Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – arweiniad i ddechreuwyr

Ar ôl i chi gael eich taleb ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, bydd angen i chi ddewis pa fath o gyfrif rydych am ei gael, yn ogystal â dewis darparwr i'w redeg. Yna, bydd angen i chi agor y cyfrif cyn gynted â phosib. Bydd yr arweiniad cam wrth gam hwn o gymorth i chi ddechrau arni.

Cam un – dewis cyfrif

Bydd angen i chi benderfynu pa fath o gyfrif fydd orau ar gyfer eich plentyn. Gallwch ddewis o wahanol fathau o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, yn dibynnu ar sut rydych chi am fuddsoddi'r arian.

Ni chewch ddefnyddio’r cyfrif y telir eich Budd-dal Plant iddo.

Cam dau – dewis darparwr cyfrif

Ar ôl i chi benderfynu pa fath o gyfrif i’w agor, dewiswch ddarparwr sy'n cynnig y math o gyfrif y mae arnoch ei eisiau. Cyrff y mae Cyllid a Thollau EM wedi’u cymeradwyo i ddarparu a rhedeg cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yw’r rhain.

Gallwch fynd yn uniongyrchol at ddarparwr penodol er mwyn agor cyfrif. Neu gallwch agor cyfrif drwy un o ‘ddosbarthwyr’ y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Cwmnïau (gan gynnwys rhai siopau neu archfarchnadoedd) sy’n cynnig cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ran darparwyr yw ‘dosbarthwyr’.

Mae cyfrifon a gaiff eu hagor drwy ddosbarthwyr yn dal i gael eu rhedeg gan ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Yn syml, mae’r dosbarthwr yn gweithredu fel cyswllt rhyngoch chi a’r darparwr.

Beth i chwilio amdano cyn dewis darparwr – rhestr wirio

Ceisiwch edrych ar nifer o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan wahanol ddarparwyr a dosbarthwyr cyn i chi benderfynu lle i agor cyfrif eich plentyn. Meddyliwch am y canlynol:

  • ffioedd am redeg y cyfrif
  • a oes rhaid i chi roi arian yn y cyfrif
  • a oes lleiafswm y mae’n rhaid ei dalu i'r cyfrif
  • yr enillion rydych yn debygol o’u cael ar yr arian rydych chi’n ei fuddsoddi
  • a oes modd i chi reoli’r cyfrif dros y ffôn, ar-lein neu’n bersonol
  • faint o bobl eraill all dalu i’r cyfrif
  • sut allwch chi weld faint o arian sydd yn y cyfrif

Cam tri – agor y cyfrif

Pwy all agor y cyfrif?

Gallwch agor cyfrif os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • chi sydd wedi cael y daleb
  • nid ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn, ond mae gennych chi gyfrifoldeb rhiant drosto

Gall y canlynol fod â chyfrifoldeb rhiant:

  • rhieni
  • llys-rieni
  • rhieni sy’n mabwysiadu – ond dim ond pan fydd y broses fabwysiadu wedi dod i ben
  • gwarcheidwaid

Nid yw’n cynnwys:

  • nain/mam-gu a taid/tad-cu na pherthnasau eraill – oni bai mai hwy yw gwarcheidwaid cyfreithiol y plentyn
  • rhieni maeth

Os nad oes gan neb gyfrifoldeb rhiant, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif ar gyfer y plentyn.

Os bydd rhywun â chyfrifoldeb rhiant ar gael yn nes ymlaen, gall wneud cais i reoli'r cyfrif.

Sut mae agor cyfrif

I agor cyfrif, efallai y bydd rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • llenwi ffurflen gais y darparwr â llaw
  • gwneud cais dros y ffôn neu’r rhyngrwyd

Os nad ydych chi eisoes yn gwsmer i’r darparwr, mae’n bosib y bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ddarparu pasbort, trwydded yrru neu fil gwasanaethau dilys.

Ni fydd rhaid i chi gael archwiliad credyd er mwyn agor y cyfrif, oherwydd bydd y cyfrif yn eiddo i’ch plentyn, nid i chi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi agor y cyfrif?

Cyn i’r cyfrif gael ei agor, efallai y bydd cyfnod lle gallwch newid eich meddwl ac agor cyfrif gwahanol heb unrhyw gosb.

Ni fydd y cyfrif yn cael ei agor nes bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Ni ellir talu arian i’r cyfrif tan hynny.

Holwch eich darparwr ynglŷn â’r canlynol:

  • am ba hyd fydd y cyfnod hwn yn para
  • pryd ydych chi’n debygol o weld yr arian yn y cyfrif

Ar ôl i chi agor y cyfrif:

  • chi fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif – sef y 'person cyswllt cofrestredig’
  • chi fydd yn gyfrifol am reoli’r cyfrif nes bydd eich plentyn yn 16
  • gallwch newid i gyfrif neu ddarparwr arall unrhyw bryd

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Os na fyddwch yn agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cyn y dyddiad y daw'r daleb i ben, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor un ar ran eich plentyn. Cyfrif a elwir yn gyfrif 'Rhanddeiliaid' fydd hwn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y math hwn o gyfrif drwy ddilyn y ddolen ‘Cymorth wrth ddewis cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant' isod.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu at bwy bynnag sy’n cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn rhoi gwybod iddynt gyda pha ddarparwr y mae’r cyfrif wedi cael ei agor. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi y bydd angen i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn fod yn berson cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.

Os mai chi fydd y person cyswllt cofrestredig, byddwch yn gallu newid i fath arall o gyfrif, neu newid darparwr, unrhyw bryd.

Os bydd eich plentyn yn marw cyn i chi agor y cyfrif

Bydd Cyllid a Thollau EM yn trefnu bod cynrychiolydd personol eich plentyn (sef ysgutor neu weinyddwr eiddo a meddiannau eich plentyn fel arfer) yn cael yr arian roedd gan eich plentyn yr hawl iddo. Gallai hyn helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol y byddwch yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i roi gwybod iddynt fod eich plentyn wedi marw. Neu, gallwch anfon llythyr os byddai’n well gennych chi wneud hynny.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU