Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gofynnir i rai pobl sy'n gwneud cais am Lwfans Gweini gael archwiliad meddygol. Fel arfer, gwneir hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth am eich anabledd neu'ch salwch cyn y gellir gwneud penderfyniad ar eich cais.
Hawlio Lwfans Gweini yn barod ac am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau – cael gwybod mwy
Mae archwiliad meddygol yn golygu cyfweliad ac weithiau archwiliad meddygol gan feddyg sydd wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol ym maes ymwybyddiaeth o anabledd a budd-daliadau.
Mae'r archwiliad yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan eich meddyg teulu eich hun. Nid bwriad archwiliad meddyg y Gwasanaethau Meddygol yw rhoi diagnosis neu drafod sut mae trin eich cyflwr meddygol; ei bwrpas yw asesu sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi ac mae'n bosib na fydd rhaid i'r meddyg wneud archwiliad corfforol.
Dyma'r bobl a'r sefydliadau sy'n ymwneud â phroses yr archwiliad meddygol:
Mae'n bosib bod sawl rheswm dros ofyn i chi ddod am archwiliad meddygol. Nid yw'n golygu bod y wybodaeth roesoch chi ar eich ffurflen gais yn cael ei hystyried yn amheus nac y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Gallai un o'r rhesymau posibl dros archwiliad meddygol fod i weld os ydych chi'n cael y swm llawn o fudd-dal mae gennych hawl iddo.
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am y Lwfans Gweini yn y lle cyntaf, anfonir ffurflen gais atoch i'w llenwi. Asesir eich ffurflen gais cyflawn gan y swyddog gwneud penderfyniadau, a rhaid iddynt benderfynu a ddylid cymeradwyo'ch cais, ac os felly, a oes gennych chi'r hawl i gael y Lwfans Gweini ar y gyfradd uchaf neu ar y gyfradd isaf.
Mae'n bosib y bydd swyddogion penderfyniadau yn gofyn am archwiliad meddygol os oes angen rhagor o wybodaeth arnynt cyn gwneud penderfyniad, neu os ydynt yn ansicr ynghylch unrhyw fanylion.
Os oes gennych salwch terfynol ac nad oes disgwyl i chi fyw'n hwy na chwe mis, mae yna reolau arbennig i'ch helpu i gael eich budd-dal yn sydyn ac yn rhwydd. Mae'n annhebygol iawn y gofynnir i chi gael archwiliad meddygol.
Os dyfarnwyd Lwfans Gweini i chi am gyfnod penodol, rhaid i chi wneud cais arall i adnewyddu eich budd-dal ychydig cyn i'ch hawl ddod i ben. Gelwir hyn yn 'gais adnewyddu'. Ymdrinnir â cheisiadau adnewyddu yn yr un ffordd yn union â cheisiadau newydd, felly, mae'n bosib y gofynnir i chi ddod am archwiliad meddygol.
Fel arfer, cynhelir yr archwiliad meddygol yn eich cartref chi'ch hun (neu yn lle bynnag y byddwch chi'n byw) ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae'n bosib hefyd y caiff ei gynnal mewn Canolfan Archwiliadau Meddygol yn eich ardal chi. Fe ddylech gael saith diwrnod o rybudd cyn yr archwiliad, ond fe allech ofyn am apwyntiad cyn hynny petai'n well gennych.
Os byddwch yn methu eich apwyntiad cyntaf, rhaid i'r meddyg roi ail gynnig ar ymweld â chi. Os methwch chi ddau apwyntiad, neu os gwrthodwch chi fynychu, mae'n bosib y gwrthodir eich cais am fudd-dal.
Mae gennych hawl i:
Rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaethau Meddygol ymlaen llaw os ydych chi'n dymuno cael cyfieithydd neu feddyg o'r un rhyw â chi. Byddant yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i un i chi, ond ni fydd hyn bob tro'n bosib mewn rhai ardaloedd.