Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw

Pensiwn di-dreth y gallech fod â'r hawl iddo os yw'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner wedi marw yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EM neu yn ystod rhyfel yw'r Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n bosibl bod gennych hawl i gael Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw os ydy un o'r canlynol yn berthnasol.

Os yw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil:

  • wedi marw yn sgîl gwasanaethu yn Lluoedd Arfog EM cyn 6 Ebrill 2005
  • wedi gwasanaethu fel gwirfoddolwr amddiffyn sifil a marw o ganlyniad i ryfel 1939 i 1945
  • wedi gwasanaethu fel morwr masnachol, aelod o wasanaethau ategol y llynges, neu warchodwr y glannau a marw o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod rhyfel neu yn sgîl bod yn garcharor rhyfel
  • wedi marw o ganlyniad i wasanaethu fel aelod o'r Lluoedd Pwylaidd dan reolaeth Prydain yn ystod rhyfel 1939 i 1945, neu yn y Lluoedd Adsefydlu Pwylaidd
  • wedi derbyn Lwfans Gweini Cyson Pensiwn Rhyfel adeg ei f/marwolaeth, neu y byddai wedi ei dderbyn oni bai ei f/bod yn yr ysbyty
  • iddo/iddi fod yn derbyn Pensiwn Anabledd Rhyfel ar gyfradd o 80 y cant neu'n uwch ac yn derbyn yr Atodiad i'r Anghyflogadwy

I'r sawl a fu'n gwasanaethu ar ôl 6 Ebrill 2005, bydd Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog yn cynnig cymorth ariannol.

Partneriaid dibriod

Mae'n bosibl bod gennych hawl i gael pensiwn os oeddech yn byw gyda'ch partner neu'ch partner sifil fel gŵr neu wraig.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Telir Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw ar raddfa uwch neu is.

Fe gewch y gyfradd uwch dan yr amodau hyn:

  • os ydych yn weddw, yn ŵr gweddw neu'n bartner sifil i swyddog ar radd uwch nag Uwchgapten neu radd gyfatebol
  • os ydych yn 40 oed neu'n hŷn
  • os ydych dan 40 oed ac yn derbyn lwfans i blentyn neu'n methu cynnal eich hun ariannol

Fel arall, fe gewch y pensiwn ar y gyfradd is nes i chi gyrraedd 40 oed pan gewch chi'r pensiwn ar gyfradd uwch.

Lwfansau ychwanegol

Mae'n bosibl y cewch chi lwfansau ychwanegol:

  • os oes gennych blant
  • os oes gennych gostau llety (dim ond os ydych chi'n derbyn lwfans ar gyfer plentyn gyda Phensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw y bydd hyn yn berthnasol)
  • os ydych chi dros 65, 70 neu 80 oed
  • os cafodd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil eu rhyddhau o Luoedd Arfog EM cyn 31 Mawrth 1973

Lwfans Dros Dro i Wragedd neu Wŷr Gweddw

Efallai y cewch chi'r lwfans hwn am 26 wythnos ar ôl i'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil farw os oedden nhw'n derbyn Lwfans Gweini Cyson Pensiwn Rhyfel Atodiad i'r Anghyflogadwy neu fod gan eich partner/partner sifil yr hawl i gael yr Atodiad i'r Anghyflogadwy ond bod hwnnw heb ei dalu am eu bod wedi dewis parhau i dderbyn y Lwfans Galwedigaeth Is.

Fel arfer, mae'r Lwfans Dros Dro i Wragedd neu Wŷr Gweddw'n fwy o arian na'r Pensiwn Rhyfel i Wragedd Gweddw neu Wŷr Gweddw. Ar ôl 26 wythnos, efallai y cewch chi Bensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.

Costau Angladd

Mae'n bosibl y bydd Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn gallu talu mwyafswm o £1,400 tuag at angladd syml i wraig neu i ŵr gweddw, i'r berthynas agosaf, neu i bwy bynnag sy'n talu am yr angladd:

  • os digwyddodd y farwolaeth o ganlyniad i wasanaethu cyn 6 Ebrill 2005
  • os oedd Lwfans Gweini Cyson y Pensiwn Rhyfel yn cael ei dalu neu y byddai wedi cael ei dalu oni bai bod y pensiynwr rhyfel yn yr ysbyty pan fu farw
  • os oedd yr Atodiad i'r Anghyflogadwy'n cael ei dalu adeg y farwolaeth a bod y Pensiwn Anabledd Rhyfel wedi'i asesu ar gyfradd o 80 y cant neu fwy

neu

  • os bu farw'r person yn yr ysbyty wrth gael triniaeth ar gyfer anabledd yr oeddent yn derbyn pensiwn anabledd rhyfel ar ei gyfer

Rhaid i chi hawlio o fewn tri mis i'r angladd.

Cyfraddau cyfredol

Mae'r cyfraddau a'r lwfansau i'w gweld ar daflen Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog: 'Cyfraddau Pensiynau a Lwfansau Rhyfel 2012-2013'.

Sut mae'n cael ei dalu

Telir y Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Allwch chi ddim cael Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw yn ogystal â Budd-dal Profedigaeth. Ond fel arfer, telir y Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw ar gyfradd uwch ac mae'n ddi-dreth.

Dim ond ar sail eich cyfraniadau chi'ch hun y cewch chi Bensiwn Ymddeol. Mae'n bosibl y caiff Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw effaith ar unrhyw Fudd-dal Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi.

Efallai hefyd bod gennych chi'r hawl i ambell lwfans ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau gewch chi. Gofynnwch i Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog am fwy o fanylion.

Sut i wneud cais

Dros y ffôn

Gallwch ofyn am ffurflen gais drwy gysylltu â llinell gymorth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, sydd ar gael am ddim.

Ffoniwch 0800 169 2277, ffôn testun 0800 169 3458 (rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener).

Gallwch gael ffurflen hefyd yn eich Swyddfa Gwasanaeth Lles Pensiynwyr Rhyfel agosaf. Gallwch ddod o hyd iddynt yn eich llyfr ffôn lleol dan y testun 'Veterans Agency'.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os ydych chi'n Wraig Weddw, yn Ŵr Gweddw Rhyfel neu'n bartner sifil i rywun a adawodd y gwasanaeth cyn 31 Mawrth 1973, cewch gadw'ch pensiwn os digwydd i chi ailbriodi neu ddechrau byw gyda phartner ar ôl 6 Ebrill 2005.

Fel arall, rhaid i ddweud wrth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog ar unwaith. Y rheswm dros hyn yw y bydd eich Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw yn dod i ben. Wedi dweud hynny, os ydych chi'n derbyn lwfansau plant, mae'n bosibl y byddwch chi'n dal i'w derbyn.

Mae'n bosibl y caiff eich pensiwn ei adfer (sef bod y pensiwn yn cael ei dalu i chi unwaith eto) os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • os digwydd i'ch cymar newydd farw
  • os bydd eich priodas yn dod i ben drwy ysgariad neu wahanu cyfreithiol
  • os bydd eich partneriaeth sifil yn dod i ben oherwydd marwolaeth
  • os bydd eich partneriaeth sifil yn cael ei diddymu
  • eich bod yn rhoi'r gorau i fyw gyda'r person fel eu cymar neu bartner sifil

Cofiwch sôn wrth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau er mwyn i chi gael y pensiwn iawn.

Sut i apelio

Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad am eich hawliad fe gewch apelio i Dribiwnlys Apêl Pensiynau o fewn cyfnod penodol. Ond cyn i chi apelio, mae'n syniad da:

  • gofyn i Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog am ragor o wybodaeth ynghylch sut y cafodd y penderfyniad ei wneud
  • gofyn iddyn nhw ailystyried y penderfyniad os oes rhai ffeithiau nad oedd Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog yn gwybod amdanynt wrth wneud eu penderfyniad

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus â'r canlyniad, dywedwch wrth Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog eich bod yn dymuno apelio. Fe gewch wybod ganddyn nhw beth mae'n rhaid i chi ei wneud, a faint o amser sydd gennych i wneud hynny.

Allweddumynediad llywodraeth y DU