Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Plant - pa newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt

Os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau, mae'n bwysig i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib. Bydd hyn yn sicrhau y cewch yr arian yr ydych yn gymwys i'w gael heb unrhyw oedi, a hefyd nad ydych yn cael gormod o arian ac yna'n gorfod talu rhywfaint ohono'n ôl.

Newidiadau yn ymwneud â chi

Gall rhai newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Plant. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib os bydd unrhyw un o'r canlynol yn newid.

Math o newid

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant:

Newidiadau teuluol

  • os byddwch chi'n priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil, neu'n dechrau byw gyda phartner, a bod y ddau ohoonoch yn cael Budd-dal Plant
  • os byddwch yn rhoi'r gorau i fyw gyda phartner a bod y ddau ohonoch yn cael Budd-dal Plant
  • os byddwch chi'n cael babi
  • os bydd plentyn arall yn dod i fyw gyda chi
  • os byddwch yn dechrau cael eich talu gan awdurdod lleol, neu yng Ngogledd Iwerddon gan Fwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar gyfer plentyn yr ydych yn gofalu amdano

Newidiadau i gyfrif banc, enw neu gyfeiriad

  • os ydych am i'r Budd-dal Plant gael ei dalu i gyfrif arall
  • os ydych wedi newid eich enw neu'ch cyfeiriad

Cyfraniadau ar gyfer plentyn yn newid neu'n dod i ben

  • os byddwch yn rhoi'r gorau i dalu arian neu wneud cyfraniadau ar gyfer plentyn nad yw'n byw gyda chi neu sydd yn yr ysbyty am fwy nag 84 diwrnod
  • os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu'r carchar am fwy nag wyth wythnos a’ch bod yn rhoi'r gorau i wneud cyfraniadau ar gyfer eich plentyn

Absenoldeb o'r DU

  • os byddwch chi neu'ch partner yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy na 52 wythnos
  • os byddwch yn gadael y DU dros dro am fwy nag wyth wythnos, neu fwy na deuddeg wythnos oherwydd eich bod chi neu aelod o'ch teulu yn sâl, neu wedi marw
  • os byddwch yn colli'r hawl i breswylio yn y DU
  • mae eich statws mewnfudo yn cael ei newid gan y Swyddfa Gartref

Newidiadau eraill

  • os byddwch chi neu'ch partner yn dechrau talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol, neu'n cael budd-dal nawdd cymdeithasol, gan wlad dramor
  • os byddwch yn gadael Prydain Fawr i fynd i fyw i Ogledd Iwerddon yn barhaol, neu'n gadael Gogledd Iwerddon i fynd i fyw i Brydain Fawr yn barhaol

Newidiadau yn ymwneud â'ch plentyn

Gall rhai newidiadau yn amgylchiadau'ch plentyn effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Plant. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib os bydd unrhyw un o'r canlynol yn newid.

Math o newid

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant os yw'ch plentyn:

Newidiadau o ran addysg neu hyfforddiant eich plentyn

  • yn gadael addysg berthnasol ac yn dechrau gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos, a'u bod yn cael cyflog neu'n disgwyl cael cyflog
  • yn gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol yn gynharach na'r dyddiad a roesoch i'r Swyddfa Budd-dal Plant
  • yn aros mewn addysg berthnasol ar ôl y dyddiad y rhoesoch wybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant y byddai'n gadael
  • yn dechrau addysg berthnasol sydd wedi'i darparu gan gyflogwr neu fel rhan o unrhyw swydd neu rôl arall sydd ganddynt
  • yn 15 oed neu'n hŷn ac yn methu mynd i'r ysgol, i'r coleg neu i hyfforddiant perthnasol
  • yn cwtogi'r amser y mae'n ei dreulio yn astudio dan oruchwyliaeth mewn ysgol neu goleg i 12 awr neu lai
  • yn dechrau cwrs addysg uwch sy'n arwain at gymhwyster fel gradd
  • yn dechrau cael ei addysgu gartref a'i fod yn 16 oed neu'n hŷn
  • yn dechrau ar hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan ei gyflogwr
  • yn dechrau ar gwrs hyfforddiant nad yw wedi'i gymeradwyo

Mae eich plentyn oddi cartref

  • wedi byw oddi cartref am fwy na 56 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 16 wythnos
  • wedi bod dan ofal awdurdod lleol (Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon), mudiad gwirfoddol, neu wedi'i gadw mewn llety diogel neu lety heb ei ddiogelu am o leiaf un diwrnod bob wythnos yn ystod yr wyth wythnos diwethaf
  • yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy na 52 wythnos
  • yn gadael y DU dros dro am fwy na 12 wythnos
  • yn gadael Prydain Fawr i fynd i fyw i Ogledd Iwerddon yn barhaol, neu'n gadael Gogledd Iwerddon i fynd i fyw i Brydain Fawr yn barhaol
  • mewn ysbyty neu ofal preswyl am 12 wythnos neu fwy oherwydd ei fod yn sâl neu'n anabl ac na fyddwch yn gwario arian arno'n rheolaidd

Newidiadau eraill

  • yn newid ei enw
  • yn dechrau cael budd-daliadau ei hun
  • yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu'n dechrau byw gyda phartner
  • yn cael ei gadw’n gaeth dan y gyfraith am fwy nag wyth wythnos
  • yn mynd ar goll

Os bydd eich plentyn yn marw

Os bydd eich plentyn yn marw, bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant. Bydd hyn yn gyfnod anodd i chi, ond fel arfer gallant barhau i dalu Budd-dal Plant i chi am hyd at wyth wythnos ar ôl y dyddiad y bu farw eich plentyn. Gall hyn helpu gyda'r costau ychwanegol y byddwch yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn.

Sut mae rhoi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau:

  • ar-lein – dilynwch y ddolen isod
  • drwy ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant
  • drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU