Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cronfa Ymddiriedolaeth Plant: os yw’ch plentyn yn angheuol wael neu wedi marw

Gallwch gymryd arian o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eich plentyn os yw'n angheuol wael. Os yw’ch plentyn wedi marw, bydd yr arian yng nghyfrif eich plentyn fel arfer yn mynd i bwy bynnag sy'n etifeddu ystâd y plentyn. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cael yr arian.

Os yw’ch plentyn yn angheuol wael

Dim ond os yw’ch plentyn yn angheuol wael y gallwch gymryd arian o’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cyn iddo gyrraedd 18 oed. Mae hyn yn golygu bod ganddo glefyd neu salwch sy’n mynd i waethygu, a’i fod yn debygol o farw o fewn chwe mis.

Pwy all dynnu’r arian o’r cyfrif?

Dim ond y person cyswllt cofrestredig all gymryd yr arian o’r cyfrif. Y person cyswllt cofrestredig yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif.

Os nad oes person cyswllt cofrestredig, bydd angen i bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wneud cais i’r darparwr er mwyn cael rheoli’r cyfrif.

Sut mae tynnu’r arian o’r cyfrif

Cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant er mwyn rhoi gwybod iddynt am y canlynol:

  • bod eich plentyn yn angheuol wael
  • eich bod am dynnu arian o’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod eich plentyn yn angheuol wael.

Os yw eich plentyn eisoes yn cael Lwfans Byw i’r Anabl oherwydd ei salwch, rhowch wybod i Linell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant pan fyddwch yn cysylltu â nhw.

Os nad yw’ch plentyn yn cael Lwfans Byw i’r Anabl, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen ichi i’ch meddyg ei llenwi a’i dychwelyd i Swyddfa’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi a’r darparwr a allwch gymryd arian o’r cyfrif.

Os yw'ch plentyn wedi marw

Bydd yr arian yn y cyfrif yn cael ei dalu i’r unigolyn sy’n ‘etifeddu’ ystâd y plentyn (ei eiddo a'i feddiannau). Yn aml, un o rieni’r plentyn fydd yr unigolyn hwn, ond os oedd yn briod, efallai mai gwraig neu ŵr y plentyn fydd yr unigolyn hwn.

Os nad oeddech chi’n gallu agor y cyfrif cyn i’ch plentyn farw, bydd Cyllid a Thollau EM yn dal yn talu'r hyn roedd gan eich plentyn yr hawl i’w gael.

Os ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sydd wedi marw, gallwch ddal ati i hawlio am amser byr. Gallai hyn helpu hefyd gydag unrhyw gostau ychwanegol y byddwch yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Bydd hwn yn gyfnod anodd iawn i chi. Os yw eich plentyn wedi marw, gwnewch eich gorau glas i wneud y canlynol:

  • os yw’r cyfrif eisoes wedi'i agor – dywedwch wrth ddarparwr y cyfrif
  • os ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn sydd wedi marw – rhowch wybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant
  • os nad ydych chi wedi agor cyfrif eto – dywedwch wrth Linell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Fel arfer, bydd ar ddarparwr y cyfrif angen tystiolaeth, er enghraifft, mae'n bosib y bydd yn gofyn am y dystysgrif farwolaeth.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU