Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pan fydd eich plentyn yn 16 neu'n 18 – yr effaith ar ei Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Pan fydd eich plentyn yn 16, daw yn gyfrifol am reoli ei gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Pan fydd yn 18, gall gymryd yr arian o’r cyfrif hwn. Yma, cewch wybod beth yw ei gyfrifoldebau, a chael cyngor os ydych chi’n poeni am yr arian yn nwylo eich plentyn.

Pan fydd eich plentyn yn 16 mlwydd oed

Pan fydd eich plentyn yn 16 mlwydd oed, bydd yn cymryd rheolaeth dros ei gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae hyn yn golygu y bydd angen iddo wneud cais i gael ei wneud yn berson cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.

Pan mai eich plentyn fydd y person cyswllt cofrestredig, gall gael datganiadau a gwneud newidiadau i’r cyfrif. Er enghraifft, bydd yn gallu newid darparwr neu symud i fath gwahanol o gyfrif.

Ni fydd y plentyn yn gallu cyffwrdd yr arian yn y cyfrif nes bydd yn 18 oed.

Pan fydd eich plentyn yn 18 mlwydd oed

Pan fydd eich plentyn yn 18, gall gymryd yr arian o’r cyfrif. Eich plentyn fydd yn berchen ar yr arian, felly bydd yn gallu penderfynu beth i’w wneud gyda’r arian.

Os ydych chi’n poeni am yr arian yn nwylo eich plentyn

Cyn i’ch plentyn droi’n 18, bydd darparwr y cyfrif wedi rhoi gwybodaeth iddo ynglŷn â sut gallai ddefnyddio’r arian.

Gallai eich plentyn wneud y canlynol:

  • penderfynu rhoi rhywfaint o’r arian, neu’r arian i gyd, mewn cyfrif cynilo neu fuddsoddi arall
  • rhoi arian tuag at wersi gyrru, offer cyfrifiadurol neu gyrsiau hyfforddi

Caiff pob plentyn addysg ariannol i’w helpu i reoli ei sefyllfa ariannol, gan gadw anghenion y dyfodol mewn golwg. Mae digon o gyngor a chefnogaeth ar gael i helpu plant i benderfynu sut i ddefnyddio’r arian.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU