Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Rhiant Gweddw

Os ydych chi'n rhiant sydd wedi colli gŵr, gwraig neu bartner sifil a bod gennych o leiaf un plentyn rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer, mae'n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Rhiant Gweddw.

Pwy gaiff hawlio?

Mae'n bosib y cewch Lwfans Rhiant Gweddw os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn magu plentyn neu berson ifanc dan 19 oed (neu dan 20 oed mewn rhai achosion) ac yn derbyn Budd-dal Plant ar ei gyfer
  • rydych chi dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • bu farw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil
  • mae eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae’n bosib y gallwch chi hefyd hawlio Lwfans Rhiant Gweddw:

  • os ydych chi'n disgwyl babi eich diweddar ŵr neu babi eich diweddar bartner sifil (a chithau'n feichiog oherwydd triniaeth ffrwythlondeb)
  • bod eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil wedi marw o ganlyniad i'w gwaith - hyd yn oed os nad oeddent yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Pwy na chaiff hawlio?

Chewch hi ddim hawlio:

  • os oeddech chi a'ch gŵr neu'ch gwraig wedi ysgaru pan fu farw neu os oedd y bartneriaeth sifil wedi chwalu pan fu farw'r partner sifil
  • os byddwch yn ailbriodi neu'n byw gyda phartner fel gŵr a gwraig neu fel eich bod wedi ffurfio partneriaeth sifil
  • os ydych chi yn y carchar

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£105.95 yr wythnos yw lwfans sylfaenol cyfredol Lwfans Rhiant Gweddw. Mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael pensiwn ychwanegol.

Sut mae Lwfans Rhiant Gweddw yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Os ydych chi eisoes yn cael un o'r budd-daliadau canlynol, mae'n bosibl y bydd eich taliadau'n newid unwaith i chi ddechrau cael Lwfans Rhiant Gweddw:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Bydd y swyddfa sy'n delio â'ch cais yn esbonio sut mae hyn yn gweithio.

Lwfans Profedigaeth

Os ydych yn o leiaf 45 oed ond dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod eich Lwfans Rhiant Gweddw yn dod i ben o fewn 52 wythnos o'ch profedigaeth, mae'n bosib y cewch Lwfans Profedigaeth.

Sut i wneud cais?

Cewch archebu pecyn cais Budd-daliadau Profedigaeth (ffurflen BB1W) dros y ffôn gan eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf. Mae nodiadau gyda'r pecyn hefyd sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.

Lawrlwytho ffurflen gais i'w hargraffu a'i llenwi

Gallwch hefyd lawrlwytho’r pecyn cais Budd-daliadau Profedigaeth (ffurflen BB1W) oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ar ôl llenwi'r ffurflen, anfonwch hi i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf cyn gynted â phosib.

Dim ond am dri mis y gellir ôl-ddyddio'r ceisiadau ac fe'u dyddir pan fydd y swyddfa'n eu derbyn, felly os byddwch yn oedi, mae'n bosib y byddwch yn colli eich budd-dal.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft:

  • os byddwch yn ailbriodi
  • os byddwch yn dechrau byw gyda phartner fel gŵr a gwraig neu fel eich bod wedi ffurfio partneriaeth sifil

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Hefyd, bydd rhaid i chi ateb cwestiynau am eich amgylchiadau a dangos dogfennau swyddogol i brofi'r wybodaeth honno.

Allweddumynediad llywodraeth y DU