Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi marw, mae'n bosibl y gallwch chi gael Taliad Profedigaeth, cyfandaliad untro gwerth £2,000 sy'n ddi-dreth.
Mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Taliad Profedigaeth os oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi talu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu os achoswyd eu marwolaeth gan eu swydd a naill ai:
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Thaliad Profedigaeth
Pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi roi rhif Yswiriant Gwladol eich diweddar gŵr, gwraig neu bartner sifil a manylion eu cyflogaeth ddiweddar.
Yna, bydd y swyddfa sy'n delio â'ch cais yn gallu edrych ar eu cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych chi'n gymwys i gael Taliad Profedigaeth.
Chewch chi ddim hawlio Taliad Profedigaeth:
Cyfandaliad untro, di-dreth gwerth £2,000 yw hwn.
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Nid yw'r Taliad Profedigaeth untro hwn yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau eraill. Ond efallai bydd eich cynilion a Thaliad Profedigaeth yn gostwng y swm o fudd-daliadau prawf moddion yr ydych yn derbyn, fel:
Cewch archebu pecyn Budd-daliadau Profedigaeth (ffurflen BB1W) dros y ffôn gan eich Canolfan Byd Gwaith agosaf. Mae nodiadau gyda'r pecyn sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.
Lawrlwytho ffurflen gais i'w hargraffu a'i llenwi
Gallwch lawrlwytho pecyn Budd-daliadau Profedigaeth (ffurflen BB1W) oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Unwaith i chi gwblhau’r ffurflen, anfonwch ef i’ch Canolfan Byd Gwaith mor gynted â phosib.
Gall ceisiadau ond cael eu hôl-ddyddio tri mis am Lwfans Profedigaeth a Lwfans Rhiant Gweddw ac maent yn cael eu dyddio pan fo’r swyddfa yn eu derbyn, felly os ydych yn oedi efallai byddwch yn colli budd-dal. Mae’r terfyn amser am geisiadau Taliad Profedigaeth wedi’i ymestyn i 12 mis.
Bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Hefyd, bydd rhaid i chi ateb cwestiynau am eich amgylchiadau a dangos dogfennau swyddogol i brofi'r wybodaeth honno.