Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trwyddedau teledu am ddim

Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn mae gennych chi hawl i drwydded deledu am ddim. Gallwch hefyd gael gostyngiad ar bris trwydded deledu os ydych chi wedi'ch cofrestru'n ddall. Neu os ydych chi’n byw mewn gofal preswyl neu nyrsio neu dai gwarchod (yn ddibynnol ar rai amodau penodol).

Pwy sy'n gymwys?

Gall pawb sy'n 75 oed neu'n hŷn gael trwydded deledu am ddim i'w prif gartref. Mae pobl eraill o'r un aelwyd sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw hefyd yn dod o dan y drwydded.

Os ydych chi'n 74 oed, cewch wneud cais am drwydded dros dro a fydd yn ddilys tan ddiwedd y mis nes i chi gyrraedd 75 oed.

Gostyngiadau i bobl mewn gofal preswyl

Os ydych chi'n byw mewn gofal preswyl, mae'n bosibl bod gennych hawl i gael Trwydded Llety Gofal Preswyl (ARC) am bris Gostyngol, sef £5 y flwyddyn.

Nid oes gan bob cartref preswyl drwydded ARC a rhaid i chi fod wedi ymddeol, neu fod yn 60 oed neu'n hŷn i gael Trwydded Gostyngiad ARC. Gall gweinyddwr eich llety wneud cais am drwydded ar eich rhan.

Os oes gennych drwydded lawn a'ch bod yn symud i lety sy'n gymwys i gael trwydded ARC, cewch ymuno â'r cynllun ARC a hawlio ad-daliad am y misoedd sy'n weddill. Dylai gweinyddwr eich llety ysgrifennu at yr adran Trwyddedau Teledu i wneud cais ar eich rhan.

Prisiau rhatach i bobl ddall

Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi wedi'u cofrestru'n ddall, gallwch gael gostyngiad o 50 y cant ar gost trwydded deledu.

Os nad y sawl sydd wedi'i gofrestru'n ddall yw deiliad cyfredol y drwydded ar gyfer eich cyfeiriad chi, bydd rhaid i chi drosglwyddo'r drwydded i'w henw nhw.

I wneud hyn, ffoniwch yr adran Trwyddedau Teledu 0300 790 6131, minicom 0300 790 6050.

I wneud cais am y gostyngiad i bobl ddall, rhaid i chi anfon eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, rhif eich Trwydded Deledu a'r canlynol at yr adran Trwyddedau Teledu.

  • llungopi o'r dystysgrif cofrestru'n ddall gan eich awdurdod lleol neu'ch ophthalmolegydd
  • eich llythyr atgoffa i adnewyddu trwydded (os oes gennych un)
  • siec neu archeb bost i dalu hanner pris y drwydded deledu

Postiwch eich cais i'r:

Adran Trwyddedau Teledu
Grŵp Gostyngiad i'r Deillion
Bryste BS98 1TL.

Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif eich Trwydded Deledu (os oes un gennych).

Dylai eich trwydded deledu newydd eich cyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddyn nhw dderbyn eich cais.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n 75 oed neu'n hŷn gallwch wneud cais am y Drwydded Dros 75 am ddim dros y ffôn.

Ffoniwch yr Adran Trwyddedau Teledu ar 0300 790 6131, minicom 0300 709 6050 (rhwng 8.30 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.30 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn).

Gofynnir i chi roi eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch rhif Yswiriant Gwladol.

Os ydych chi'n 74 oed, gallwch wneud cais am y Drwydded Dros Dro hefyd drwy ffonio'r adran Trwyddedau Teledu ar 0300 790 6131, minicom 0300 790 6050.

Gofynnir i chi roi rhif eich Trwydded Deledu gyfredol ynghyd â'ch enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni a'ch rhif Yswiriant Gwladol.

Trwyddedau ARC am bris gostyngol

Cewch ofyn i'r gweinyddwr yn eich cartref gofal preswyl cymwys wneud cais am drwyddedau ARC ar eich rhan.

Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw

Mae'r drwydded deledu am ddim ar gael ar Guernsey, Alderney a Herm ond nid ar Jersey na Sark.

Cysylltwch â'ch swyddfa fudd-daliadau i gael gwybod a ydych chi'n gymwys i gael trwydded deledu am ddim os ydynt ar gael.

Efallai bydd preswylwyr Jersey sy’n 75 oed neu’n hŷn yn gymwys i gael eu taliad trwydded deledu wedi eu talu gan yr Adran Jersey o’r Nawdd Cymdeithasol.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os byddwch yn symud cartref, rhowch wybod i'r adran Trwyddedau Teledu er mwyn iddyn nhw drosglwyddo'ch trwydded i'ch cyfeiriad newydd.

Gallwch ddiweddaru eich manylion ar y wefan Trwyddedau Teledu.

Neu ffoniwch Trwyddedau Teledu ar 0300 790 6131, minicom 0300 790 6050.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Os oes gennych unrhyw ymholiad am drwyddedau am ddim neu brisiau gostyngol, ffoniwch yr Adran Trwyddedau Teledu 0300 790 6131, minicom 0300 790 6050. Yr oriau swyddfa yw rhwng 8.30 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.30 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU