Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cronfa Ymddiriedolaeth Plant: newidiadau mewn amgylchiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Ceir nifer o newidiadau mewn amgylchiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt er mwyn gwneud yn siŵr bod eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfredol ac er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniadau ynghylch y cyfrif. Gallai'r newidiadau hyn effeithio ar daliadau Budd-dal Plant hefyd. Yma cewch wybod pa newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt, i bwy, a sut mae gwneud hynny.

Newid enw neu gyfeiriad

Mae angen i chi roi gwybod os ydych chi’n newid eich enw chi neu enw eich plentyn. Fel arall, bydd y gwaith papur ar gyfer eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn yr enw anghywir.

Mae angen i chi hefyd roi gwybod am newid mewn cyfeiriad er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw lythyrau neu ddatganiadau yn cael eu hanfon i’r cyfeiriad cywir.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Bydd angen i chi ddweud wrth un neu ddau o’r canlynol:

  • eich darparwr
  • y Swyddfa Budd-dal Plant – os ydych chi’n cael Budd-dal Plant

Os byddwch chi neu’ch plentyn yn mynd dramor

Os byddwch chi, neu eich plentyn, yn symud dramor, bydd y cyfrif yn aros ar agor. Mae’n dal yn bosib i unrhyw un roi arian yn y cyfrif, hyd yn oed o dramor. Holwch ddarparwr y cyfrif sut mae gwneud hyn.

Gallai’r canlynol effeithio ar eich Budd-dal Plant:

  • rydych chi’n mynd dramor am fwy nag wyth wythnos
  • mae eich plentyn yn mynd dramor am fwy na 12 wythnos

Gallwch ddysgu mwy am hyn, ac am unrhyw newidiadau eraill, drwy ddilyn y ddolen isod.

Os bydd y person cyswllt cofrestredig yn marw

Os bydd y person cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn marw, bydd angen i'r rhiant arall, neu rywun arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, fod yn berson cyswllt cofrestredig newydd.

Mae gennych gyfrifoldeb rhiant os ydych:

  • yn rhiant
  • yn llys-riant
  • yn rhiant sydd wedi mabwysiadu
  • yn warcheidwad

Os oedd y sawl sydd wedi marw yn cael Budd-dal Plant, bydd ei daliadau'n dod i ben.

Os mai chi yw prif ofalwr y plentyn erbyn hyn, mae'n bosib y bydd gennych hawl i Fudd-dal Plant.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Cysylltwch â darparwr eich cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os oes arnoch chi eisiau dod yn berson cyswllt cofrestredig newydd.

Mae’n rhaid i’r darparwr fod yn fodlon nad oes gan y cyfrif berson cyswllt cofrestredig. Pan mae’n fodlon â hyn, bydd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais.

Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw’r darparwr, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Os oedd y person sydd wedi marw yn cael Budd-dal Plant, neu eich bod chi bellach yn dymuno hawlio Budd-dal Plant yn ei le, cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Os bydd eich plentyn yn cael salwch angheuol

Os bydd eich plentyn yn cael salwch angheuol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i ofyn a allwch chi dynnu arian o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eich plentyn.

Dim ond y person cyswllt cofrestredig all gymryd yr arian o’r cyfrif. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod eich plentyn yn angheuol wael.

Os yw eich plentyn yn marw

Os yw eich plentyn yn marw, fel rheol, bydd yr arian sydd yn ei gyfrif yn mynd i bwy bynnag sy’n etifeddu ystad y plentyn (eiddo’r plentyn).

Mae’n bosib y bydd eich Budd-dal Plant yn parhau am gyfnod byr hefyd.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Cofiwch:

• roi gwybod i ddarparwr y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant fod eich plentyn wedi marw

• dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant os yw’ch plentyn wedi marw – os ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar ei ran

Os bydd yr awdurdod lleol yn dechrau gofalu am eich plentyn

Bydd yr awdurdod lleol (neu ymddiriedolaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon) yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd yn dechrau gofalu am eich plentyn.

Bydd yn dal yn bosib i chi reoli cyfrif y plentyn os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn
  • chi yw’r person cyswllt cofrestredig

Os yw Cyllid a Thollau EM wedi agor cyfrif ar gyfer eich plentyn, gallwch chi ddod yn berson cyswllt cofrestredig. Bydd hyn yn caniatáu i chi reoli neu newid y cyfrif.

Os bydd awdurdod lleol yn dechrau gofalu am eich plentyn, gallai hyn effeithio ar eich Budd-dal Plant.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cysylltu â darparwr y cyfrif os ydych chi am ddod yn berson cyswllt cofrestredig
  • rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os yw awdurdod lleol wedi dechrau gofalu am eich plentyn – y sawl sy’n cael y Budd-dal Plant ddylai wneud hyn

Mabwysiadu plentyn

Dim ond ar ôl i’r broses fabwysiadu ddod i ben yn derfynol y gallwch reoli neu newid cyfrif.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn rydych chi wedi'i fabwysiadu.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Pan fydd y broses fabwysiadu wedi dod i ben, bydd angen i chi:

  • gael manylion y cyfrif – naill ai gan y sawl sydd wedi'i gofrestru fel y person cyswllt ar hyn o bryd, neu drwy gysylltu â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • cysylltu â darparwr y cyfrif os ydych chi am wneud cais i ddod yn berson cyswllt cofrestredig

Gwahanu oddi wrth bartner

Bydd y sawl sydd wedi’i gofrestru fel y person cyswllt ar gyfer cyfrif y plentyn yn parhau i reoli'r cyfrif – hyd yn oed os ydych chi wedi gwahanu.

Gallwch chi gofrestru fel y person cyswllt os oes gennych chi gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, er enghraifft os mai chi yw rhiant neu warcheidwad cyfreithiol arall y plentyn.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Os ydych chi’n dymuno cael eich cofrestru fel y person cyswllt, bydd angen i chi a’ch cyn-bartner wneud y canlynol:

  • cysylltu â darparwr y cyfrif
  • cadarnhau â’r darparwr eich bod chi a’ch cyn-bartner yn cytuno i’r newid

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod am newid enw neu gyfeiriad.

Pan fydd eich plentyn yn 16

Pan fydd eich plentyn yn 16 mlwydd oed, bydd yn cymryd rheolaeth dros ei gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae hyn yn golygu mai ef fydd y person cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.

Gallai hyn effeithio ar eich Budd-dal Plant hefyd.

Pan fydd eich plentyn yn 18

Pan fydd eich plentyn yn 18, bydd modd iddo gael yr arian sydd yn y cyfrif. Eich plentyn sy’n berchen ar yr arian, felly caiff benderfynu beth i’w wneud ag ef.

Gall ddewis dal ati i gynilo mewn cyfrif arall neu ddefnyddio’r arian, fel y gwêl orau.

Manylion cysylltu

Budd-dal Plant

Gallwch roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant:

  • drwy ddefnyddio'r ffurflen Budd-dal Plant ar-lein i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant

Byddant yn diweddaru’r cofnodion Cronfa Ymddiriedolaeth Plant sydd ganddynt ar eich cyfer hefyd.

Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Darparwyd gan the Child Trust Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU