Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Lwfans Gweini'n cael ei dalu ar ddwy gyfradd yn dibynnu ar sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch. Mae'r pecyn cais yn rhoi rhai enghreifftiau o wahanol lefelau o anghenion gofal. Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini ar-lein.
Lwfans Gweini | Cyfradd wythnosol |
---|---|
Cyfradd uwch | £77.45 |
Cyfradd is | £51.85 |
Hawlio Lwfans Gweini yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy
Gwnewch gais yn syth - os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.
Gallwch wneud cais ar-lein neu gael pecyn cais drwy:
I wneud cais am Lwfans Gweini ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Gwasanaeth rhadffôn cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a gofalwyr. Gallwch ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-dalaidau a gofyn iddynt anfon pecyn cais atoch. Gallant anfon y pecyn cais atoch mewn fformat gwahanol os oes angen - er enghraifft, mewn Braille.
Gallant hefyd drefnu i rywun eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen. Cofiwch, efallai y bydd y person ar ochr arall y ffôn yn gorfod trefnu i rywun eich ffonio'n ôl.
Ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Text Relay.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os gofynnwch am becyn cais gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau bydd dyddiad eich galwad ffôn yn cael ei drin fel eich dyddiad cais, sef o pryd y gall y Lwfans Gweini gael ei dalu, cyn belled eich bod yn anfon y ffurflen yn ôl o fewn chwe wythnos i'r dyddiad hwnnw. Os byddwch yn oedi gyda gwneud cais am y lwfans, efallai y byddwch yn colli arian.
Ni fydd eich papurau personol gan y person ar ochr arall y ffôn ond bydd yn gallu rhoi cyngor cyffredinol i chi. Ni ddylid cymryd y cyngor hwn fel penderfyniad am eich cais.
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais oddi ar y we, ei hargraffu â'i llenwi gyda beiro. Neu gallwch lenwi'r ffurflen ar eich cyfrifiadur a'i hargraffu wedyn. Mae nodiadau gyda'r ffurflen a fydd yn eich helpu i'w llenwi ac yn dweud wrthych ble i'w hanfon. Byddwn yn trin y dyddiad rydym yn derbyn eich ffurflen yn ôl fel dyddiad eich cais.
Os ydych yn bwriadu llenwi'r ffurflen ar eich cyfrifiadur, awgrymir eich bod yn cadw'r ffurflen ar eich cyfrifiadur cyn ei llenwi. I wneud hyn cliciwch fotwm de'r llygoden ar y ddolen isod a dewis yr opsiwn 'Save Target As'. Allwch chi ddim cadw'r ffurflen unwaith y byddwch wedi'i hagor mewn porydd rhyngrwyd.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch ei hargraffu a'i llofnodi.
Os byddwch yn cael problemau technegol - er enghraifft, gyda lawrlwytho'r ffurflen, llywio o gwmpas y ffurflen ac argraffu copi caled - cysylltwch â'r ddesg gymorth eWasanaeth:
Ffôn: 0845 601 80 40
Ffôn testun: 0845 601 80 39
E-bost:
eservicehelpdesk@dwp.gsi.gov.uk
Mae'r ddesg gymorth eWasanaeth ar agor rhwng 8.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Unwaith rydych wedi gwneud eich cais, gallwch gael cyngor am Lwfans Gweini gan linell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl/Lwfans Gweini.
Ffôn: 08457 123 456
Ffôn testun: 08457 22 44 33
Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 7.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost:
Gwasanaeth.cwsmeriaid@dwp.gsi.gov.uk
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Text Relay.
Fel arfer bydd yn cymryd oddeutu 40 diwrnod gwaith i ddelio gyda'ch cais, oni wneir y cais o dan y rheolau arbennig. Os caiff hawl ei wneud o dan y rheolau arbennig, bydd yn cael sylw'n llawer cynt.
Os bydd eich cais am Lwfans Gweini'n llwyddiannus, efallai y cewch ragor o arian am anabledd difrifol a delir fel rhan o'r canlynol:
Os oes rhywun yn gwneud cais am Lwfans Gofalwr am ofalu amdanoch ac mae Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu iddynt, efallai na fyddwch yn gallu derbyn y swm ychwanegol hwn.
Gallwch lawrlwytho taflen gyda’r wybodaeth a chyngor hyn am Lwfans Gofalwr.
Am ragor o wybodaeth, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch cais neu gysylltu â'r llinell gymorth Lwfans Byw i'r Anabl/Lwfans Gweini.
Os ydych yn derbyn Lwfans Gweini ac yn byw yn Lloegr, gallwch gael grant gan y cynllun Ffrynt Cynnes i'ch helpu gyda chostau inswleiddio a gwelliannau gwresogi eraill.
Os byddwch chi'n credu bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gan amlaf, fe allwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os oes gennych unrhyw gwynion neu sylwadau am y ffordd y cafodd eich cais am fudd-dal ei drin a'r gwasanaeth a gawsoch, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.