Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae rhai amodau penodol ynglŷn â ble rydych chi’n byw y mae angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Gweini. Mae hefyd angen i chi ddweud wrth y swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar eich cymhwysedd i gael Lwfans Gweini, neu'r swm yr ydych yn ei gael. I roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, cysylltwch â Llinell gymorth Budd-daliadau Anabledd.
Dyma rhai enghreifftiau o newidiadau sydd angen i chi roi gwybod amdanynt.
Newidiadau yn eich anabledd neu eich cyflwr meddygol
Os bydd eich cyflwr chi, neu gyflwr rhywun rydych yn gofalu amdanynt, yn gwaethygu a bod angen mwy o gymorth arnoch, gallai hyn olygu y gallwch chi, neu'r person anabl, gael mwy o arian.
Ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
Os ydych chi, neu rywun rydych yn gwneud cais ar eu rhan, yn mynd i ysbyty'r GIG neu'n gadael yr ysbyty, mae angen i chi roi gwybod am hyn. Gall cyfnod mewn ysbyty effeithio ar eich Lwfans Gweini.
Os byddwch chi, neu rywun yr ydych yn gwneud cais ar eu rhan, yn mynd mewn neu’n gadael cartref gofal, mae angen i chi roi gwybod am hyn hefyd. Gall cyfnod parhaol neu dros dro effeithio ar eich Lwfans Gweini.
Mae angen i chi roi gwybod os ydych chi’n mynd dramor am gyfnod dros dro neu i fyw mewn gwlad arall. Os ydych yn ymweld â gwlad dramor dros dro, efallai y gallwch barhau i gael Lwfans Gweini:
Os ydych yn bwriadu mynd i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael Lwfans Gweini fel arfer.
Os byddwch yn symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu i'r Swistir a'ch bod eisoes yn cael Lwfans Gweini, fe allwch barhau i'w gael dan rai amgylchiadau.
I gael y Lwfans Gweini, rhaid eich bod yn gyffredinol:
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn byw neu’n gweithio yn, neu wedi dod o wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu yn y Swistir, gall amodau eraill fod yn gymwys.
Mae’n bosib y gallech gael Lwfans Gweini os ydych naill ai:
Gellir eich trin fel rhywun sy'n byw ym Mhrydain Fawr:
Byw mewn gwlad Ewropeaidd arall
Os ydych chi eisoes yn byw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, gallwch gael rhagor o wybodaeth os gallwch gael Lwfans Gweini yn y wlad rydych yn byw ynddi drwy ddefnyddio’r ddolen isod.