Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallwch gael Lwfans Gweini os ydych yn 65 oed neu drosodd ac angen cymorth gyda gofal personol neu oruchwyliaeth i’ch cadw’n ddiogel.
Hawlio Lwfans Gweini yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy
I gael Lwfans Gweini, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol fel bod angen unrhyw un o’r canlynol arnoch:
Mae dwy gyfradd i'r Lwfans Gweini, gan ddibynu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch chi:
Gallwch gael Lwfans Gweini hyd yn oed pan nad oes rhywun yn rhoi'r gofal sydd ei angen arnoch i chi - hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.
Os oes gennych salwch cynyddol ac nad oes disgwyl rhesymol i chi fyw am fwy na chwe mis arall, mae yna reolau arbennig i'ch helpu i gael Lwfans Gweini yn gyflymach ac yn rhwyddach. Gallwch gael y gyfradd uwch ar unwaith, beth bynnag yw eich anghenion gofal heb aros nes eich bod wedi bod angen help am chwe mis.
Gallwch wneud cais ar gyfer rhywun dan y rheolau arbennig heb iddynt wybod neu heb eu caniatâd. Os ydynt yn bodloni'r amodau perthnasol, byddant yn cael llythyr yn dweud y byddant yn cael Lwfans Gweini, ond heb sôn am y rheolau arbennig.
I wneud cais o dan y rheolau arbennig hyn, llenwch ffurflen gais Lwfans Gweini a ffurflen DS1500 ar wahân sydd wedi’i chwblhau gan eich meddyg, arbenigwr neu ymgynghorwr i'w hanfon gyda hi.
Gellwch gael gwybod mwy am ofalu am rywun sydd â salwch terfynol yn yr adran 'gofalu am rywun'.
Mae rhai amodau em eich amgylchiadau a lle rydych yn byw, y bydd angen i chi eu bodloni i gael Lwfans Gweini.