Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – gwybodaeth sylfaenol

Mae'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo di-dreth a hirdymor ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011. Yma cewch wybod a all eich plentyn gael cyfrif, sut mae'r cyfrif yn gweithio, a beth i'w wneud er mwyn dechrau arni.

Pwy sydd â hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Mae gan eich plentyn hawl i gyfrif os yw pob un o'r pwyntiau canlynol yn berthnasol:

  • ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011
  • talwyd Budd-dal Plant i chi ar gyfer y plentyn hwnnw am o leiaf ddiwrnod cyn 4 Ionawr 2011
  • mae eich plentyn yn byw yn y DU
  • nid yw’ch plentyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau mewnfudo

Gallai eich plentyn fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau mewnfudo os cafodd ei eni y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys mewn canolfan filwrol) i rieni nad ydynt yn Brydeinig.

Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud eich hawliad am Fudd-dal Plant, peidiwch ag oedi. Dim ond am hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio eich hawliad.

Os nad yw’ch plentyn yn gymwys ar gyfer cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, mae cyfrifon cynilo di-dreth eraill i gael, gan gynnwys y Cyfrif Cynilo Unigol i Bobl Iau (Junior ISAs). Mae hwn yn gyfrif cynilo hirdymor i blant dan 18 sydd heb gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mae eich plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (ymddiriedolaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon)

Mae’n dal yn bosib y bydd gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os yw’r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • roedd eich plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol cyn 3 Ebrill 2011
  • mae eich plentyn yn bodloni amodau cymhwyso eraill ar gyfer cael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os dechreuodd yr awdurdod lleol ofalu am eich plentyn cyn i chi hawlio Budd-dal Plant, mae’n dal yn bosib i chi gael cyfrif, ar yr amod y bodlonir yr amodau cymhwyso eraill.

Rydych chi’n gweithio dramor ac wedi bod yn cael un o fudd-daliadau teulu Ewrop

Mae’n dal yn bosib y bydd gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011
  • mae eich plentyn yn byw yn y DU
  • talwyd budd-dal teulu gan wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd i chi am o leiaf ddiwrnod cyn 4 Ionawr 2011
  • rydych chi’n gweithio yn y wlad honno yn yr Undeb Ewropeaidd

Sut mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gweithio

Fel rheol, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon taleb atoch ar gyfer pob plentyn sydd â hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Byddwch yn defnyddio’r daleb i agor y cyfrif yn enw eich plentyn.

Gallai’r daleb fod yn werth £50 neu £250, gan ddibynnu ar pryd ganed eich plentyn a phryd daeth yn gymwys i gael cyfrif.

Mae'r arian yn y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn eiddo i'r plentyn, ond ni fydd modd iddo dynnu arian o’r cyfrif nes bydd yn 18 oed.

O 1 Tachwedd 2011, gall rhieni, teulu a ffrindiau roi arian yn y cyfrif, hyd at drothwy o £3,600 y flwyddyn.

Bydd modd i arian ychwanegol gael ei dalu'n syth i'r cyfrif. Er enghraifft, os ydych chi ar incwm isel.

Nid oes angen talu treth ar incwm y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, nac ar unrhyw enillion sy’n deillio o’r gronfa. Ni fydd yr arian y bydd eich plentyn yn ei gael yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth a gewch chi.

Sut mae sefydlu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Ar ôl i chi gael y daleb, bydd angen i chi fynd â hi at ddarparwr cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cymeradwy. Byddant yn agor y cyfrif i chi.

Os na fyddwch chi’n cael taleb cyn pen mis i dderbyn Budd-dal Plant, bydd modd i chi gael un arall yn ei lle fel rheol.

Ni fyddwch yn cael taleb os dechreuodd awdurdod lleol (neu ymddiriedolaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon) ofalu am eich plentyn cyn i chi ddechrau hawlio Budd-dal Plant. Bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif i'ch plentyn yn lle hynny.

Os ydych chi wedi bod yn cael un o fudd-daliadau teulu Ewrop, ac yn meddwl bod gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i wneud cais am y daleb.

Rheoli'r cyfrif

Fe fydd y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn enw eich plentyn, ond y person sy'n agor y cyfrif sy'n gyfrifol am ei reoli. Fe’i gelwir yn ‘berson cyswllt cofrestredig’.

Y person cyswllt cofrestredig:

  • yw’r un ddylai gadw’r holl waith papur
  • yw’r un sy’n rhoi gwybod am newidiadau penodol mewn amgylchiadau – er enghraifft, newid mewn cyfeiriad
  • yw’r unig un a all newid y cyfrif neu'r darparwr

Bydd eich plentyn yn dod yn berson cyswllt cofrestredig ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb am y cyfrif pan fydd yn 16 oed.

Gall y person cyswllt cofrestredig newid i wahanol fath o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu i wahanol ddarparwr unrhyw bryd.

Tynnu arian o’r cyfrif

Pan fydd y cyfrif wedi cael ei agor, ni fydd neb yn gallu gwneud dim â’r arian nes bydd eich plentyn yn 18 oed. Bydd yr arian yn dod yn eiddo iddo ef bryd hynny.

Os yw’ch plentyn yn cael salwch angheuol neu’n marw, mae’r rheolau’n wahanol.

Diweddaru’r cyfrif

Pan fydd y cyfrif yn weithredol, ceir nifer o newidiadau mewn amgylchiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt, er enghraifft:

  • os bydd newid enw neu gyfeiriad
  • os bydd plentyn yn cael salwch angheuol
  • os bydd y plentyn yn marw
  • os bydd y person cyswllt cofrestredig yn marw

Bydd rhoi gwybod am y newidiadau hyn yn eich helpu i reoli’r cyfrif a’i gadw’n gyfredol. Mae’n bosib y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich taliadau Budd-dal Plant hefyd.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU