Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os mai chi fydd prif ofalwr plentyn neu blant rhywun sydd wedi marw, mae’n bosib y gallech hawlio Budd-dal Plant. Mae’n bosib y gallech hefyd gael taliad ychwanegol, a elwir yn Lwfans Gwarcheidwad, os nad chi yw rhiant y plentyn.
Rhowch wybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib am farwolaeth rhiant neu rieni’r plentyn.
Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa:
Gallwch wneud hyn:
Bydd hefyd angen i chi wneud hawl Budd-dal Plant ar ran eich hun am y plentyn. Mae’n werth gwybod ni all y Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio eich taliadau Budd-dal Plant fwy na thri mis ar ôl y dyddiad iddo gael eich cais.
Os yw'ch partner wedi marw ac mai nhw oedd yn cael y taliadau Budd-dal Plant, ni fydd y taliadau'n cael eu trosglwyddo i chi yn awtomatig. Byddant yn cael eu hatal ar y dydd Llun ar ôl marwolaeth eich partner.
Os mai chi sydd bellach yn gofalu am y plentyn neu'r plant, dylech lenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant.
Bydd angen i chi hawlio hyd yn oed os oeddech yn 'dalai amgen' – rhywun y gellir talu’r taliadau Budd-dal Plant iddynt yn lle'r sawl a oedd yn ei hawlio yn y lle cyntaf.
Os mai chi sy'n cael y Budd-dal Plant a bod eich partner wedi marw, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn parhau i wneud taliadau i'ch cyfrif banc chi. Ond mae'n bwysig rhoi gwybod i’r Swyddfa os oedd y taliadau yn mynd i gyfrif banc a oedd yn enw'ch partner yn unig.
Os oeddent, bydd angen i chi roi manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu wahanol i'r Swyddfa Budd-dal Plant fel y gall ddechrau talu i'r cyfrif hwnnw. Bydd hyn yn sicrhau y gallwch barhau i dynnu arian eich budd-dal o'ch cyfrif.
Os ydych yn cael Budd-dal Plant, efallai y gallech gael rhai budd-daliadau eraill hefyd.
Lwfans Gwarcheidwad
Telir Lwfans Gwarcheidwad i bobl sy'n magu plentyn oherwydd bod un o rieni'r plentyn, neu'r ddau ohonynt, wedi marw.
Nid oes yn rhaid i chi fod yn warcheidwad cyfreithlon i'r plentyn er mwyn cael y lwfans, ond mae'n rhaid eich bod yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Lwfans Rhiant Gweddw
Os ydych chi’n rhiant a bod eich gŵr, eich gwraig, neu’ch partner sifil wedi marw a bod gennych blentyn sy'n ddibynnol arnoch, gallech gael Lwfans Rhiant Gweddw.
Mae’n rhaid eich bod yn cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn er mwyn cael y lwfans.
Os ydych chi'n bartner i rywun sydd wedi marw a bod ei b/phlentyn wedi marw hefyd, gallwch fel arfer gael taliadau Budd-dal Plant am wyth wythnos ar ôl i'r plentyn farw. Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn byw gyda'ch cymar ar yr adeg pan fuont farw.
Bydd angen i chi wneud cais am Fudd-dal Plant ar gyfer yr wythnosau hyn. Byddwch yn gwneud hyn ar ffurflen CH330A sydd ar gael o'r Swyddfa Budd-dal Plant. Gallwch wneud cais am un ar-lein, neu gallwch ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.
Os oes gennych blant eraill a'ch bod yn dymuno hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais Budd-dal Plant newydd ar eu cyfer.
Bydd yn rhaid i'r sawl a fydd yn hawlio’r ôl-daliadau fod yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn a gallai fod yn un o'r canlynol:
Os mai chi fydd yn hawlio’r ôl-daliadau sydd heb eu talu, bydd angen i chi wneud hynny cyn pen 12 mis ar ôl y dyddiad pan fu'r unigolyn farw. Byddwch yn hawlio ar ffurflen CH330 sydd ar gael gan y Swyddfa Budd-dal Plant. Gallwch hefyd anfon cais ar-lein i gael y ffurflen wedi'i hanfon atoch chi.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs