Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth wrth ddewis cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Mae tri phrif fath o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gall y cyfrifon hyn fod yn gyfrifon Sharia neu foesegol hefyd. Yma, cewch wybod pa fath o gyfrif yw'r gorau ar eich cyfer chi a'ch plentyn.

Cyfrifon rhanddeiliaid

Mae’n rhaid i gyfrifon rhanddeiliaid ddilyn rheolau'r llywodraeth i helpu i warchod arian eich plentyn. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • buddsoddi’r arian mewn cyfranddaliadau a bondiau ar draws nifer o gwmnïau yn hytrach na dim ond un
  • symud yr arian yn awtomatig i fuddsoddiadau â llai o risg pan fydd eich plentyn yn 13 oed

Mae hyn yn helpu i leihau’r risg o golli’ch arian os bydd un o’r cwmnïau y byddwch yn buddsoddi ynddynt yn perfformio’n wael. Mae hefyd yn golygu y bydd arian eich plentyn yn fwy diogel wrth iddo nesáu at 18, gan y bydd yr hyn mae wedi ei ennill hyd yma yn cael ei warchod.

Bydd pob darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cynnig cyfrifon rhanddeiliaid. Hefyd, dyma'r math o gyfrif y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei agor i chi os na fyddwch yn defnyddio eich taleb erbyn y dyddiad y daw i ben.

Dim ond hyd at uchafswm o £1.50 y gall cyfrifon rhanddeiliaid ei godi bob blwyddyn am bob £100 sydd yn y cyfrif. Gallai mathau eraill o gyfrifon godi mwy.

Pethau i gadw golwg amdanynt

Efallai y bydd rhaid i chi dalu o leiaf £10 i'r cyfrif – gallai hyn fod am bob taliad neu dros y flwyddyn gyfan.

Cyfrifon cyfranddaliadau

Bydd cyfrifon cyfranddaliadau yn buddsoddi arian eich plentyn drwy brynu cyfranddaliadau neu fondiau mewn cwmnïau. Pan fydd y cwmnïau hynny’n perfformio’n dda, bydd gwerth y cyfranddaliadau neu’r bondiau’n cynyddu, felly byddant yn gwneud arian. Gallai eu gwerth ostwng hefyd.

Mae rhoi arian mewn cyfranddaliadau yn fwy o risg na rhoi arian mewn cyfrif cynilo, oherwydd gallant golli eu gwerth os bydd cwmnïau’n perfformio’n wael. Ond, gallai’r math hwn o gyfrif wneud yn dda os caiff eich arian Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ei gynilo am amser hir. Y rheswm am hyn yw y gall perfformiad da dros flynyddoedd eraill wneud iawn am berfformiad gwael un flwyddyn.

Pethau i gadw golwg amdanynt

Mae’n bosib y bydd arnoch eisiau holi ynglŷn â’r canlynol:

  • a oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio’r math hwn o gyfrif
  • ymhle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y sefydliadau y caiff eich arian ei fuddsoddi ynddynt
  • os bydd gwerth y cyfrif yn gostwng, a allech golli eich arian i gyd, a sut gallai'r darparwr atal hynny rhag digwydd

Cyfrifon cynilo

Mae’r cyfrifon hyn yn gweithio yn yr un modd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Bydd yr arian y byddwch yn ei fuddsoddi yn ddiogel ac yn ennill llog. Felly, faint bynnag o arian y byddwch yn ei fuddsoddi, bydd eich plentyn yn cael y swm hwnnw o arian yn ôl, yn ogystal ag ennill swm o log arno yn ystod y cyfnod y cafodd ei fuddsoddi.

Efallai na fydd y math hwn o gyfrif yn tyfu cymaint ag y byddai petaech yn rhoi eich arian mewn cyfranddaliadau. Mae’n bosib y byddwch am gadw golwg ar y cyfraddau llog a symud eich cyfrif er mwyn cael bargen well.

Pethau i gadw golwg amdanynt

Mae’n bosib y bydd arnoch eisiau holi ynglŷn â’r canlynol:

  • a oes cost am redeg y cyfrif
  • a yw’r gyfradd llog yn sefydlog am gyfnod penodol o amser, ac os felly, beth fydd yn digwydd ar ôl hynny
  • sut allwch chi sicrhau eich bod yn cael y gyfradd llog orau ar gyfer eich cyfrif bob amser

Cyfrifon ‘moesegol’

Efallai na fyddwch am roi arian mewn busnesau nad ydych yn cytuno â nhw, er enghraifft, y rheini sy'n ymwneud ag arfau, tybaco neu alcohol.

Mae’n bosib y byddai’n well gennych roi arian mewn busnesau sy’n gwerthu nwyddau yn ôl rheolau masnach deg, neu sy’n gweithio i amddiffyn yr amgylchedd. Gelwir y rhain yn gyfrifon ‘moesegol’

Cyfrifon Sharia

Mae’r cyfrifon hyn yn bodloni rheolau cyfraith Sharia. Os byddwch yn defnyddio cyfrif Sharia, ni fydd eich arian yn cael ei fuddsoddi mewn pethau megis alcohol, tybaco neu gamblo.

Sut mae penderfynu pa fath o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yw’r gorau i chi

Efallai y bydd y math o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant y bydd arnoch ei eisiau yn dibynnu ar y canlynol:

  • a ydych am gael y cyfle gorau i’r arian dyfu – gelwir hyn yn ‘enillion’
  • a ydych chi’n fodlon ac yn barod i gael llai o arian yn ôl na’r hyn rydych chi wedi’i fuddsoddi – gelwir hyn yn ‘risg’

Gall rhoi arian (neu ‘fuddsoddi’) mewn cyfranddaliadau fod yn llawn risg – mae'n bosib na chewch yr hyn a rowch i mewn yn ôl. Ond, dros amser, mae'n bosib y bydd y cyfrif yn tyfu mwy na chyfrif nad yw'n buddsoddi mewn cyfranddaliadau.

Felly, mae angen i chi bwyso a mesur pa mor fodlon ydych chi i fuddsoddi mewn cyfranddaliadau.

Gallai’r tabl hwn eich helpu i benderfynu pa fath o gyfrif i’w ddewis.

Sut ydych chi’n teimlo ynglŷn â buddsoddi mewn cyfranddaliadau?

Faint o risg ydych chi am ei gymryd gyda’r arian?

Y math gorau o gyfrif

Rydych chi’n fwy na bodlon buddsoddi mewn cyfranddaliadau

Rydych chi’n fwy na bodlon cymryd risg uchel os yw’n golygu y gallai eich plentyn gael mwy o arian pan fydd yn 18

Cyfrif cyfranddaliadau

Cyfrif rhanddeiliaid

Rydych chi rywfaint yn ansicr ynglŷn â chyfranddaliadau

Rydych chi’n fodlon cymryd rhywfaint o risg os yw’n golygu y gallai eich plentyn gael mwy o arian pan fydd yn 18

Cyfrif rhanddeiliaid

Nid ydych chi’n dymuno buddsoddi mewn cyfranddaliadau

Nid ydych chi am gymryd dim risg hyd yn oed os yw’n golygu y gallai eich plentyn gael llai o arian pan fydd yn 18

Cyfrif cynilo

Os ydych chi'n dal yn ansicr ynglŷn â pha fath o gyfrif i'w ddewis, gallwch gael cymorth gan y canlynol:

  • unrhyw ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • ymgynghorydd ariannol annibynnol

Gallwch chi hefyd fynd i wefan ‘Money Advice Service’ i gael cyngor cyffredinol ynglŷn ag arian, gan gynnwys cynilon a buddsoddiadau.

Ar ôl i chi ddewis y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant rydych chi am ei gael

Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa fath o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i'w agor, bydd angen i chi ddewis darparwr addas.

Os ydych chi am newid y cyfrif

Gallwch newid y math o gyfrif sydd gennych chi unrhyw bryd. Gofynnwch a yw’ch darparwr yn cynnig y cyfrif y mae arnoch ei eisiau. Os nad yw’n cynnig y math hwnnw, efallai y bydd rhaid i chi ofyn i ddarparwr arall.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU