Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Aros yn yr ysbyty a'ch budd-daliadau

Gall cyfnod mewn ysbyty effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn, gan gynnwys Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, a Budd-dal Analluogrwydd. Os bydd rhywun yn derbyn Lwfans Gweini gan eu bod yn gofalu amdanoch chi, gall mynd i'r ysbyty effeithio ar hyn hefyd.

Lwfans Byw i'r Anabl

Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, ni fydd unrhyw beth fel arfer yn digwydd i'ch Lwfans Byw i'r Anabl yn syth.

Os yw'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei dalu i berson 16 oed neu hŷn, bydd yn stopio fel arfer os yw'r person wedi bod yn yr ysbyty am 4 wythnos.

Os telir y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plentyn dan 16 oed, bydd yn stopio fel arfer wedi i'r plentyn fod yn yr ysbyty ar ôl 12 wythnos.

Lwfans Gweini

Bydd y Lwfans Gweini'n stopio fel arfer wedi i chi fod yn yr ysbyty am bedair wythnos.

Budd-dal Analluogrwydd

Bydd y Budd-dal Analluogrwydd yn stopio fel arfer wedi i chi fod yn yr ysbyty am 52 wythnos.

Dweud am ymweliadau ag ysbytai

Lwfans Byw i’r Anabl a'r Lwfans Gweini

Rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr pan fyddwch yn mynd i mewn i'r ysbyty ac yn gadael. Rhaid i chi hefyd ddweud os oes rhywun yr ydych yn cael budd-dal ar ei gyfer yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Budd-dal Analluogrwydd

Rhaid i chi ddweud wrth eich Canolfan Waith os ydych wedi bod yn yr ysbyty am 52 wythnos a bod rhan o'ch budd-dal yn cael ei dalu i blentyn neu oedolyn arall. Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich Canolfan Gwaith pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.

Pensiwn y Wladwriaeth a chredyd pensiwn

Mae’n bosib y bydd eich pensiwn y wladwriaeth yn cael ei effeithio gan ymweliadau yn yr ysbyty. Gweler yr adran bensiynau am ragor o fanylion.

Lwfans Gofalwr

Os bydd rhywun yn derbyn Lwfans Gofalwr gan eu bod yn gofalu amdanoch chi, gall hyn barhau am hyd at 12 wythnos os byddwch chi - neu nhw - yn mynd i'r ysbyty. Fodd bynnag, bydd y Lwfans Gofalwr yn stopio os bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl neu'ch Budd-dal Analluogrwydd yn stopio. Fel arfer, bydd hyn ar ôl i chi fod yn yr ysbyty am bedair wythnos.

Rhaid i ofalwyr ddweud wrth y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr os ydynt hwy, neu'r sawl y maent yn gofalu amdanynt, yn mynd i mewn neu'n dod allan o'r ysbyty. Gall gofalwyr roi gwybod am gyfnodau mewn ysbytai ar-lein gan ddefnyddio e-wasanaeth y Lwfans Gofalwr. Gallant hefyd gysylltu â'r uned Lwfans Gofalwr yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.

Additional links

Gweler hefyd...

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU