Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal plant os yw eich plentyn wedi marw

Os yw eich plentyn wedi marw, mae'n werth gwybod y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn parhau am ychydig eto. Gallent helpu gyda'r costau ychwanegol sy'n eich wynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y gallwch os yw'ch plentyn neu blentyn yr oeddech chi'n gyfrifol amdano wedi marw. Dywedwch wrthynt beth oedd union ddyddiad y farwolaeth hefyd. Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cofnodi’r manylion hyn a hefyd ei hanfon ymlaen at adrannau eraill o Gyllid a Thollau EM sydd angen gwybod. O wneud hynny, dim ond unwaith y bydd rhaid i chi gysylltu â nhw.

Gallwch gysylltu:

  • ar-lein
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant
  • drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant

Yr ydych eisoes yn cael Budd-dal Plant

Fel arfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn parhau i dalu'ch Budd-dal Plant am wyth wythnos o'r dyddiad y bu'ch plentyn farw.

Os na ddywedwch chi wrth y Swyddfa Budd-dal Plant cyn pen yr wyth wythnos bod eich plentyn wedi marw, efallai y byddan nhw'n talu gormod i chi.

Os byddai'ch plentyn wedi troi'n 20 oed yn ystod y cyfnod o wyth wythnos

Os byddai'ch plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn 20 oed cyn diwedd yr wyth wythnos, mae ffordd wahanol o gyfrifo am faint y cewch chi Fudd-dal Plant.

Dim ond hyd at y dydd Llun ar ôl yr wythnos pan fyddai'ch plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn 20 y gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant . Os byddai pen-blwydd eich plentyn ar ddydd Llun, byddan nhw'n talu hyd at y dyddiad hwnnw.

Os bydd eich plentyn yn marw cyn diwedd yr wythnos pan gafodd ei eni

Os bydd eich plentyn yn marw cyn diwedd yr wythnos pan gafodd ei eni, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu Budd-dal Plant am wyth wythnos. Byddan nhw'n dechrau'r wyth wythnos ar y dydd Llun ar ôl i'ch plentyn farw. Daw'r taliadau i ben ar ôl yr wyth wythnos.

Os bydd eich plentyn yn marw cyn i chi wneud cais am Fudd-dal Plant

Os bu'ch plentyn farw cyn i chi allu hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer, gallwch wneud cais o hyd.

Mae’n bosib y gallech gael werth wyth wythnos o Fudd-dal Plant o’r dyddiad pan fu’ch plentyn farw. Mae’r nifer o wythnosau y byddwch yn derbyn yn dibynnu ar ba bryd y mae’r Swyddfa Budd-dal Plant yn derbyn eich hawliad.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Gwnewch hawliad cyn gynted ag sy’n bosib. Mae’r Swyddfa Budd-dal Plant ond yn gallu ystyried ôl-ddyddio’ch cais am i fyny at dri mis o’r amser y maent yn ei dderbyn. Yr hwyrach yr ydych yn hawlio, y llai tebygol byddwch chi o gael yr uchafswm o daliadau.

Os oes angen cymorth arnoch i wybod os ydych o fewn yr amser i hawlio, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Gwybodaeth sydd angen i chi ei hanfon

Pan fyddwch chi'n anfon eich cais am Fudd-dal Plant atodwch ddarn o bapur ar wahân, yn dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant dyddiad marwolaeth eich plentyn. Hefyd rhowch eich enw a chyfeiriad ar y darn o bapur - a’ch rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych un.

Bydd angen i chi anfon tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu'ch plentyn gyda’ch ffurflen hawlio, ond ni fydd angen anfon y dystysgrif marwolaeth hefyd.

Os caiff eich plentyn ei eni yn farw-anedig

Os cafodd eich plentyn ei eni yn farw-anedig, ni fydd modd i chi hawlio Budd-dal Plant. Mae hyn oherwydd mai dim ond pan fydd y plentyn yn fyw pan y’i ganwyd y gellir talu Budd-dal Plant.

Os ganwyd eich plentyn yn farw-anedig, bydd y meddyg neu'r fydwraig wedi rhoi tystysgrif feddygol y farw-enedigaeth i chi.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU