Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais ar-lein am daleb newydd ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os oes arnoch angen taleb newydd ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, efallai y gallwch wneud cais am un ar-lein. Yma, cewch wybod pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a phryd.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Dim ond os mae pob un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn:

  • nid oedd gennych y daleb wreiddiol – er enghraifft os cafodd ei cholli
  • ganwyd eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011
  • mae gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • byddai’ch taleb Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wreiddiol yn ddilys

Mae talebau a gyhoeddir cyn 1 Ionawr 2012 yn ddilys am 12 mis. Mae’r rheini a gyhoeddir ar 1 Ionawr neu ar ôl hynny’n ddilys am 60 diwrnod.

Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn:

  • os na fyddai’ch taleb wreiddiol dal yn ddilys – yn yr achos hwn, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif ar gyfer eich plentyn yn awtomatig
  • os yw enw neu gyfeiriad eich plentyn wedi newid neu os ydych chi’n hawlio un o fudd-daliadau teulu Ewrop – bydd angen i chi gysylltu â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i gael eich taleb newydd

Beth fydd ei angen arnoch

Cyn gofyn am daleb, bydd arnoch angen eich rhif Yswiriant Gwladol. Bydd hwn ar eich hysbysiad dyfarniad Budd-dal Plant.

Mae’n bosib y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi gael Rhif Cyfeirnod Unigryw Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eich plentyn – neu ‘URN’. Bydd y rhif hwn ar unrhyw waith papur yn ymwneud â’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant a roddir gan Gyllid a Thollau EM. Os na allwch ddod o hyd iddo, mae’n dal yn bosib i chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn hebddo.

Dewis y ffurflen sy’n berthnasol i chi

Ceir dwy ffurflen gais am daleb newydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr un sy’n berthnasol i chi.

Os yw eich enw chi ar yr hysbysiad dyfarniad Budd-dal Plant, dylech ddefnyddio'r ddolen ‘Chi sydd wedi eich enwi i dderbyn Budd-dal Plant – gwneud cais am daleb newydd ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant’.

Os nad yw eich enw ar yr hysbysiad dyfarniad Budd-dal Plant, ond mae gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, defnyddiwch y ddolen ‘Mae gennych chi gyfrifoldeb rhiant – gwneud cais am daleb newydd ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant’.

Bydd gennych chi gyfrifoldeb rhiant os mai chi yw rhiant, llys-riant neu warcheidwad cyfreithiol y plentyn, er enghraifft.

Bydd y daleb newydd yn cael ei hanfon at yr unigolyn sy’n cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn.

Os na fydd y daleb newydd yn cyrraedd

Dylech gael taleb newydd o fewn mis. Os na fydd un yn eich cyrraedd, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Darparwyd gan HM Revenue & Customs who administer the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU