Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yn yr ysbyty

Os byddwch yn mynd i ysbyty am ymgynghoriad neu am gyfnod hwy, efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried rhai pethau cyn, yn ystod ac ar ôl yr arhosiad.

Mae hyn yn cynnwys:

  • rhoi gwybod i'r ysbyty am natur eich anabledd
  • pa gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch oherwydd eich anabledd
  • beth sy'n digwydd i unrhyw fudd-daliadau neu gymorth ariannol yr ydych yn eu derbyn fel arfer

Mynd i'r ysbyty

Pan fyddwch yn mynd i'r ysbyty, bydd 'ffurflen dderbyn' yn cael ei llenwi gennych chi ac un o staff yr ysbyty. Dyma'r drefn arferol ar gyfer pawb. Weithiau gallwch lenwi'r ffurflen hon cyn mynd i mewn i'r ysbyty.

Mae'r ffurflen yn cofnodi unrhyw anghenion yr ydych am i'r ysbyty fod yn ymwybodol ohonynt. Ei bwriad yw rhoi syniad i staff yr ysbyty am faint o gymorth y byddwch ei angen yn ystod eich arhosiad yno.

Os bydd eich meddyg lleol yn eichcyfeirio am driniaeth mewn ysbyty, dylai drafod unrhyw anghenion penodol sydd gennych gyda staff yr ysbyty, er enghraifft, meddyginiaethau.

Os ydych yn derbyn gofal gartref fel arfer, efallai yr hoffech gynnwys y person hwnnw pan fyddwch yn siarad â staff yr ysbyty.

Apwyntiadau ac ymgynghoriadau

Gall fod yn bwysig iawn gwneud rhai trefniadau cyn mynd i'r ysbyty am ymgynghoriad neu arhosiad hwy. Er enghraifft, os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw, gellir gwneud trefniadau i ddehonglydd iaith arwyddion fod yn bresennol am gyfnod penodol.

Mae rhai mudiadau sy'n cefnogi pobl gydag anableddau penodol yn rhoi cyngor am aros mewn ysbyty.

Yn yr ysbyty

Gallwch drafod unrhyw ofynion sydd gennych gyda staff yr ysbyty, cyn mynd i'r ysbyty neu ar ôl cyrraedd yr ysbyty. Gallai hyn gynnwys:

  • unrhyw arferion bob dydd sydd gennych
  • cyfarpar arbenigol na fydd yr ysbyty'n gallu'i ddarparu o bosib
  • gallu cael rhywun gyda chi ar amseroedd penodol, er enghraifft, gofalwr
  • mynediad hwylus i gyfleusterau, er enghraifft, toiledau ac ystafelloedd ymolchi
  • gallu mwynhau'r teledu neu'r radio, er enghraifft, defnyddio is-deitlau neu ddolen sefydlog

Cymorth ariannol a budd-daliadau

Os ydych yn mynd i mewn i'r ysbyty dylech roi gwybod yn syth i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac, os oes raid, swyddfa'r cyngor sy'n delio gyda'ch hawliadau am Fudd-dal Tai a Threth Gyngor.

Mae hyn yn bwysig gan yn y rhan fwyaf o achosion bydd rhaid ailasesu eich hawl i fudd-dal oherwydd eich amgylchiadau newydd.

Os nad oeddech yn hawlio unrhyw fath o fudd-dal cyn mynd i mewn i'r ysbyty, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais.

Additional links

Gweler hefyd...

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU