Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pwrpas archwiliad meddygol ar gyfer eich Lwfans Gweini yw cael darlun cyffredinol o sut mae'ch salwch neu'ch anabledd yn effeithio arnoch dros gyfnod o amser. Nid yw’n gipolwg o'ch iechyd ar ddiwrnod eich apwyntiad.
Hawlio Lwfans Gweini yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy
Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os bydd eich cyflwr yn newid o dro i dro ac ai diwrnod da ynteu ddiwrnod gwael yw'r diwrnod hwnnw.
Cyn eich archwiliad meddygol, mae'n syniad da i feddwl sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd. Efallai yr hoffech feddwl am y pethau hyn:
Bydd y meddyg tystiolaeth o bwy ydych chi cyn dechrau'r archwiliad, er mwyn cadarnhau mai chi yw'r person y maen nhw i fod i ymweld.
Bydd eich pasbort, os oes gennych un, yn ddogfen ddigonol ar ei phen ei hun. Neu fe ofynnir i chi ddangos tair dogfen, er enghraifft, eich tystysgrif geni, trwydded yrru lawn, eich polisi aswiriant bywyd a chyfriflenni banc.
Gall eich archwiliad meddygol cynnwys prawf golwg neu brawf clyw, os yw hyn yn berthnasol i'ch anabledd. Mae'n bosib y bydd y meddyg am eich gweld yn defnyddio unrhyw gymhorthion y byddech chi fel arfer yn eu defnyddio.
Hyd
Fel canllaw bras, fe ddylech ganiatáu oddeutu awr ar gyfer eich archwiliad. Weithiau, fe ellir cyflawni archwiliadau meddygol mewn llai o amser o lawer, yn enwedig os dim ond ar un broblem benodol y bydd y meddyg yn edrych arno.
Y cyfweliad
Bydd y meddyg yn eich holi am y math o gymorth y mae ei angen arnoch yn ystod y dydd a'r nos. Mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch chi i'r meddyg. Os bydd rhywun arall yn dod i'r archwiliad meddygol gyda chi i fod yn gefn i chi, mae'n bosib y bydd y meddyg yn gofyn am eich caniatâd i holi'r person hwnnw ar wahân.
Bydd y meddyg yn ysgrifennu datganiad i gofnodi'r hyn a ddywedasoch yn y cyfweliad. Bydd y wybodaeth hon yn rhoi darlun cliriach o'ch anghenion i'r swyddog gwneud penderfyniadau.
Yr archwiliad corfforol
Mae'n bosib y bydd y meddyg yn penderfynu y byddai archwiliad corfforol yn ddefnyddiol. Dylent wastad esbonio beth fydd hyn yn ei olygu yn gyntaf a gwneud yn siŵr eich bod yn fodlon i'r archwiliad fynd yn ei blaen. Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os byddwch chi'n teimlo unrhyw boen. Ni fyddant yn gofyn i chi wneud dim byd sy'n peri poen i chi.
Adroddiad y meddyg
Bydd y meddyg yn ysgrifennu adroddiad am ei gasgliadau ar sail yr archwiliad ac yn ei ddychwelyd i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Fel arfer, ysgrifennir yr adroddiad hwn ar ôl yr archwiliad, ac ni fyddwch yn ei weld cyn iddo gael ei gyflwyno i'r swyddog gwneud penderfyniadau.
Gallwch ofyn am gopi o adroddiad y meddyg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddant hwy yn ei anfon atoch drwy'r post.