yn rhai o gwmnïau mawr y DU.
Gallwch brynu neu werthu'r unedau drwy reolwr y gronfa. Mae eu gwerth yn symud yn unol â gwerth cyffredinol y gronfa, sydd, yn ei dro, yn symud yn unol â newidiadau i brisiau sylfaenol y cyfranddaliadau yn y gronfa.
Gydag amser, byddech yn gobeithio y bydd gwerth eich unedau'n codi'n unol â gwerthoedd sylfaenol y cyfranddaliadau. Ond, os bydd y rhain yn perfformio'n wael, gallai gwerth eich unedau ddisgyn. Gallwch hefyd gael incwm difidend neu ddosbarthiadau llog o'ch unedau, yn seiliedig ar y difidendau neu'r llog a delir gan y cyfranddaliadau sylfaenol neu'r buddsoddiadau eraill.
Mae ymddiriedolaethau buddsoddi'n buddsoddi yng nghyfranddaliadau gwahanol gwmnïau, gan alluogi buddsoddwyr i wasgaru'r risg. Y prif wahaniaeth rhyngddynt ac ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau yw bod yr ymddiriedolaethau buddsoddi eu hunain yn gwmnïau yr ydych yn prynu cyfranddaliadau ynddynt. Felly, rydych yn buddsoddi'n uniongyrchol, yn hytrach nag yn anuniongyrchol drwy gronfa benagored. Oherwydd yr effeithir ar brisiau cyfranddaliadau ymddiriedolaeth fuddsoddi yn rhannol gan y galw a'r cyflenwad, gall eu gwerth amrywio'n amlach nag unedau mewn ymddiriedolaeth buddsoddi-drwy-unedau.
Fel gydag ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau, mae ymddiriedolaethau buddsoddi'n buddsoddi mewn gwahanol fathau o gwmnïau - gyda rhai yn peri mwy o risg nag eraill. Mae rhai yn canolbwyntio ar dwf cyfalaf gydag ychydig iawn o incwm o ddifidendau, ac mae eraill yn buddsoddi er mwyn cael incwm cyson o ddifidendau gyda rhywfaint o gyfle am dwf cyfalaf.