Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynilo a buddsoddi gydag ISAs

Mae Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) yn gyfrifon cynilo di-dreth sy’n golygu nid oes angen i chi ddatgan unrhyw incwm ohonynt. Gallwch ddefnyddio ISA i gynilo arian, neu i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau.

Beth y gallwch ei gynilo neu ei fuddsoddi mewn ISA?

Gellir defnyddio ISAs i:

  • gynilo arian – bydd y llog yn ddi-dreth
  • buddsoddi mewn cyfranddaliadau neu gronfeydd - bydd unrhyw dwf cyfalaf yn ddi-dreth ac ni fydd treth ychwanegol i'w thalu ar unrhyw ddifidendau y byddwch chi'n eu derbyn

Trosglwyddo arian o ISAs arian parod i ISAs stociau a chyfranddaliadau

Os oes gennych arian a gynilwyd mewn blwyddyn dreth flaenorol, gallwch drosglwyddo rhywfaint o'r arian o ISA arian parod neu'r cyfan ohono i ISA stociau a chyfranddaliadau heb i hyn effeithio ar eich lwfans blynyddol ar gyfer buddsoddi mewn ISA.

Arian a gynilwyd yn y flwyddyn dreth gyfredol:

  • gellir trosglwyddo arian a gynilwyd yn y flwyddyn dreth gyfredol o ISA arian parod i ISA stociau a chyfranddaliadau, ond rhaid trosglwyddo'r swm cyfan a gynilwyd yn y flwyddyn dreth honno yn yr ISA arian parod hwnnw hyd at y diwrnod y caiff yr arian ei drosglwyddo
  • yna caiff yr arian a drosglwyddwyd ei drin fel pe bai wedi cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol yn yr ISA stociau a chyfranddaliadau yn y flwyddyn dreth honno; yna gellir cynilo neu fuddsoddi gweddill y terfyn blynyddol ar gyfer ISA, sef £11,280, yn y flwyddyn dreth 2012-13, gan gynnwys hyd at £5,640 mewn ISA arian parod

Faint o dreth y byddwch yn ei arbed?

Llog ar gynilion:

  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 20 y cant o dreth (2012-2013) ar log eich cynilion
  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 40 y cant o dreth ar log eich cynilion
  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch ychwanegol, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 50 y cant o dreth ar log eich cynilion
  • os ydych yn talu treth ar y 'gyfradd gynilo' ar gyfer cynilion, ar wahân i ISA byddech fel arfer yn talu 10 y cant o dreth ar log eich cynilion

Incwm difidend:

  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, mewn ISA neu ar wahân iddo, byddwch chi'n talu 10 y cant ar incwm difidend; cymerir hwn fel 'credyd treth' cyn i chi dderbyn y difidend ac ni ellir ei ad-dalu ar gyfer buddsoddiadau ISA
  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch neu ychwanegol, byddech fel arfer yn talu treth ar 32.5 y cant neu 42.5 y cant ar incwm difidend; mewn ISA ni chewch 10 y cant o gredyd treth difidend yn ôl o hyn, ond byddwch yn arbed arian trwy beidio â gorfod talu unrhyw dreth bellach

Cynilion Treth Enillion Cyfalaf (TEC):

Os ydych yn gwneud mwy o elw na £10,600 o werthu cyfranddaliadau a rhai mathau eraill o asedau yn y flwyddyn dreth 2011-2012, byddai'n rhaid i chi fel arfer dalu Treth Enillion Cyfalaf (TEC). Ond does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar elw o ISA. (Ond allwch chi ddim defnyddio colledion ar fuddsoddiadau ISA i ostwng y Dreth Enillion Cyfalaf ar elw o fuddsoddiadau y tu allan i'r ISA.)

A all unrhyw un dalu arian i mewn i ISA?

Er mwyn talu arian i mewn i ISA, mae'n rhaid bod:

  • yn breswylydd yn y DU neu'n un o gyflogeion y Goron, fel diplomat neu aelod o'r lluoedd arfog, sy'n gweithio dramor ond yn cael ei dalu gan y llywodraeth neu'n ŵr, gwraig neu bartner sifil i un o gyflogeion y Goron
  • yn 16 oed neu'n hŷn yn achos ISA arian parod
  • yn 18 oed neu'n hŷn yn achos ISA stociau a chyfranddaliadau

Rhaid i ISA fod yn eich enw chi yn unig; ni allwch gael ISA ar y cyd.

Sut i gael gwybod mwy am ISAs

Am ragor o wybodaeth ynghylch ISA, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth ISA Cyllid a Thollau EM.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU