Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ychwanegu arian at gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gall unrhyw un roi arian mewn cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – hyd at derfyn o £3,600 y flwyddyn. Yma, cewch ragor o wybodaeth am y terfyn, beth sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn y caiff y cyfrif ei agor, sut i ychwanegu arian a sut caiff taliadau gan y llywodraeth eu trin.

Faint gewch chi ei ychwanegu at y cyfrif

O 1 Tachwedd 2011 cynyddodd y terfyn blynyddol ar gyfer pob taliad i'r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i £3,600. Gall unrhyw un wneud y taliadau.

Eich dewis chi fydd faint rydych chi’n ei roi yn y cyfrif.

Y dyddiad cyntaf ar gyfer pob £3,600 yw pen-blwydd y plentyn. Y dyddiad olaf yw’r diwrnod cyn pen-blwydd nesaf y plentyn.

Efallai y bydd rhaid i chi roi lleiafswm o arian yn y cyfrif. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd rhaid i chi wneud taliad o £10 neu ragor i gyfrif rhanddeiliaid.

Dylech holi beth fydd y darparwr yn ei dderbyn, a pha mor aml.

Sut gallwch chi ychwanegu arian at y cyfrif

Gallwch ychwanegu arian gyda siec, archeb sefydlog neu ddebyd uniongyrchol at gyfrif rhanddeiliaid.

Efallai y bydd rhaid i chi ofyn sut gallwch wneud taliadau i gyfrifon cynilo neu gyfrifon cyfranddaliadau. Ewch i siarad â’r darparwr neu’r unigolyn sy’n rheoli’r cyfrif. Fel arfer, yr unigolyn sy’n gyfrifol am y plentyn fydd hwn.

Effaith taliadau gan y llywodraeth ar y terfyn o £3,600

Ni fydd taliadau a wneir gan y llywodraeth yn cyfrif tuag at y £3,600 – ond ceir eithriadau, sef:

  • taliadau a wneir i blant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hyd at 31 Ionawr 2011
  • taliadau a wneir gan awdurdod lleol i blentyn y mae’n gofalu amdano

Y flwyddyn y byddwch yn agor y cyfrif

Ceir rheolau gwahanol ar gyfer y flwyddyn gyntaf y byddwch yn agor y cyfrif. Y dyddiad cyntaf yw’r diwrnod yr agorir y cyfrif, ond y diwrnod cyn pen-blwydd nesaf y plentyn fydd y diwrnod olaf o hyd.

Yn aml, ceir cyfnod ar ôl i chi agor y cyfrif lle gallwch newid eich meddwl ac agor cyfrif gwahanol heb unrhyw gosb. Ni chewch dalu unrhyw arian i’r cyfrif nes bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, felly ceisiwch beidio ag oedi wrth agor cyfrif.

Os byddwch yn oedi agor cyfrif, a bod y cyfnod lle cewch newid eich meddwl yn dod i ben ar ôl pen-blwydd nesaf y plentyn, gallwch golli’r terfyn o £3,600 ar gyfer y flwyddyn gyntaf.

Os na chyrhaeddir y terfyn o £3,600

Os na ddefnyddir y terfyn o £3,600 mewn un flwyddyn, ni allwch drosglwyddo unrhyw swm nas defnyddiwyd i’r flwyddyn ganlynol i dalu’r gwahaniaeth.

Er enghraifft, os byddwch yn talu £2,600 i’r cyfrif un flwyddyn, ni chewch ychwanegu £1,000 yn ychwanegol at y terfyn o £3,600 y flwyddyn nesaf.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU