Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch fuddsoddi mewn eiddo yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gynllun buddsoddi 'cyfunol' neu 'ar y cyd', megis Cwmni Buddsoddi Penagored mewn Eiddo neu Ymddiriedolaeth Fuddsoddi drwy Unedau (Unit Trust) mewn Eiddo. Mae'r risgiau'n uchel wrth fuddsoddi mewn eiddo.
Mae prynu'ch cartref neu eiddo i'w osod yn ffordd o fuddsoddi'n uniongyrchol mewn eiddo. Ond, er bod yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o forgeisi a werthir, nid yw'n rheoli'r rhan fwyaf o forgeisi prynu-i-osod. Os ydych chi'n ystyried buddsoddi'n uniongyrchol mewn eiddo fel ffordd o wneud arian, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r risgiau. Yn benodol, byddwch yn ofalus o hyrwyddiadau 'gwneud arian sydyn'.
Cynlluniau yw Cwmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs) mewn Eiddo ac Ymddiriedolaethau Buddsoddi drwy Unedau mewn Eiddo (Property Unit Trusts) sy'n cyfuno arian buddsoddwyr ac yn buddsoddi cymaint ag y bo modd mewn eiddo. (Mae'r gronfa'n buddsoddi naill ai'n uniongyrchol a/neu drwy brynu cyfranddaliadau mewn cwmnïau sy'n buddsoddi mewn eiddo). Mae rhai o'r cynlluniau hyn wedi'u rheoleiddio, ac felly mae mesurau ar gael i leihau'r risg o golled ariannol.
Mae rhai ymddiriedolaethau buddsoddi drwy unedau, OEICs, ymddiriedolaethau buddsoddi a pholisïau aswiriant bywyd yn cynnwys eiddo yn yr ystod o gronfeydd y maent yn buddsoddi ynddynt. Ond maent hefyd yn cynnwys buddsoddiadau eraill (cyfranddaliadau, bondiau'r llywodraeth, arian ayb) er mwyn lledaenu'r risg. Rheoleiddir y mathau hyn o fuddsoddiadau cyfunol gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Bydd eu deunydd marchnata yn dweud wrthych am yr ystod o gronfeydd y maent yn buddsoddi ynddynt.
Mae'r risgiau'n uchel wrth fuddsoddi mewn eiddo. Mae'n syniad da gael cyngor ariannol cyn buddsoddi mewn unrhyw gynllun sy'n gysylltiedig ag eiddo. I weld sut y gall ymgynghorydd ariannol eich helpu, darllenwch ein herthygl gysylltiedig.