Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)

NS&I (Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol) yw un o'r sefydliadau cynilo mwyaf yn y DU, gyda thros 26 miliwn o gwsmeriaid a mwy na £100 biliwn wedi’u buddsoddi. Caiff NS&I ei gysylltu’n bennaf â Bondiau Premiwm, ond mae hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfrifon a buddsoddiadau eraill.
Mae’r holl arian sy’n cael ei fuddsoddi â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn gwbl ddiogel, oherwydd cefnogir Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol gan y lywodraeth.

NS&I, banciau a chymdeithasau adeiladu – y gwahaniaeth

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn sefydliadau preifat. Pan fyddwch yn cynilo gyda banc neu gymdeithas adeiladu, caiff eich arian fel arfer ei ail-fuddsoddi er mwyn gwneud elw, a gaiff ei rannu rhwng aelodau a/neu gyfranddalwyr y sefydliad.

Mae NS&I yn adran o'r llywodraeth sy'n cynnig cynilo a buddsoddi i'r cyhoedd. Nid yw'r un fath â chynilo gyda banc neu gymdeithas adeiladu. Yn hytrach, rydych yn benthyca eich arian i'r llywodraeth er mwyn ariannu gwariant cyhoeddus. Yn gyfnewid am hyn, mae’r llywodraeth yn talu llog, enillion sy’n gysylltiedig â’r farchnad stoc neu wobrau am Fondiau Premiwm.

Mathau o gynlluniau cynilo a buddsoddi NS&I

Mae NS&I yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau cynilo a buddsoddi. Mae’r rhain wedi’u rhannu’n gategorïau fel a ganlyn:

Di-dreth

Yn ogystal â’i ISA Uniongyrchol, mae gan NS&I amrywiaeth o fuddsoddiadau nad oes angen talu Treth Enillion Cyfalaf na Threth Incwm y DU ar yr enillion.

Cynnyrch incwm

Dewis o fuddsoddiadau ar gyfradd sefydlog neu ar gyfradd amrywiol, gan dalu’r llog fel incwm misol.

Cyfrifon cynilo syml

Cyfrifon cynilo diffwdan at unrhyw ddiben.

Gweld yr amrywiaeth eang

Yn ychwanegol i’r mathau uchod o gynhyrchion, mae gan NS&I gynhyrchion eraill o fewn yr amrywiaeth a allai fod o ddiddordeb i chi.

Cofrestru i gael diweddariadau gan NS&I

Mae’n werth cofio nad yw rhai o fuddsoddiadau NS&I ar werth yn gyffredinol bob amser. Dim ond mewn Dyraniadau (Issues) cyfyngedig y maent ar gael. Gallwch wneud yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan NS&I bob amser, gan gynnwys gwybodaeth am ryddhau Dyraniadau newydd, newidiadau mewn cyfraddau llog, newyddion a chystadlaethau. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw dilyn y ddolen isod a chofrestru i gael diweddariadau NS&I dros e-bost.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r hyn sydd ar gael a'u manylion yn newid o bryd i'w gilydd. Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â gwefan NS&I isod. Neu, gallwch ffonio NS&I yn rhad ac am ddim ar 0500 007 007, rhwng 7.00 am a hanner nos, saith diwrnod yr wythnos. Efallai na fydd galwadau o ffonau symudol a rhai darparwyr llinellau tri am ddim. Mae’n bosib y bydd galwadau’n cael eu recordio.

Os ydych yn credu bod gennych fuddsoddiad nad yw bellach yn cael ei werthu gan NS&I ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen 'Cynhyrchion nad ydynt bellach ar werth' ar wefan NS&I isod.

Penderfynu a ddylech fuddsoddi gyda NS&I ai peidio

Os ydych yn chwilio am rywle i gynilo sy'n sicrhau bod eich cynilion yn ddiogel, gallai NS&I fod yn ddewis da. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd angen i chi ystyried opsiynau cynilo a buddsoddi eraill os byddai'n well gennych dderbyn rhywfaint o risg am y cyfle i gael enillion uwch.

Er mwyn eich helpu gyda’ch penderfyniad, efallai y byddwch am ymweld â ‘You & your money’, gwefan a ddarperir gan NS&I sy’n cynnwys gwybodaeth ariannol ymarferol ac annibynnol (gweler y ddolen isod). Mae’n lle gwych i ddechrau os ydych chi’n chwilio am adnodd syml ar gyfer cyllid personol, nad yw’n defnyddio jargon.

Gallwch hefyd gael gafael ar bamffledi sy’n crynhoi rhai o adrannau allweddol y wefan mewn rhai siopau WHSmith.

Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, mae'n bwysig eich bod yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael cyn penderfynu lle i roi eich cynilion. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Agor cyfrif

Os byddwch yn penderfynu eich bod am gynilo gydag NS&I, ewch i wefan NS&I a defnyddiwch y canllaw ar-lein i’ch helpu i ddod o hyd i'r cynnyrch cynilo gorau ar eich cyfer chi.

Gallwch hefyd ffonio llinell ymholiadau cwsmeriaid NS&I yn rhad ac am ddim ar 0500 007 007, rhwng 7.00 am a hanner nos, saith diwrnod yr wythnos. Efallai na fydd galwadau o ffonau symudol a rhai darparwyr llinellau tir am ddim. Mae’n bosib y bydd galwadau’n cael eu recordio.

Gallwch agor cyfrif neu fuddsoddi:

  • ar-lein
  • dros y ffôn
  • drwy'r post
  • yn bersonol yn un o ganghennau Swyddfa’r Post

Efallai y bydd rhai gwaharddiadau yn gymwys – gallwch ymweld â gwefan NS&I am ragor o wybodaeth.

Additional links

ISAs i Bobl Iau

Mae cyfrifon cynilo di-dreth newydd i blant bellach ar gael

Canllaw ar-lein NS&I

Angen rhagor o wybodaeth ynghylch cynnyrch NS&I? Gall y canllaw hon helpu i ddod o hyd i’r gynnyrch gorau ar eich cyfer

Allweddumynediad llywodraeth y DU