Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ar ôl gadael yr ysbyty

Dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac awdurdodau lleol gydweithio i ddiwallu'ch anghenion os bydd dal gennych anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.

Ar ôl cael eich asesu, mae 'na nifer o opsiynau gofal posibl gan gynnwys:

  • cefnogaeth gartref gyda phecyn gofal o ofal cymdeithasol ac iechyd
  • tai gwarchod
  • cartref gofal nad yw'n darparu gofal nyrsio
  • cartref gofal sy'n darparu gofal nyrsio
  • cael eich derbyn ar gyfer gofal parhaus (tymor hir) y GIG
  • gofal mewn canolfan ailsefydlu

Os oes gennych ofalwr a bod angen cymorth ychwanegol arnoch bryd rydych yn dychwelyd i’ch cartref, gyda’ch caniatâd, gellir dangos iddynt unrhyw drefniadaeth arbennig a rhoi iddynt wybodaeth ynghylch eich anghenion gofal parhaol.

Gofal parhaus (tymor hir) y GIG

Gall gofal parhaus gynnwys gofal iechyd a chymdeithasol. Mae 'gofal parhaus' y GIG a ariennir yn llawn yn becyn gofal a drefnir ac a ariennir yn llwyr gan y GIG. Er mwyn cael gafael ar y gofal hwn, rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwysedd a bennir gan eich awdurdod iechyd strategol. Os bydd staff yn teimlo eich bod yn gymwys, byddant yn gwneud cais ar eich rhan.

Mae 'gofal iechyd a chymdeithasol parhaus' yn becyn gofal lle darperir gwasanaethau gan y GIG a gofal cymdeithasol.

Os byddwch yn bodloni meini prawf eich awdurdod iechyd strategol ar gyfer gofal parhaus y GIG, bydd y GIG yn talu am eich holl anghenion gofal. Gallai hyn fod mewn cartref gofal neu weithiau yn eich cartref eich hun.

Os na fyddwch yn bodloni meini prawf eich awdurdod iechyd strategol am ofal parhaus y GIG, efallai y bydd dal gennych hawl i gael cefnogaeth gan sefydliadau iechyd megis eich ymddiriedolaeth gofal sylfaenol leol a'ch awdurdod lleol. Pan fyddant wedi asesu eich bod yn barod i adael yr ysbyty, dylai'r tîm sy'n gyfrifol am y broses drefnu asesiadau er mwyn canfod eich anghenion a gwneud atgyfeiriadau priodol ar eich cyfer.

Ailsefydlu

Ceir nifer o ganolfannau ailsefydlu ar hyd a lled y wlad. Yn y rhain ceir cyfleusterau i helpu gyda'r gwaith o ailsefydlu pobl gyda namau oherwydd anaf neu salwch.

Dyma fathau o gefnogaeth:

  • ffisiotherapi
  • therapi lleferydd
  • therapi galwedigaethol

Gall eich meddyg lleol neu eich ymgynghorydd ysbyty eich cyfeirio i ganolfan ailsefydlu.

Additional links

Gweler hefyd...

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU