Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth pellach gan elusennau a mudiadau di-elw i bobl dros 50

Mae elusennau lleol a chenedlaethol a mudiadau di-elw eraill yn gallu rhoi cymorth, cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn a'u gofalwyr. Gallant hefyd eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Age UK

Elusen genedlaethol fawr yw Age UK sy’n cyfuno Help the Aged ac Age Concern. Mae gan Age UK canghennau lleol ac mae’n cynnig amrediad eang o wasanaethau a gweithgareddau cymdeithasol.

Mae'r gwasanaethau'n amrywio o le i le, ond gall y rhai sydd ar gael yn eich ardal gynnwys:

  • clybiau cinio
  • dosbarthiadau ymarfer corff
  • gwasanaethau cymorth emosiynol megis gwasanaethau cwnsela ac ymweld
  • cymorth ymarferol yn y cartref megis cymorth cartref a chymorth gyda garddio
  • gweithgareddau y tu allan i'r cartref megis tripiau
  • hyfforddiant cyfrifiadurol a defnyddio'r rhyngrwyd
  • gwybodaeth a chyngor

Rhif llinell wybodaeth ddi-dâl Age UK yw 0800 00 99 66. Gall ddarparu gwybodaeth gyffredinol a chymorth rhwng 8.00 am a 7.00 pm, bob diwrnod o'r flwyddyn.

Mae gan Age Concern hefyd wasanaeth larwm personol ymateb yn syth a elwir yn Aid-Call. Mae Aid-Call ar gael i bawb heb brawf modd ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn gorfod talu am y gwasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio llinell ymholiadau Aid-Call am ddim ar 0800 772 266 rhwng 9.00 am a 5.30 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyngor Ar Bopeth

Gallwch dderbyn cyngor annibynnol di-dâl gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) leol, beth bynnag y bo'ch oedran.

Mae canolfannau Cyngor ar Bopeth yn cael eu staffio gan wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi, a gallant roi cyngor i chi ar amrywiaeth mawr o faterion, gan gynnwys:

  • sut i reoli a lleihau dyled
  • budd-daliadau a threthiant
  • materion cyfreithiol
  • tai
  • gwahaniaethu
  • problemau defnyddwyr

Mae'r CAB hefyd yn darparu cyngor ar-lein trwy'r wefan Adviceguide. Mae'r wefan yn cynnwys cyngor annibynnol ar eich hawliau ac yn eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gyngor arbenigol os bydd angen mwy o gymorth arnoch chi.

Elusennau lleol eraill

Gall elusennau lleol gynnig cymorth gydag amgylchiadau penodol neu bryder sy'n bersonol i chi.

Mae gormod o elusennau rhanbarthol llai ar gael i'w rhestru, ond mae'r wefan Charitynet yn cynnwys gwefannau mudiadau di-elw ar draws y byd. Ceir cyfarwyddiadau clir ynghylch sut i ddefnyddio'r wefan i ddod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei hangen.

Y Comisiwn Elusennau

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi'i sefydlu drwy gyfraith i weithredu fel cofrestrydd a rheolydd elusennau yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn bryderus ynghylch defnyddio gwasanaethau elusen neu roi rhodd, gallwch ganfod a oes gan elusen statws cyfreithiol (trwy gofrestru gyda'r comisiwn). Neu efallai yr hoffech ddod yn ymddiriedolwr i elusen? Bydd y wefan yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i chi.

Cyngor First Stop Care

Mae Cyngor First Stop Care yn wasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch gofal a thai yn ddiweddarach yn eich bywyd. I ddysgu mwy, ffoniwch linell gymorth rhad y mudiad ar 0800 377 7070 rhwng 9.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae First Stop yn gydweithrediad ar y cyd rhwng Counsel and Care, Elderly Accomodation Counsel, Help the Aged a NHFA Ltd.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU