Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gofalu am rywun sy'n angheuol wael

Mae cymorth ariannol, ymarferol ac emosiynol ar gael i chi a’r person yr ydych yn gofalu amdano. Efallai y byddwch am ystyried dewisiadau eraill i ofalu am y person gartref.

Cymorth ariannol

Budd-daliadau i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano

Mae’n bosib y bydd gan y sawl yr ydych yn gofalu amdano hawl i’r canlynol:

  • Lwfans Byw i'r Anabl, os ydynt dan 65 oed ac angen cymorth gyda gofal personol a/neu i symud o gwmpas
  • Lwfans Gweini, os ydynt yn 65 oed neu'n hŷn ac angen cymorth gyda gofal personol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os ydynt o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod ganddynt salwch neu anabledd sy'n effeithio ar eu gallu i weithio

Mae rheolau arbennig i helpu pobl sy'n angheuol wael i gael Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gyflym ac yn hawdd.

Lwfans Gofalwr

Fel gofalwr, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn Lwfans Gofalwr. Gallwch barhau i dderbyn hwn am hyd at 12 wythnos os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n mynd i'r ysbyty, a hyd at bedair wythnos os byddant yn mynd i gartref gofal - ar yr amod bod rhai amodau penodol yn cael eu cyflawni.

Os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n marw, bydd y Lwfans Gofalwr fel arfer yn dod i ben ar ôl wyth wythnos.

Cymorth ymarferol

Cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol

Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol gynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol a chyfarpar i bobl sy'n angheuol wael.

Asesiadau gan eich gwasanaethau cymdeithasol lleol

Asesiad gyda gwasanaethau cymdeithasol yw'r cam cyntaf ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth ar eich cyfer chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano. Mae gan y sawl yr ydych yn gofalu amdano hawl i gael asesiad iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae gennych chi fel gofalwr hawl i gael asesiad gofalwr.

Cymorth emosiynol

Er y gall ffrindiau a theulu ddarparu cymorth emosiynol yn ystod y cyfnod anodd hwn, efallai y cewch hi'n haws siarad â chwnselydd proffesiynol neu â gofalwyr eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Mae'n bosib y gall y sawl yr ydych yn gofalu amdano ac aelodau eraill o'r teulu gael budd o gwnsela hefyd.

Dod o hyd i gwnselydd

Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain yw'r corff proffesiynol ar gyfer cwnselwyr. Gallwch chwilio am gwnselwyr cofrestredig yn eich ardal ar eu gwefan.

Grwpiau cefnogaeth i ofalwyr

Mae'n bosib y bydd grwpiau cefnogaeth i ofalwyr yn eich ardal leol, a allai roi cyfle i chi i siarad â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa â chi.

Cymorth gyda gofalu am rywun gartref

Gofal meddygol a nyrsio

Os bydd ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano angen gofal meddygol neu ofal nyrsio arbenigol er mwyn iddyn all parhau i fyw gartref, gallwch drefnu hyn trwy eu meddyg. Dyma rai o'r gwasanaethau a allai fod ar gael:

  • ymweliadau gan nyrs gymunedol - er enghraifft i newid rhwymau, i roi pigiadau neu i'w helpu i gael bath neu fynd i'r toiled
  • cymorth i gael y person i mewn ac allan o’r gwely

Gall gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) amrywio o ranbarth i ranbarth, ond bydd bob amser yn rhad ac am ddim.

Seibiannau byr

Mae'n bosib y byddwch chi a'r sawl yr ydych yn gofalu amdano yn elwa o gael seibiant byr o ofalu o bryd i'w gilydd. Weithiau, gelwir hyn yn 'ofal seibiant'. Gallwch drefnu seibiannau byr trwy'ch adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Efallai y gall grŵp gofalwyr lleol ddarparu ychydig o gymorth hefyd, er enghraifft, hanner diwrnod o ofal ryw unwaith neu ddwy y mis.

Cyflogi gofalwr proffesiynol

Os ydych yn gofalu am rywun sydd angen llawer o ofal, gallwch ddewis cyflogi gofalwr neu ofalwyr proffesiynol i rannu'r baich o ofalu gyda chi.

Dewisiadau eraill yn lle gofalu am rywun gartref

Gofal hosbis

Unedau preswyl yw hosbisau sy'n darparu gofal yn benodol ar gyfer pobl sy'n angheuol wael, ac sy'n cynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n gofalu amdanynt.

Mae hosbisau'n arbenigo mewn gofal lliniarol, sy'n anelu at wneud diwedd bywyd person mor gyfforddus â phosib ac i leddfu eu symptomau pan na fydd iachâd yn bosib mwyach. Caiff hosbisau eu rhedeg gan dîm o feddygon, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr a gwirfoddolwyr hyfforddedig. Bydd llawer o hosbisau'n cynnig cwnsela adeg profedigaeth.

Weithiau, gall staff hosbisau ymweld â phobl gartref, ac maent yn aml ar alwad 24 awr y dydd. Mae hefyd yn bosib i gleifion dderbyn gofal dydd yn yr hosbis heb symud i fyw yno, neu i aros yno am gyfnod byr er mwyn rhoi seibiant i'w gofalwyr.

Ni chodir tâl am ofal hosbis, ond rhaid i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano fod wedi'i gyfeirio at hosbis gan eu Meddyg Teulu, meddyg ysbyty neu nyrs ardal

Gofal ysbyty

Efallai y bydd adegau pan fydd angen i berson angheuol wael fynd i'r ysbyty. Panfo’r sawl yr ydych yn gofalu amdano'n dychwelyd adref ar ôl arhosiad yn yr ysbyty, dylai'r GIG a'ch cyngor lleol gydweithio i ddiwallu eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol parhaus. Dylid asesu anghenion y person cyn iddynt adael yr ysbyty, a dylid trefnu pecyn gofal ar eu cyfer.

Cartrefi gofal

Os bydd ar y sawl yr ydych yn gofalu amdano angen lefel o gymorth nad oes modd ei ddarparu yn eu cartref eu hunain, yna, efallai mai cartref gofal yw'r ateb. Ceir gwybodaeth fanwl am gartrefi gofal yn adran 'iechyd a lles' Cross & Stitch.

Helpu'r sawl yr ydych yn gofalu amdano i baratoi ar gyfer marwolaeth

Mae'n naturiol i rywun sy'n angheuol wael ddymuno trefnu eu materion a gwneud penderfyniadau ynghylch pa fath o driniaeth feddygol y dymunant - neu na ddymunant - ei chael ar ddiwedd eu bywyd. Mae adran 'llywodraeth, dinasyddion a hawliau' Cross & Stitch yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ewyllysiau, ewyllysiau byw a'r hawl i wrthod triniaeth feddygol ac adfywiad.

Pan fo'r sawl yr ydych yn gofalu amdano'n marw

Beth i'w wneud ar ôl marwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, mae rhai pethau y bydd angen i chi eu gwneud ar unwaith, neu o fewn y diwrnodau a'r wythnosau cyntaf. Mae adran ‘llywodraeth, dinasyddion a hawliau’ Cross & Stitch yn cynnwys arweiniad ar beth i'w wneud ar ôl marwolaeth.

Cwnsela mewn profedigaeth

Pan fydd rhywun agos atoch yn marw, efallai y gallech elwa o gwnsela gan gwnselydd profedigaeth arbenigol. Gall yr elusen Gofal Galaru Cruse eich helpu gyda hyn.

Budd-daliadau a phrofedigaeth

Os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano'n marw, bydd y Lwfans Gofalwr fel arfer yn dod i ben ar ôl wyth wythnos.

Os yw eich priod neu'ch partner sifil wedi marw, mae'n bosib y gallwch hawlio un neu fwy o'r budd-daliadau profedigaeth canlynol:

  • taliad profedigaeth - taliad unigol di-dreth i bobl sydd dan oedran pensiwn y wladwriaeth pan fydd eu priod neu'u partner sifil yn marw
  • lwfans rhiant gweddw - ar gyfer pobl sydd â phlant yn ddibynnol arnynt
  • lwfans profedigaeth - ar gyfer y rhai hynny sy'n 45 oed neu'n hŷn pan fydd eu priod neu'u partner sifil yn marw

Allweddumynediad llywodraeth y DU