Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gweini

Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Gweini y gallech ei gael os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn a bod angen cymorth arnoch gyda gofal personol oherwydd eich bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.

Pwy all gael Lwfans Gweini?

Yn hawlio Lwfans Gweini yn barod ac eisiau rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy

Efallai y cewch chi Lwfans Gweini os yw canlynol yn berthnasol:

  • os oes gennych anabledd corfforol (yn cynnwys anabledd synhwyraidd fel dallineb), neu anabledd meddyliol (yn cynnwys anawsterau dysgu), neu'r ddau
  • os yw eich anabledd mor ddifrifol fel bo angen cymorth arnoch i ofalu amdanoch eich hun neu rywun i’ch goruchwylio, ar gyfer eich diogelwch chi eich hun neu rywun arall
  • os ydych yn 65 neu'n hŷn pan fyddwch yn hawlio

Fel arfer nid effeithir ar Lwfans Gweini gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.

Os ydych o dan 65 oed, efallai y cewch Lwfans Byw i'r Anabl.

Rheolau arbennig - os nad oes gwella arnoch

Mae rheolau arbennig os nad oes gwella arnoch. Golyga hyn pobl sydd â chlefyd cynyddol ac nad oes disgwyl iddynt fyw'n hwy na chwe mis arall. Mae’r rheolau arbennig yn golygu y bydd pobl yn cael y gyfradd uwch o Lwfans Gweini yn syth.

Archwiliadau meddygol

Fel arfer, fyddwch chi ddim angen archwiliad meddygol wrth hawlio Lwfans Gweini. Weithiau bydd angen archwiliad meddygol er mwyn asesu sut y bydd eich cyflwr yn effeithio arnoch.

Os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolenni canlynol.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch.

Mae dwy gyfradd i'r Lwfans Gweini:



Lwfans Gweini Cyfradd wythnosol (blwyddyn dreth 2012-2013)
Cyfradd uwch £77.45
Cyfradd is £51.85

Sut i wneud cais am Lwfans Gweini

Gwnewch gais yn syth - neu efallai y byddwch chi'n colli'r budd-dal.

Gallwch wneud cais ar-lein neu gael pecyn cais drwy:

  • ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau
  • lawrlwytho’r ffurflen gais

Cewch wybod mwy yn 'Lwfans Gweini - cyfraddau a sut i hawlio'.

Sut mae Lwfans Gweini yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Os byddwch yn dechrau cael Lwfans Gweini, efallai y bydd yn cynyddu swm y budd-daliadau a'r cymorth ariannol y mae gennych hawl iddynt.

Efallai y cewch swm ychwanegol am anabledd difrifol gyda:

  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Credyd Pensiwn

Fel arfer mae'r Lwfans Gweini'n cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm a hawliadau eraill.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

I gael Lwfans Gweini, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran eich preswyliaeth a phresenoldeb.

Hefyd, gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar faint eich Lwfans Gweini, neu a fyddwch yn ei gael neu beidio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU