Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut gall newidiadau effeithio ar eich taliadau Budd-dal Plant

Os ydych chi'n cael Budd-dal Plant, gallai'ch taliadau newid, dod i ben neu gael eu gohirio os bydd newid yn eich amgylchiadau chi neu'ch plentyn. Mae'n werth gwybod sut gall newidiadau yn eich bywyd effeithio ar eich taliadau Budd-dal Plant a pha newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant amdanynt.

Newidiadau a allai atal taliadau

Newidiadau sy'n effeithio arnoch chi

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi'r gorau i roi Budd-dal Plant i chi:

  • os byddwch yn gadael cartref eich teulu ac yn rhoi'r gorau i dalu arian ar gyfer eich plentyn
  • os byddwch yn gadael y DU yn barhaol
  • os byddwch yn gadael y DU dros dro am fwy nag wyth wythnos - neu fwy na 12 wythnos oherwydd eich bod chi neu aelod o'ch teulu yn sâl, neu wedi marw
  • os byddwch yn rhoi'r gorau i gyfrannu - o leiaf yr un swm â'r Budd-dal Plant cyfredol - ar gyfer plentyn nad yw'n byw gyda chi
  • os byddwch yn dechrau cael eich talu gan awdurdod lleol - neu yng Ngogledd Iwerddon gan Fwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - ar gyfer plentyn yr ydych yn gofalu amdano
  • os bydd y Swyddfa Gartref yn newid eich statws mewnfudo
  • os byddwch yn dechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol i wlad y tu allan i'r DU – neu mae eich partner yn dechrau gwneud hyn

Newidiadau sy'n effeithio'ch plentyn - pan fydd eich plentyn yn 16 neu'n hŷn

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi'r gorau i roi Budd-dal Plant i chi:

  • os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n eu gwneud yn gymwys i gael Budd-dal Plant
  • os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n eu gwneud yn gymwys i gael Budd-dal Plant ac yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, a'u bod yn cael cyflog neu'n disgwyl cael cyflog
  • os yw’ch plentyn yn dechrau mewn addysg sy'n cael ei ddarparu drwy waith neu hyfforddiant a ddarperir gan gontract cyflogaeth
  • os yw’ch plentyn yn dechrau ar gwrs hyfforddiant nad yw wedi'i ‘gymeradwyo’
  • os yw’ch plentyn yn dechrau ar gwrs addysg uwch sy'n arwain at gymhwyster fel gradd
  • os yw’ch plentyn yn cyrraedd 20 mlwydd oed - mae Budd-dal Plant yn dod i ben yn gyfan gwbl pan fydd eich plentyn yn 20 oed

Nid ydych yn gyfrifol am eich plentyn mwyach

Mae'n bosib hefyd y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi'r gorau i roi Budd-dal Plant i chi:

  • os nad yw eich plentyn wedi bod yn byw gyda chi am dros wyth wythnos
  • os yw eich plentyn yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy na 52 wythnos
  • os yw eich plentyn yn gadael y DU dros dro am fwy na 12 wythnos
  • os yw’ch plentyn yn dechrau cael eu budd-daliadau eu hunain – bydd hyn yn dod â’ch taliadau i ben

Newidiadau sy'n golygu y cewch fwy o Fudd-dal Plant

Gallech gael rhagor o Fudd-dal Plant, er enghraifft os cewch fabi newydd neu os bydd plentyn arall yn dod i fyw gyda chi.

Newidiadau a allai olygu oedi cyn i chi gael eich taliadau

Mae taliadau Budd-dal Plant yn mynd yn syth i'ch cyfrif banc, eich cyfrif cymdeithas adeiladu neu’ch cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post®.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os byddwch yn newid eich cyfrif, neu bydd eich taliadau’n mynd i’r lle anghywir. Bydd oedi hyd nes y byddwch wedi dweud wrthynt am eich cyfrif newydd.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os byddwch yn symud tŷ hefyd. Os na allan nhw gysylltu â chi, efallai y daw’ch taliadau i ben hyd nes eu bod yn gwybod lle’r ydych yn byw.

Newidiadau a allai effeithio ar ba mor aml y cewch eich talu

Fel arfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'r Budd-dal Plant bob pedair wythnos. Ond gallwch ddewis iddo gael ei dalu'n wythnosol:

  • os ydych yn magu'ch plant ar eich pen eich hun
  • os ydych chi neu'ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • os ydych chi'n ei gweld hi'n anodd dygymod neu gadw dau ben llinyn ynghyd

Newid o daliadau wythnosol i daliadau bob pedair wythnos

Gallwch newid i gael Budd-dal Plant bob pedair wythnos ar unrhyw adeg. Os bydd eich rheswm dros gael taliadau wythnosol yn newid, rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant. Er enghraifft, efallai nad ydych chi neu'ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm mwyach.

Os na fyddwch wedi rhoi gwybod am newid - beth fydd yn digwydd?

Rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y bydd newid yn eich bywyd chi neu’ch plentyn.

Os ydych wedi anghofio dweud wrthynt, mae'n well gwneud yn syth. Fel hyn, fe gewch y swm cywir o Fudd-dal Plant ac ni fydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian nad oes gennych hawl iddo.

Beth fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ei wneud nesaf?

Y Swyddfa Budd-dal Plant sy’n penderfynu a yw newidiadau yn eich amgylchiadau’n cael effaith ar eich Budd-dal Plant.

Os bydd y newid yn golygu bod eich Budd-dal Plant yn dod i ben, byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych.

Bydd y llythyr yn dweud wrthych pryd y daw’ch taliadau i ben. Mae hefyd yn gadael i chi wybod beth allwch ei wneud os nad ydych chi’n fodlon â’u penderfyniad.

Os ydych wedi cael gordaliad

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi gwybod i chi os bydd y newid yn eich amgylchiadau yn golygu eu bod wedi talu gormod o Fudd-dal Plant i chi. Er enghraifft, efallai i'ch plentyn adael cartref a'u bod nhw wedi parhau i roi taliadau i chi gan na wyddent hyn.

Mae'n bosib y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ôl-ddyddio'r gordaliad hyd at yr adeg y digwyddodd y newid.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod drwy:

  • anfon ffurflen ar-lein – dilynwch y ddolen isod
  • ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant
  • ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU