Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel rheol, mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn talu eich Budd-dal Plant yn syth i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu. Os byddwch am newid y cyfrif y telir eich Budd-dal Plant iddo, bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib neu efallai y ceir oedi gyda’ch taliadau.
Cyn i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am y newid, gwnewch yn siŵr bod y cyfrif yn enw un o'r canlynol:
Mae rhai cyfrifon yn anaddas ar gyfer taliadau Budd-dal Plant, er enghraifft Cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu ISA (Cyfrifon Cynilo Unigol).
Un o’r ffyrdd cyflymaf a mwyaf diogel o ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am newid ym manylion eich cyfrif yw llenwi ffurflen ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen isod.
Cyn i chi lenwi'r ffurflen, bydd angen manylion eich cyfrif newydd a’ch rhif Yswiriant Gwladol. Byddai’n ddefnyddiol hefyd i chi gael eich rhif Budd-dal Plant.
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn anfon e-bost i gadarnhau eu bod wedi cael eich ffurflen ar-lein.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant i roi gwybod iddynt ynghylch newid i fanylion eich cyfrif drwy:
Pan fyddwch yn cysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant, bydd angen roi’ch rhif Budd-dal Plant iddynt.
Gall y Swyddfa Budd-dal Plant ateb mewn fformat arbennig, fel Braille, tâp sain neu fras, os gofynnwch iddynt.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs