Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel sy'n digwydd adeg eich derbyn i ysbyty, dylai'r trefniadau ar gyfer gadael yr ysbyty, y 'cynllun rhyddhau', ddilyn trefn safonol.
Dylai pob ysbyty gael ei bolisi a'i drefniadau ei hun ar gyfer rhyddhau cleifion. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes angen gofal parhaus arnoch. Gallai'r gofal y bydd ei angen arnoch fod yn ychwanegol, neu'n wahanol, i'r gefnogaeth yr ydych wedi'i derbyn yn y gorffennol.
Bydd nyrs benodedig neu gydlynydd gofal ar ward, yn gyfrifol am eich ymadawiad â'r ysbyty. Dylai'r ysbyty drefnu cludiant i chi hefyd os oes rhaid. Dylai'r ysbyty gysylltu â'ch meddyg lleol i roi gwybod iddo am eich statws neu statws eich plentyn.
Os ydych newydd ddod yn anabl, neu wedi rhoi genedigaeth i blentyn anabl, bydd yr ysbyty'n hysbysu'r gwasanaethau cymdeithasol lleol yn awtomatig er mwyn iddynt allu darparu cefnogaeth.
Dylech dderbyn gwybodaeth briodol am eich anabledd ac am fudiadau a grwpiau cefnogi perthnasol posibl, yn ogystal â gwybodaeth am eich hawl i unrhyw fudd-daliadau, a sut i gael cefnogaeth a chyfarpar.
Dyma bethau eraill i'w hystyried wrth adael yr ysbyty:
Gellir cael gwybodaeth am fudiadau anabledd a grwpiau cymorth hefyd yn adran 'Cysylltiadau ar gyfer pobl anabl' y wefan hon.
Os bydd angen cymorth iechyd a chymdeithasol parhaus arnoch ar ôl gadael yr ysbyty, bydd tîm, a all gynnwys ymgynghorydd, meddygon, nyrsys a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol, yn cynnal asesiad. Gelwir hwn yn asesiad amlddisgyblaethol.
Mae pob cyngor lleol yn gosod ei 'feini prawf cymhwysedd' ei hun ar gyfer gofal a fydd wedyn yn effeithio ar y math a lefel o gefnogaeth y byddwch yn ei derbyn. Efallai y codir tâl am wasanaethau a ddarperir gan gyngor lleol.
Dylech fod yn chwarae rhan lawn yn y broses asesu. Dylech hefyd gael gwybod am y drefn gwyno rhag ofn na fyddwch yn hapus gyda chanlyniad yr asesiad.
Bydd gan y rhan fwyaf o dimau weithiwr cymdeithasol a fydd yn gwneud yn siwr fod y gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am unrhyw gymorth ychwanegol y bydd ei angen arnoch gartref. Gall arbenigwyr eraill fod yn rhan o'r tîm, megis therapyddion galwedigaethol.
Os oeddech yn derbyn gwasanaethau cyn mynd i aros i'r ysbyty, efallai mai dim ond adfer y gwasanaethau presennol y bydd yn rhaid ei wneud ar ôl i chi adael.
Ni ddylech gael eich rhyddhau o'r ysbyty cyn y bydd y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch wedi'u trefnu.