Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gofalwr

Budd-dal i helpu pobl sy'n gofalu am rywun ag anabledd yw Lwfans Gofalwr. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i'r person yr ydych yn gofalu amdano, na byw gydag ef neu hi. Dewch o hyd i wybodaeth am bwy all gael Lwfans Gofalwr a sut i wneud cais.

Allaf i gael Lwfans Gofalwr?

Gallech gael Lwfans Gofalwr os:

  • ydych yn 16 oed neu drosodd
  • ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun.

Dylent fod yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl (ar y gyfradd ganol neu uchaf ar gyfer gofal personol)
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd uchaf arferol neu uwch gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel

Fodd bynnag, ni allwch gael Lwfans Gofalwr os:

  • rydych mewn addysg llawn amser gyda 21 awr neu fwy’r wythnos o astudiaeth dan oruchwyliaeth - neu’n gwneud cwrs a ddisgrifir yn gwrs llawn amser gan y coleg neu’r sefydliad sy’n ei ddarparu.
  • rydych yn ennill mwy na £100 yr wythnos ar ôl didyniadau penodol (fel Treth Incwm)

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Y gyfradd wythnosol yw £58.45. Bydd y swm hwn yn lleihau yn ôl maint rhai budd-daliadau eraill rydych yn eu derbyn, yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn derbyn £58.45 neu fwy yr wythnos o fudd-daliadau penodol eraill, chewch chi ddim Lwfans Gofalwr hefyd.

Sut i wneud cais am Lwfans Gofalwr

Gallwch ofyn am ffurflen gais dros y ffôn, drwy gysylltu â'r Uned Lwfans Gofalwr neu’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais neu wneud cais ar-lein.

Sut mae Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Os byddwch yn cael Lwfans Gofalwr gall effeithio ar y canlynol ar eich cyfer chi neu’r person rydych chi'n gofalu amdano/i:

  • budd-daliadau
  • lwfansau
  • pensiynau
  • hawliadau

Newidiadau mewn amgylchiadau – i chi neu’r person rydych chi’n gofalu amdano/i

Gall newidiadau i’ch amgylchiadau – ac amgylchiadau’r person rydych chi’n gofalu amdano/i – effeithio ar eich hawl i gael y Lwfans Gofalwr, neu’r swm a gewch.

Er enghraifft, newidiadau i’ch incwm neu gyflogaeth, os byddwch chi’n mynd i fyd addysg amser llawn neu’n cymryd hoe o’ch gwaith gofalu.

Beth arall ddylech ei wybod

Os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr ac yn symud i fyw i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mae’n bosib y byddwch yn parhau i’w dderbyn o dan amgylchiadau penodol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy

Os ydych eisoes yn byw mewn gwlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal yn unig) o dan amgylchiadau penodol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Gwneud cwyn ynghylch y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr

Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac yn rhoi cymorth ariannol i bobl anabl a gofalwyr. Mae’n delio â cheisiadau am Lwfans Gofalwr a llawer o fudd-daliadau anabledd.

Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth rydych yn ei gael gan y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, gallwch wneud cwyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU